Llwyddiant Ysgubol Eisteddfod Pontypridd

Llwyddiant Ysgubol
Nid ar chwarae bach mae trefnu Eisteddfod. A dros y flwyddyn
diwethaf mae tîm wedi bod yn gweithio’n ddygn ar gyfer
diwrnod llwyddiannus dros ben yng Nghapel y Bont Pontypridd
a Chlwb y Bont. Cychwynnodd y gweithgareddau am 9 y bore
Sadwrn 28 Mehefin gyda torf o blant yn cystadlu mewn
cystadlaethau unigol a chorau. Daeth llu o ddysgwyr i gystadlu a
daeth y diwrnod i ben yn sain rhai o gorau enwocaf yr ardal.
Diolch i bawb fu’n rhan o lwyddiant yr wŷl.

Bechgyn Bro Taf y Côr a’r Côr Gwerin Buddugol




Ysgol Llwyncelyn enillwyr Corau Ysgol Gynradd

Edwyn Evans yn cyflwyno
Baton, cyflwynwyd i Hughie
Williams arweinydd Côr
Llanfachraeth
1927,
i
Richard Vaughan, arweinydd
y côr buddugol