Y Fari Lwyd

Y Fari Lwyd

聽 聽 聽

Mari Lwyd Pentyrch

Seremoni o fynd 芒 phenglog ceffyl wedi ei addurno efo rhubanau a’i wisgo mewn cynfas wen yw’r “Fari” – ac mae ‘na amrywiaethau ar y math hwn o weithgaredd tu allan i Forgannwg – i gyd yn gysylltiedig 芒 chyfnod rhwng y Nadolig a’r Ystwyll. Y gred gyffredinol yw bod yr arferion yn mynd yn 么l i gyfnodau paganaidd – i gyd fynd ag “ail-eni’r haul” sef y cyfnod pan fydd y dydd yn ymestyn.

Hanner can mlynedd ar 么l i draddodiad “Y Fari Lwyd” ddod i ben ym Mhentyrch a’r Creigiau, mae’r pentrefwyr wedi atgyfodi鈥檙 arferiad. Mae gan y Fari ei gosgordd swyddogol – ac mae’r rhain yn amrywio o ardal i ardal. Ond mae yno bob amser un sy’n “tywys” y ceffyl, sef y Sarjiant. Yn naturiol mae un person o dan y clogyn gwyn ac mae hefyd nifer o bobl eraill yn cyd-gerdded efo’r Fari o d欧 i d欧 ac o dafarn i dafarn.

Y drefn ydi fod raid i’r parti ganu pennill tu allan i ddrws y lle mae nhw am gael mynd i mewn iddo ac yna fe fydd rhywun yn ateb o’r tu mewn, eto ar ffurf pennill. Mae nhw’n herio ei gilydd bob yn ail, hyd yn oed ar 么l i’r parti gael dod i mewn i’r t欧 – ac yn y gwreiddiol roedd y penillion yn cynnwys geiriau yn y Wenhwyseg, sef tafodiaith yr ardal ac ardal “Y Fari”. Penglog “Y Fari” o Bentyrch sydd i’w gweld yn Sain Ffagan, rhodd gan Twm a Shoni Caerwal.

Mae’r arferiad wedi bod ar ei gryfaf yn ardal Llangynwyd, ger Maesteg. Mae ‘na seremon茂au tebyg yn Sir Benfro, ond fod y pen ceffyl yn wahanol yno, chwe ardal yn Lloegr, rhai yn yr Iwerddon, Gwledydd Llychlyn, Awstria, Rwmania a Gwlad Pwyl a’r Almaen.

 

C芒n y Fari Lwyd
(Pentyrch)

(Oddi allan)

Wel dyma ni’n dwad
Gyfeillion diniwad
I ofyn am gennad i ganu.

Os na chawn ni gennad,
Cewch glywed ar ganiad
Beth fydd ein dymuniad-nos heno.

Agorwch y dryse,
Mae’r rhew wrth ein sodle,
Mae’r rhew wrth ein sodle-nos heno.

Os oes gennych atebion,
Wel, dewch a nhw’n union
I ateb prydyddion y gwylie.

(Ateb oddi mewn)
O, cerwch ar gered,
Mae’ch ffordd yn agored,
Mae’r ffordd yn agored-nos heno.

(Oddi allan)
Nid ewn ni ar gered
Heb dorri ein syched,
Heb dorri ein syched-nos heno.

(Oddi mewn)
Mae ffynnon yn tarddu
Ym mhistyll y Beili,
Trwy ffafwr cewch lymed i brofi.

(Oddi allan)
Nid yfwn o’r ffynnon
I oeri ein calon
I fagu clefydon-y gwylie.

(Oddi mewn)
Rhowch glywad, wyr doethion,
Pa faint y’ch o ddynion
A beth yn wych union, (x3) yw’ch enwau

(Oddi allan)
Rhyw bump o wyr hawddgar ,
Rhai gorau y ddaear
Yn canu mewn gwir air (x3) am gwrw

(Oddi mewn)
Os llymaid bach melys
A geisiwch dros wefus
Dewch atom yn hwylus (x3) i’r aelwyd

 

 

Tu Fewn:

Y Parti:
Mae Mari Lwyd lawen
Yn dod i’ch ty鈥檔 rhonden
A chanu yw ei diben, mi dybiaf.

Yr Ateb:
Rhowch glywad wyr difrad
O ble rych chi’n dwad
A beth yw’ch gofyniad gaf enwi.

Y Parti:
O ardal Y Creigiau,
Pentyrch a’r cyffiniau
Fe ganwn ein geiriau am gwrw.

Yr Ateb:
Derbyniwn yn llawen
Ymryson yr awen
I gynnal y gynnen drwy ganu.

Y Parti:
Mi Ganwn am wythnos
Ac hefyd bythefnos
A mis os bydd achos baidd i chwi.

