Eisteddfod y Bala, 2009
Noson Lawen yn Harlech 3 Mawrth 2007
Taith Iwerddon Pasg 2006
Côr Merched y Garth yn Iwerddon
Teithiodd aelodau Côr Merched y Garth i’r Ynys Werdd i Letterkenny i’r Ŵyl Ban Geltaidd yn ystod gwyliau’r Pasg. Yn ogystal ag ennill yr ail wobr yn y gystadleuaeth i Gorau merched ar y Sadwrn bu’r merched yn canu mewn cyngerdd yn Theatr An Grianan, ac yn Noson y Cymry ar y Nos Wener. Gwelwyd yr aelodau am y tro cyntaf yn eu gwisgoedd pinc llachar!
Hwyrach mai’r wibdaith Fore Gwener oedd un o uchafbwyntiau’r daith. Roedd y tywydd yn heulog braf ac roedd y croeso a’r adloniant yn Tabhairne Les (tafarn les) yn nodweddiadol o groeso’r Gwyddelod. Y dafarn oedd cartref yr enwog Clannad ac Enya. Roedd y daith o amgylch dinas Belfast cyn dychwelyd ar y Sul yn agoriad llygad i amryw, yn enwedig wrth deithio drwy ardal y Falls road.
Mae aelodau’r côr yn ddyledus iawn i Llinos am hyfforddi ac i Ray ag Eleri am drefnu’r daith mor drwyadl.