Lluniau o'r Gorffenol
1998 Mis 11 G C D Partir Efail 1999 Mis 11 G C D Parti Efail b 2000 Mis 08 Eist Efail L L002 2000 Mis 08 Eist Efail L L004 2000 Mis 08 Eist Efail L L005 2000 Mis 08 Tafod Eist Llanelli 2001 Mis 11 Gwyl Ddrama E FAIL 2001 Mis 11 Tafod Rhag 2001 2003 Mis 08 Parti Efail 2 2003 Mis 08 Parti Efail 3 2004 Mis 04 Cyngerdd Efail Isaf b 2004 Mis 04 Cyngerdd Efail Isaf 2004 Mis 04 Cyngerdd Partir Efail 1 2004 Mis 04 Dydd 18 Tralee Parti Efail 2004 Mis 11 G C D Parti Efail 2004 Mis 11 Dydd 02 G C D Parti Efail 2005 Mis 11 G C D P Efail 2007 Mis 06 Partir Efail Asado 2009 Mis 11 G C D P Efail 2 2009 Mis 11 G C D P Efail 2012 Mis 04 Gwyl Ban Geltaidd 2014 Mis 08 Eist P Efail1 2014 Mis 08 Eist P Efail6 2014 Mis 08 Eist P Efail7
Gŵyl Cerdd Dant 2009
Buddugol yng Ngwyl Gerdd Dant
Abergwaun 2005
Buddugoliaeth Parti'r Efail
Ennill ym mro Llanelli yn 2000!
Buddugwyr y gystadleuaeth i bartion Cerdd Dant ym Mhrifwyl Llanelli 2000 oedd
Parti'r Efail - criw o feibion ardal y Tafod dan hyfforddiant Menna Thomas,
sy'n ymarfer yn Efail Isaf.
Ydyn, mae nhw wedi ei gwneud hi! Ar ol dod yn drydydd ac yna'n ail mewn
prifwyliau blaenorol, eleni daeth haeddiant i'w rhan pan ddyfarnwyd cwpan
Coffa Llyfni Huws iddyn nhw am eu cyflwyniad o ddwy gerdd - "Yr Hebog"
(Robert Powell) a "Pan glywaf gān y clychau" Dafydd Iwan.
Parti'r Gromlech, enillwyr blaenorol o fro'r Preseli, ddaeth yn ail a
Meibion Llywarch o ardal y Bala yn drydydd. Mae'r parti'n bumlwydd oed
eleni ac wedi cystadlu'n gyson yn y Brifwyl a'r Wyl Cerdd Dant. Nhw enillodd
yn yr Wyl Gerdd Dant, Yr Wyddgrug, ddwy flynedd yn ol ac mae nhw'n bwriadu
cystadlu eto eleni pan fydd yr Wyl ym Mangor ym mis Tachwedd. Menna Thomas,
sydd bellach yn byw yn Efail Isaf, sy'n gosod iddyn nhw ac yn hyfforddi'r
parti.
Mae'r fuddugoliaeth yn un gwobr ychwanegol at y myrdd mae hi wedi eu
hennill, fel unawdydd ac fel hyfforddwraig corau a phartion - fel athrawes
yn ysgol Rhydfelen, fel cyn-arweinydd Merched y Garth ac wrth gwrs hyfforddwraig
Parti'r Efail. Yr aelodau yw: Cliff Hewitt, Geraint Wyn Jones, Gwyn Hughes
Jones, Emlyn Penny Jones, Gareth Jones, Aled Thomas, Danny Grehan, Rhodri
Harries, Gavin Ashcroft, Marc Lloyd Jones, Beuno Hughes, Wyn Thomas, Huw
Wade, Gwilym Thomas, Mike Wade, Rowland George, Gerwyn Caffrey, Rhys Dafis,
Ifan Roberts, Maen nhw wedi cael blwyddyn brysur, rhwng cystadlu a chynnal
nosweithiau ar hyd a lled De Cymru - o Gasnewydd i Abergwaun. (Erbyn y
flwyddyn nesaf maen nhw eisoes wedi derbyn dau gyhoeddiad adeg Gwyl Ddewi
cyn ennill yn Llanelli, hyd yn oed!)
Pan fydd y cor yn ymarfer ac yn cynnal nosweithiau mae nhw'n ddiolchgar
iawn am gymorth a chefnogaeth eu cyfeilyddion lleol - y ddwy delynores,
Lowri Ffrancon a Bethan Roberts. Yn rhai o'u cyngherddau mae nhw hefyd
yn cael help Patric Stephens wrth y piano. Cliff Hewitt, 35 Penywaun,
Efail Isaf , (CF38 1AY) yw'r Trysorydd a Geraint Wyn Jones, Rhyd y Grug,
13 Y Padog, Pentre'r Eglwys, Pontypridd (CF38 1TL) yw'r ysgrifennydd.
Os yw eich cymdeithas am drefnu orig yn eu rhaglen aeaf, bachwch y bois
cyn i'w ffioedd dreblu!
Parti'r Efail yng Ngwyl Gerdd Dant 1999 |