Gŵyl Ddrama Tafod Elái 1986 – 2002

Atgofion Colin Williams

O bryd i’w gilydd bydd ’na gyfaill yn codi sgwrs ac yn cyfeirio at hwn a hwn neu hon a hon mewn rhyw wisg anhebygol a cholur gormodol, mwstash afreolus, acen dodgy, wig neu staes cwbwl bisâr. A finne bron wedi anghofio am y perfformiad neu wedi ceisio’i wthio i neuadde pellaf y cof. Bu dwy flynedd ar bymtheg o’r Ŵyl Ddrama yn ei chartref blynyddol yn Neuadd Dowlais, Pentre’r Eglwys yn fodd i roi llwyfan i dalentau ifanc ac yn fodd i hen stejars y fro anghofio’u pryderon dyddiol.

Roedd Tafod Elái’n dathlu’i ben-blwydd cynta ac awgrymwyd yn y pwyllgor y dylen ni ddathlu’r achlysur. Taro ar y syniad o ŵyl ddrama. Ac  i’r beirniad cynta un, yr amryddawn Dyfan Roberts, roedd yn rhagweld dyfodol llewyrchus ”mi fyta i’n het Hen Ddyn Budur os na fydd Gŵyl Ddrama Tafod Elái yma ymhen can mlynedd”.

Bu adrannau drama ysgolion yr ardal yn driw iawn ond hyd yn oed brafiach oedd i’r disgyblion weld eu hathrawon yn perfformio ac yn barod i ymlacio a joio yn eu gŵydd. Mae cymaint o’n gweithgaredd Cymraeg ni’n ymwneud â phlant ac ynghlwm ag ysgolion. Braf oedd creu  noddfa glyd a diogel, pau iaith gwahanol – gaeafau o rowlio chwerthin ac ambell foment ysgytwol ddwys i’n sobri fel cynulleidfa. Yr hen stejars yn mynd am y gwirion a’r disgyblion ysgol yn mynnu mynd â ni i gorneli tywyll dwys. Cafwyd dramâu, nosweithiau llawen, pantomeimiau, hyd yn oed berfformiad dawns, virtuoso gitâr, heb anghofio anterliwt. Wrth i hanes yr ŵyl fynd ar led, denwyd sawl cwmni o bell – Cwmni Rhos y Gar o Lanaman, Cwmni  Carreg Galch, Rhydaman ac Ysgolion Penweddig, Ystalyfera a Gwynllyw yn eu plith.  Categori am bopeth a thlws i bawb oedd yr arwyddair.

A’r gynulleidfa! Dyna foddhad oedd llenwi’r neuadd am dair, weithiau bedair neu bum noson. Y rhesi blaen yn câl eu bachu gan y plant lleia – ambell un yn gegrwth ac ambell un yn cael trafferth cadw llygaid ar agor y noson honno, ac yn yr ysgol drannoeth yn ôl y sôn. I ddisychedu’r punters bu cylchoedd meithrin a Merched y Wawr yn darparu te a choffi – ac roedd ‘na gystadleuaeth answyddogol am y bara brith gorau. Roedd hi fel camu nôl i neuaddau pentref ein plentyndod – a’r alwy i weld yn plesio.

Diolch arbennig i Colin Williams am drefnu’r diddanwch a’r hwyl ac am roi cyfle i gymaint o bobl ifanc a hŷn i ddatblygu eu doniau ar y llwyfan.
 

Fel ymhob menter lwyddiannus, roedd ‘na griw dethol dibynadwy sefydlog.  Ffotofraffydd ‘swyddogol’, yr annwyl D J Davies, Tonyrefail. A chyn bod sôn am ffôn symudol a’r camra sydyn, byddai DJ wedi datblygu lluniau’r noson honno i’w harddangos yng nghyntedd y neuadd y noson ganlynol! Yno’n nosweithiol byddai Trysorydd yr ŵyl, Dafydd Knight, a ofalodd am y cyfrifon am oes yr ŵyl. Cyfeilydd ffyddlon yr ŵyl oedd Carey Williams. A byddai Penri yno wrth reswm – yn ffilmio pob eiliad ar ei declyn diweddaraf ac yna gosod yr hanes yn rhifyn Nadolig Tafod Elái o fewn 24 awr – ei wyrth fisol.

Drama Clwb y Bont yn 1988

Ac yna’r beirniaid. Buom yn freintiedig fel cymuned i ddenu / berswadio / dwyllo gwir selebs y cyfnod i ddod i gloriannu’n gŵyl fach ni. Dyfan Roberts oedd y cyntaf. Roedd yn byw yn Llantrisant. Yna, Huw Ceredig yn cael ei gyfareddu gan gynhyrchiad y Dwrlyn o’r Dyn Codi Pwysau!! Ym 1988, y meistrolgar, y gwylaidd a’r annwyl, John Hefin a welai debygrwydd rhwng yr Ŵyl â thraddodiad drama amatur ei fagwraeth yn Sir Aberteifi. Ym 1989 daeth T James Jones atom a gwobrwyo Ysgol Cwm Rhymni am y trydydd tro’n olynol am eu perfformiad o Tisiw. A’r oedolion? Clwb y Bont eto, a’u Dal y Ddysgl yn Wastad – yn rhannol oherwydd cyfraniadau Hefin Griffiths a Gerallt Pennant. A ble maen nhw erbyn hyn?

