Hwb i ddyfodol ein papur bro

Roedd cyfarfod blynyddol Tafod Elái ym mis Hydref yn gyfle i edrych yn ôl ar lwyddiant y papur ac i sicrhau dyfodol llewyrchus. Mae nifer wedi cynnig helpu gyda’r gwaith o olygu a gosod y papur a bydd trefn newydd yn cael ei weithredu yn y flwyddyn newydd.

Gwerthfawrogwyd y gwaith sydd wedi cael ei wneud gan llu o wirfoddolwyr dros y deugain mlynedd diwethaf i gyhoeddi Tafod Elái yn gyson.

Ond mae angen rhagor o gymorth. Mae angen Gohebwyr Lleol newydd. Mae angen tîm o ddeg Golygydd y Mis fel bod y gwaith yn cael ei rannu ac mae angen cymorth gyda’r cysodi,  casglu hysbysebion a swyddogion gweinyddol.

Os allwch helpu neu os oes ganddoch chi newyddion neu hanesyn fyddai o ddiddordeb  –  danfonwch neges i gol@tafodelai.cymru