Yr Ateb:
Mi Ganwn am flwyddyn
Os cawn Dduw i’n canlyn
Heb ofni un gelyn y gwyliau

Y Parti:
Gollyngwch yn rhugil
Na fyddwch yn gynnil
O! Tapiwch y faril i’r Fari

Yr Ateb:
O! Cenwch eich nodau
Ac felly wnawn ninnau
A’r sawl a fo orau gaiff gwrw

Y Parti:
Fe ganwn yn awr
I Ferched y Wawr
Am ddiod ac enllyn i’n llonni.

Yr Ateb:
I’r Fari sychedig
Fe rown ein calennig
A’r cwrw yn ffisig i鈥檞 pheswch.

Y Parti:
Derbyniwn yn llawen,
Y croeso mewn casgen
Cyflawnwyd y diben mi dybiaf.

 

 


Mari Lwyd 1997

 


Mari Lwyd 2005

 

i) Rhai o’r geiriau y mae Don Llywelyn, yn eu cofio o benillion Twm a Sioni, Caerwal, Pentyrch. Mae’r rhain o leiaf hanner cant oed – ac yn debygol o fod yn henach o lawer na hynny.

Wel dyma ni’n dwad
Gyfeillion diniwad
I ofyn am gennad (x3)
I ganu……..

Mae gen i un Fari
Y lana yng Nghymru
Y lana yng Nghymru (x3)
nos heno

Does gen ti ddim Mari
Hen fwlsyn sy gen ti
Hen fwlsyn sy gen ti (x3)
nos heno

O beth yw dy switan
‘Rhen Sioni cap sitan
‘Rhen Sioni cap sitan (x3)
nos heno

O stopwch eich sgrechan
Ei llefan a’i thechan
A hitha mor fechan (x3)
nos heno

Mae’th gegaid o eiria
Fel ffrwd o raiadra
Ro ben ar gelwydda (x3)
nos heno

O stwffa’r hen ffilcas
I eneu’r ffilogas
A dos nol i’r syrcas (x3)
nos heno.

 

 

The Mari Lwyd Custom
Opinions differ on the origin of the “Mari Lwyd” custom – some believe it is linked to pagan times, a bringer of good luck and fertility at the “re-birth of the sun” when the days lengthen. Some link the name to the Virgin Mary and the escape to Egypt, some simply to the “Grey Mare or Mary” (the Saxon pronunciation of “mare” sounded more like “marie”). Even the name of Morris dancing may be from the same source. Similar customs involving a “horse’s head” have been recorded in Ireland Austria, Romania, Poland, Germany, Scandinavia and at least six areas of England.

The party always included a “Sergeant” to lead the horse and, more often than not, “Punch and Judy” They roamed the village challenging the householders and innkeepers in “question and answer” verses before entering the house. Having sung, danced and teased the occupants, the party sat down to food and drink before moving on. The tradition was very much alive in the county of Glamorgan and was still practised in this area half a century ago. In fact the horse’s head on show at the Museum at St Fagans came from Pentyrch.
We have revived the custom around Creigiau and Pentyrch and have often chosen to hold it closer to the date of “Hen Galan” – the “Old” New Year’s day. (in 1752 eleven days were “lost” when the calendar was changed but the “old new year’s eve” (January l3) is still celebrated in parts of Wales.

The words on this page are the ones Don Llywelyn recalls from the days when “Twm & Shoni”, Caerwal, Pentyrch, led the Mari around the area.

 

Clwb y Dwrlyn Pentyrch

Y Fari Lwyd
(gair bach o gefndir)

Gan fod ‘na hanes am drigolion ardal Pentyrch yn dilyn “Y Fari Lwyd” hyd ymron i hanner can mlynedd yn 么l, nid yw’n syndod fod Clwb y Dwrlyn wedi adfer yr hen arferiad a mynd a鈥檙 Fari rownd y pentref ers rhai blynyddoedd.

Seremoni o fynd a phenglog ceffyl wedi ei addurno gyda rhubannau a’i wisgo mewn cynfas wen yw’r “‘Fari” – ac mae ‘na amrywiaethau ar y math hwn o weithgaredd mewn sawl ardal yn Ne Cymru a thu hwnt – i gyd yn gysylltiedig a chyfnod rhwng y Nadolig a’r Ystwyll. Y gred gyffredinol yw fod yr arferion yn mynd yn 么l i gyfnodau paganaidd – i gyd-fynd ag “ail-eni’r haul” a’r adeg pan fydd y dydd yn ymestyn.

