Y Robin Goch
Dim ond os ydych mor hen â fi byddech chi’n sylweddoli gymaint mae’r hen fyd yma wedi newid. Dach chi’n cofio’r hen set weiarles yn craclo yng nghornel y lolfa? A mynd â’r batris mawr i’r garej lleol i’w siarsio? Mi wnaeth y byd symud ymlaen camau mawr pan ddoth y radio transistor, yr un roedden ni’n hongian ar ddrych y car er mwyn cael ryw fath o ‘in-car entertainment’. I ni dyna oedd newid mawr.
Darllenais yn ‘Y Times’ yn ddiweddar am Robin Goch a oedd yn byw bywyd dedwydd yn Heligoland, roedd wedi penderfynu treulio’r gaeaf yn ne ddwyrain Lloegr. Aeth i chwilio am siop Thomas Cook ond doedden nhw ddim yna bellach. Beth i’w wneud? Cymerodd anadl ddofn ac ar un noson pan oedd gwynt ysgafn yn mynd yr un ffordd â fo dechreuodd ar y daith. Roedd hi’n wyth o’r gloch y nos a, chredwch neu beidio, roedd o wedi cyrraedd cyrion Llundain erbyn toc wedi hanner nos .
Ond sut ydan ni’n gwybod hyn? Roedd o’n gwisgo nanotag – erbyn hyn mae pob aderyn eisio un, dim ond 0.3 gram mae’r tag yn pwyso ond mae’n galluogi ni i astudio pa mor bell mae adar bach yn mynd o gwmpas i chwilio am dywydd gwell. Taith o 140 milltir roedd Robin wedi gwneud yn y pedwar awr yna, hynny yw 35 mya.
Mae gymaint i ddysgu am fyd natur ac mae technoleg yn datblygu’n gyflym i alluogi ni ddysgu’n llawer cyflymach. Tydi’r byd wedi newid ers yr hen weiarles dwedwch.
Edrychwch ar ein gwefan cymdeithasedwardllwyd.cymru i weld os ydan ni’n cerdded yn eich ardal. Bydd croeso mawr i chi. Yn enwedig os dach chi wedi bod mor garedig o ddysgu’n hiaith hyfryd ni.
Rob Evans