Diwrnod Shwmae Su’mae 15 Hydref Ar Draws y Tonnau

Bydd Diwrnod Shwmae Su’mae eleni’n ddiwrnod tra gwahanol i’r arfer.

Thema’r diwrnod eleni yw Ar draws y Tonnau , lle anogwn bobl i ganfod lleoliadau a ffyrdd newydd o ddefnyddio’r Gymraeg yn ystod y cyfnod hwn a’u rhannu gyda Chymru a’r byd!
Eleni, fel pob blwyddyn arall, hybu’r syniad o ddechrau pob sgwrs gyda shwmae, su’mae neu shwdi yw’r pwrpas!


Nod y diwrnod yw dangos bod y Gymraeg yn perthyn i bawb – yn siaradwyr rhugl, yn ddysgwyr neu os ydych yn swil am eich Cymraeg. Ac felly os bydd gyda chi gyfle i wneud hyn yn ddiogel ar ddydd Iau Hydref y 15fed yna tagiwch ni i ddangos i ni ac i’r byd sut fyddwch chi’n dathlu’r diwrnod! Os oes digwyddiad wedi ei drefnu ar y dydd yna tagiwch ni a chofiwch annog pawb i ddweud Shwmae neu Su’mae!
Bydd llysgenhadon gyda ni eleni eto’n rhannu eu profiadau ac yn ysbrydoli gyda’r ffocws eleni ar y Gymraeg yn byw ochr yn ochr ag ieithoedd eraill ein cymunedau gan ddangos bod y Gymraeg yn wirioneddol perthyn i bawb o bob cefndir a chenedl.
Mae Shwmae Su’mae am hyrwyddo llwyfan digidol AM eleni er mwyn annog artistiaid, mudiadau, gwyliau a lleoliadau newydd i rannu ac annog creu cynnwys digidol ar gyfer y sianelau ac i rannu eu digwyddiadau ar hyd y flwyddyn. Rydym am i’r cyhoedd ddarganfod a mwynhau’r arlwy sydd ar gael yn barod ar y llwyfan arbennig hwn, yn ogystal â denu cynnwys a chynulleidfa newydd i ddigwyddiadau Cymraeg a Chymreig y llwyfan felly gallwn fwynhau clywed a defnyddio’r iaith ar draws y tonnau ble bynnag yr ydym!
Beth allwn ni wneud yn 2020?
Er y cyfyngiadau ar ein gallu i symud o gwmpas a chwrdd yn y cnawd, does dim yn ein rhwystro rhag defnyddio’r Gymraeg wrth siopa, wrth dderbyn a chynnig gwasanaeth, yn y cnawd neu ar-lein, wrth ddysgu ac wrth ymlacio!
Felly dyma rhai o syniadau ar beth allwch chi wneud eleni! Rydyn ni’n gwybod bod gennych chi’r syniadau gorau hefyd felly cofiwch eu rhannu nhw i gyd yr wythnos nesaf! Efallai y byddwch chi’n ysbrydoli eraill!