Mae gan y Fari ei gosgordd swyddogol – ac mae’r rhain yn amrywio o ardal i ardal. Ond mae yno bob amser un sy’n “tywys” y ceffyl, sef y Sarjiant. Yn naturiol mae un person o dan y clogyn gwyn ac mae hefyd nifer o bobl eraill yn hebrwng Y Fari o dy i dy ac o dafarn i dafarn. Weithiau fe gewch chi’r Meriman gyda’i ffdil; y Cadi a’r Bili sef dyn wedi ei wisgo fel merch; Cariwr y Fedwen; a’r Pwnsh a’r Jiwdi.

Y drefn oedd fod disgwyl i’r parti ganu pennill tu allan i ddrws y dafarn neu’r ty yn gofyn am gael mynediad. Yna fe fyddai rhyw-un yn ateb o’r tu mewn, eto ar ffurf pennill. Y gamp oedd herio ei gilydd bob yn ail, hyd yn oed ar 么l i’r parti gael dod i mewn i’r ty. Roedd penillion gwreiddiol yr ardal hon yn cynnwys llawer o’r dafodiaifh leol. – Y Wenhwyseg.

Mae鈥檙 arferiad wedi bod ar ei gryfaf yn ardal Llangynwyd, ger Maesteg. Ceid seremoniau tebyg yn Sir Benfro (ond fod y pen ceffyl yn wahanol yno), chwe ardal yn Lloegr, rhai yn yr Iwerddon, Gwledydd Llychlyn, Awstria, Rwmania, Gwlad Pwyl a’r Almaen.

Penglog “Y Fari’ o Bentyrch sydd i’w gweld yn Sain Ffagan – rhodd gan Twm a Shoni Caerwal. Ond mae gan ein hanesydd lleol, Don LIywelyn, stori neu ddwy i鈥檞 hadrodd ynglyn a’r penglog hwnnw sydd yn yr amgueddfa a鈥檌 Lofty, Ton Mawr, neu ai un o ddau farch Cefn Colstyn, Charlie neu Prins sydd yno? A phwy tybed a’i cododd e o’i fedd ar noson dywyll!

Clwb y Dwrlyn Pentyrch

The Mari Lwyd Tradition

(a few background notes)

Opinions differ on the origin of the “Mari Lwyd” custom. – some believe it is linked to pagan times, a bringer of good luck and fertility at the “re-birth of the sun” when the days lengthen. Others link the name to the Virgin Mary and the escape to Egypt, some simply believe its the “Grey Mare or Marie” (the Saxon pronunciation of “mare”). Even the name of Morris dancing may be from the same source.

The tradition was very much alive in the county of Glamorgan and was still practised in this village just over half a century ago. In fact the horse’s head on show at the Museum at St Fagans came from Pentyrch. That is partly why Clwb y Dwrlyn reviaed the custom of following “Y Fari Lwyd” around the area at this time of year.

The party aiways included a 鈥淪ergeant” to lead the horse and more often than not, ”Punch and Judy”. Often the “Merryman” would be there to play his fiddle and the “Cadi & Billy” would be a man dressed as a woman. They roamed the village challenging the householders and innkeppers in “question and answer” verses before entering the house. These “sparring” sessions could run to three dozen verses – today we’ll spare yau all that and sing only a few, a mixture of the traditional and a few millennium “specials”.Having sung, danced and teased the occupants, the party usually sat down to food and drink before moving on.

Similar customs involving a “horse’s head” have been recorded in Ireland, Austria, Romania, Iceland, Germany, Scandinavia and at least six areas of England. They inctude Thanet (Kent), Minehead (Somerset), Wiltshire, Cheshire and Cornwall.

Clwb Y Dwrlyn escort “Y Fari Lwyd” closer to the “Hen Galan” (January 13th), the “Old New Year’s day” stil1 celebrated in West Wates because of the eleven days “lost” when our calendar was changed in 1752.

 

C芒n y Fari Lwyd (Menter Caerdydd)
a gennir gan y rhai sydd yn ceisio cael mynediad i’r dafarn

Wel dyma ni’n dyw-ad ,
Gyf-eill-ion di-niw-ad,
I ofyn (o)s cawn gan-nad, (x3)
I gian-u.

2. Os na chawn ni gannad,
R(h)owch glywad ar ganiad
Pa fodd ma’r madawiad (x3)
Nos (h)eno.

3. Ni dorson ein crimpa
Wrth groeshi’r sticila
I ddyfod t(u)ag yma (x3)
Nos (h)eno.

4. Os aethoch r(h)y gynnar
I’r gwely’n ddialgar,
O codwch yn (h)awddgar (x3)
Nos (h)eno.

5. Os o(e)s yna ddynion
All dorri anglynion,
R(h)owch glywad yn union
Nos (h)eno.

6. Y dishan fras felys
a phob sort o sbeisys,
O, torrwch (h)i’n r(h)atus (x3)
Y Gwyla.

7. O tapwch y baril
A llengwch a’n r(h)ugul;
Na rannwch a’n gynnil (x3)
Y Gwyla

Atebion i g芒n y Fari Lwyd
a gennir gan y rhai sydd tu fewn i’r dafarn

Rhowch glywad, wyr doethion,
Pa faint y’ch o ddynion,
A pheth yn wych union
A pheth yn wych union
A pheth yn wych union
Yw’ch enwau?

