Mae rhifyn Rhagfyr ar werth. Tanysgrifiwch nawr am £10 y flwyddyn.

Papur Bro – Pontypridd – Tonyrefail – Llantrisant – Pentyrch
Mae rhifyn Rhagfyr ar werth. Tanysgrifiwch nawr am £10 y flwyddyn.

Roedd cyfarfod blynyddol Tafod Elái ym mis Hydref yn gyfle i edrych yn ôl ar lwyddiant y papur ac i sicrhau dyfodol llewyrchus. Mae nifer wedi cynnig helpu gyda’r gwaith o olygu a gosod y papur a bydd trefn newydd yn cael ei weithredu yn y flwyddyn newydd.
Gwerthfawrogwyd y gwaith sydd wedi cael ei wneud gan llu o wirfoddolwyr dros y deugain mlynedd diwethaf i gyhoeddi Tafod Elái yn gyson.
Ond mae angen rhagor o gymorth. Mae angen Gohebwyr Lleol newydd. Mae angen tîm o ddeg Golygydd y Mis fel bod y gwaith yn cael ei rannu ac mae angen cymorth gyda’r cysodi, casglu hysbysebion a swyddogion gweinyddol.
Os allwch helpu neu os oes ganddoch chi newyddion neu hanesyn fyddai o ddiddordeb – danfonwch neges i gol@tafodelai.cymru
Llongyfarchiadau i bawb gymerodd ran yn yr Eisteddfod yn Wrecsam.
Medal y Dramodydd: Greta Siôn, Gwaelod y Garth.
Côr Dysgwyr:
1af Côr Dysgwyr y Cymoedd.
Tlws Coffa Lois Blake Dawnsio Gwerin:
1af Dawnswyr Nantgarw
Côr Cymysg Buddugol a Chôr yr Ŵyl – Côr CF1
Gwobr Goffa Osborne Roberts, Y Rhuban Glas i Gantorion 19 – 25 oed: Caleb Nicholas, Meddyg yn Ysbyty Morgannwg, Llantrisant.
Dawns Stepio unigol i fechgyn 3ydd Morus Caradog Jones
Gwobr Richard Burton: 3ydd Iestyn Gwyn Jones.
Côr Cerdd Dant:
2il Côr Tôn-Teg
Cystadleuaeth Golff yr Eisteddfod: 1af Huw Llywelyn Davies.

Medal y Dramodydd: Greta Siôn, Gwaelod y Garth.
Llwyddiant Ysgubol
Nid ar chwarae bach mae trefnu Eisteddfod. A dros y flwyddyn
diwethaf mae tîm wedi bod yn gweithio’n ddygn ar gyfer
diwrnod llwyddiannus dros ben yng Nghapel y Bont Pontypridd
a Chlwb y Bont. Cychwynnodd y gweithgareddau am 9 y bore
Sadwrn 28 Mehefin gyda torf o blant yn cystadlu mewn
cystadlaethau unigol a chorau. Daeth llu o ddysgwyr i gystadlu a
daeth y diwrnod i ben yn sain rhai o gorau enwocaf yr ardal.
Diolch i bawb fu’n rhan o lwyddiant yr wŷl.

Ysgol Llwyncelyn enillwyr Corau Ysgol Gynradd
