Banc Cwtch i Fabanod
Rhoddwyd sylw i elusen yn Ffynnon Taf ar Heno ym mis Mawrth. Cychwynnwyd Banc Cwtch i Fabanod yn 2016 i ddosbarthu dillad a defnyddiau babanod i deuluoedd bregus yn y gymuned. Sylfaenydd yr elusen yw Hilary Johnston a fu’n fam maeth am flynyddoedd ond yn ymddeol. Roedd hi am gyflwyno’r dillad a’r cyfarpar roedd hi wedi casglu dros 20 mlynedd i elusen yng Nghymru ond gwelodd nad oedd elusen yn cymryd dillad i’w dosbarthu. Felly sefydlodd Banc Dillad Babanod Cwtch.
Mae’r elusen wedi cynorthwyo dros 2000 o deuluoedd. Oherwydd yr amgylchiadau presennol nid yw’r elusen yn derbyn deunydd ar hyn o bryd ond gellir eu cefnogi drwy Facebook @cwtchbabybank.
Rhagor o wybodaeth yn Tafod Elái mis Ebrill.