2. Rhowch glywad, wyr difrad,
O ble `rych chi’n dwad
A pheth yw’ch gofyniad (x3)
gaf enwi?

3. D’yw wiw i chwi’u swto
A chwnnu’r latch heno
Waith prydydd diguro (x3)
wyf inna’.

4. Mi gwnnais o’r gwely
Gan lwyr benderfynu
Y gwnawn i dy faeddu (x3)
di’n foddau.

5. I ffwrdd a chwi’r lladron
Ewch ymaith yn union,
Ni chewch chi yn hylon (x3)
fy ngwelad.

6. Mi ganaf am flwyddyn
Os caf Dduw i’m canlyn
Heb ofni un gelyn (x3)
y gwylia.

 

 

Y Fari Lwyd聽 yn y Mochyn Du, Caerdydd14 Ionawr 2005

聽 聽

Y Fari Lwyd yng Nghei Newydd

Parat么dd mam fi at y Fari Lwyd gan ddweud mai gorymdaith a welwn, ac mai Wil Evans y crydd fyddai’r arweinydd. Eglurodd ymhellach na fyddwn yn ei adnabod oherwydd y byddai yn gwisgo lliain gwyn amdano ac ysgerbwd pen ceffyl dros ei ben. Soniodd fel y byddai’r pen wedi cael ei addurno a rubanau a rhosynnau o bapur coch a melyn.

Edrychwn ymlaen yn awyddus at ei gweld, a phan oedd ar fin cyrraedd ein ty ni, aeth mam a mi at ffenestr y parlwr, er mwyn i mi gael golwg iawn arni. Rhoddodd mam follt ar y drws rhag ofn i’r cwmni direidus ein gweld a cheisio dod i mewn atom. Dywedodd mam wrthyf am fod yn dawel, ac i beidio a chadw unrhyw swn, neu byddai’n fy rhoi yn fy ngwely yn y llofft gefn. Gwyddwn na fyddwn yn medru gweld dim o’r lle hwnnw.

Cyn hir, clywsom ei swn y tu allan i Bristol House, siop Bili Twm. Canodd o flaen y siop, gan obeithio cael cwrw, arian a theisennod gan Bili Twm. Yna, aeth heibio i’n ty ni, dan ganu’n undonog iawn –

`Mari Lwyd lawen yn dyfod i’ch trigfan,
O, peidiwch a bod yn sych ac anniddan.
O, peidiwch yn wir, mae’r amser yn wan.
Rhowch law yn eich poced a gwnewch eich rhan.鈥

Tu cefn i’r arweinydd a wisgai’r pen ceffyl, cerddai llawer o ddynion mewn oed, a phob un yn gwisgo mwgwd hyll, a matiau neu grwyn anifeiliaid ar eu cefnau. Y tu 么l i’r dynion cerddai llu o fechgyn o bob oed, pob un o’r golwg y tu 么l i’w fwgwd, a chynffon wiwer neu fat o groen ar eu pennau a’u cefnau.

Wrth droi i lawr drwy Tin-pan-alley at ddrws cefn Manchester House, dechreu’sant ganu’n uchel

`Wel dyma ni’n dwad, gyfeillion diniwad,
I mofyn am gennad i ganu.
O tapwch y faril, gollyngwch y rhigil,
Na fyddwch yn gynnil i’r Fari !’

‘D oedd fawr o fiwsig yn y d么n. Roedd yn fwy o siant nag o alaw mewn gwirionedd, ac i ganol y canu deuai lleisiau amryw o’r llanciau’n chwerthin.

Clywais mam yn canu’r geiriau flynyddoedd wedi hyn. Clywais hi, hefyd, yn canu ateb cyfarwydd i’r Fari. Dyma fe,

`Rhowch glywed, wyr doethion,
Faint ydych o ddynion,
A pheth yn wych union
Yw’ch enwau!’

Wedi cael croeso i dy, cai aelodau’r Fari deisennod i’w bwyta a chwrw i’w yfed, a hefyd win eirin neu riwbob. Cyn mynd, rhoddai gwr y ty arian mewn cwdyn lledr a gariai’r arweinydd. Yna ai’r Fari Lwyd ymlaen i’r lle nesaf.

Atgofion Ceinewydd. Myra Evans