Ym 1990, neb llai na Gwenlyn Parry ei hun ac yn ei ddilyn ym 1991, Emyr Edwards. Ym 1992, Elisabeth Miles oedd yn pwyso a mesur gan gynnwys cwmni ei brawd. Ym 1993, Iola Gregory. Ac yn y flwyddyn honno, rhyfeddod y rhyfeddodau, Y Dwrlyn yn fuddugol gyda’u Noson Lawen ac hefyd Drama i Oedolion, Hi o Bawb. Roedd gŵyl 1994 yn bedair noson unwaith eto a’r beirniad, Llion Williams, yn ganmoliaethus ond yn cael trafferth dyfarnu’r gwahanol wobrau a thlysau. Roedd 1995 hefyd yn ŵyl pedair noson, 13 cwmni gan gynnwys cwmni Noson Lawen y Dwrlyn yn ogystal â Chwmni Drama’r Dwrlyn A a Chwmni Drama’r Dwrlyn B – ar ba sail y’i graddiwyd, pwy â wyr! Dyna beth oedd bwrlwm y Dwrlyn a’r aelodau yn ifanc, heini ac annoeth. Honodd Heddyr Gregory ei bod wedi’i phlesio’n fawr.

Ym 1996, 13 cwmni umnwaith eto, y neuadd yn orlawn ac roedd Caryl, y beirniad y flwyddyn honno’n ddigon o sbort i ymuno ym mhantomeim buddugoliaethus Y Dwrlyn. Gŵyl 5 noson ac 19 cwmni wrthi ym 1997 – dawn denu Cliff Jones mae’n siwr.

Y gynulleidfa yn 1995

Gillian Elisa ym 1998 yn cael ei hatgoffa o asbri Theatr Felinfach. John Pierce Jones yntau ym 1999 yn rhyfeddu at y bwrlwm yn yr ardal. Yn 2000, derbyniodd yr hyfryd Sioned Mair y gwahoddiad gan gyflwyno Tlws Actor yr Wŷl i’r haeddiannol Elin Morse.

Motobeic y Morsiaid yn 1997

Yn 2001, daeth Ifan Huw Dafydd atom  a chwmni Merched y Wawr y Garth yn derbyn canmoliaeth ganddo am Mrs Carusoe er ei fod yn awgrymu fod tuedd i or-actio!!! Yn yr ŵyl olaf un, croesawyd Huw Garmon yn feirniad ac yntau’n dal i ddathlu llwyddiant Hedd Wyn. Fel y crybwyllais, mawrion y genedl yn barod i roi statws i’n gŵyl fach ni ac ymuno yn yr hwyl. Rwyf mor ddiolchgar iddynt un ac oll.

Os maddeuer  sylw personol, roedd y cyfan yn lot o hwyl. Roedd promptio Meima a’i chriw o gefn llwyfan yn heriol (gan nad oedd y teulu wedi llwyddo i gwrdd i ymarfer fel cwmni cyn perfformio!!)  Ac af i ddim i sôn am y moto beic! Roedd rhannu gwely gydag actores ddawnus yn Gwirion Hen yn brofiad ac Ifan Robaits wedi mynd OTT gyda’r colur – ‘tae ni’n ail berfformio hi heddiw, fyddai dim galw am yr holl golur ar Ann na finne!!

Roedd gweld fy lines ar gefn pelmet y llwyfan ddeuddeg mis yn ddiweddarach yn dwyn y cyfan nôl i gof. Fe’m boddhawyd gan ein talentau ifanc ond mae cameos un actor wedi’u serio arnaf, un flwyddyn yn hoeden fach ddiniwed (a ddim mor ddi-niwed) a’r flwyddyn ganlynol, yn hen wreigan fusgrell ac ambell twitch amrhisiadwy. Y digymar Sheila Dafis (a ’falle bod sgript y gŵr wedi helpu).

Mae ’na gyfnod i bob dim a melys iawn yw hel atgofion am gyfnod yr ŵyl.  Diolch i’r holl gwmnîau am eu cefnogaeth a’u cydweithrediad. Diolch am y cyfle i fod yn rhan o bethe. Sut awn i ddathlu deugain mlwyddiant Tafod Elái? – o mam bach, na!!

Rwy’n mawr obeithio y bydd rhywrai yn dal i godi sgwrs:  “ti’n cofio, pwy odd e dwêd  ….. yn gwisgo’r sbectol pot jam ’na ac yn angofio’i leins ac yn adlibio ….”