Nantgarw a Ffynnon Taf

Y PENTREFI GLOFAOL DEHEUOL (Rhan)

David A. Pretty

‘Rhwng Dwy Afon’ Llyfr Eisteddfod yr Urdd Taf-Elái 1991

Ardal amaethyddol anghysbell gyda phoblogaeth wasgaredig oedd Blaenau Morgannwg ers cyn cof; ffermydd a phentrefi bychan hunangynhaliol a nodweddai’r mynydd-dir a’r dyffrynnoedd. Magu anifeiliaid a thrin y tir fyddai’r gorchwylion pennaf gyda’r ffair yn gyfrwng i brynu a gwerthu nwyddau. I ddiwallu anghenion yr economi wledig y gweithiai’r crefftwyr lleol: y gwehydd, y gof, y cowper a’r crydd. Nid oedd bywyd yn hawdd i’r bobl gyffredin ac ni ddylid anghofio’r tlodi a’r amgylchiadau cymdeithasol truenus. Cymry uniaith oedd mwyafrif llethol y boblogaeth.

Enwau Cymraeg, bron yn ddieithriad, a roddwyd ar y ffermydd a’r caeau. Yn y Gymraeg y cynhelid y gwasanaethau cyhoeddus yn eglwysi’r plwyf. Cryfhau a dyrchafu statws yr iaith wnaeth Ysgolion Cylchynol Griffith Jones a lledaeniad Anghydffurfiaeth. O ganlyniad, arhosodd y mwyafrif o gymunedau Taf-Elái yn gadarn eu Cymreictod tan o leiaf y 1840au. Yna daeth cyfnod o chwyldro. Gorweddai cyfoeth dan y pridd a glo fu’n bennaf cyfrifol am droi Taf-Elái amaethyddol yn Daf-Elái weithfaol. Yn sgil mewnlifiad estron a Seisnigeiddio cynyddol gwelwyd yr hen gymunedau yn chwalu wrth i ddiwydiant weddnewid cymeriad y fro. Yn eu lle tyfodd cadwyn o bentrefi glofaol.

 

Ar y naill ochr i’r Afon Taf, y bwysicaf o’r ddwy afon, mae pentrefi Nantgarw, Ffynnon Taf a Gwaeled-y-garth. Agor Camlas Morgannwg o Ferthyr i Gaerdydd ym 1794 roddodd fywyd i bentref gwledig Nantgarw, oherwydd yma yr adeiladwyd y bythynnod i’r badwyr, tra ceid stablau i’r ceffylau yn Nyffryn Ffrwd. Un o ryfeddodau’r  gamlas oedd y tair llifddor enfawr uwchben capel Glan-y-llyn. (Adeiladwyd priffordd yr A470 ar safle’r hen gamlas yn y 1960au gan ddistrywio y rhan fwyaf o’r pentref.)

I ddiwallu anghenion gweithfeydd haearn Pen-tyrch yr agorwyd y pyllau glo cynharaf, megis glofeydd Craig yr Allt a Bryn-coch. Pan suddwyd siafft newydd yn Nantgarw ym 1911 hon oedd y siafft ddyfnaf (580llath) yn ne Cymru. Ond mae’n debyg taw llestri Nantgarw a ddenodd y sylw pennaf; yn wir daeth enw Nantgarw yn gyfystyr â phorslen addurnedig gorau Prydain. Sefydlwyd y crochendy gan William Billingsley ym 1814 ac er taw am chwe blynedd yn unig y bu’n cynhyrchu llestri llwyddodd ansawdd uchel ei grefftwaith i swyno teuluoedd aristocrataidd Llundain.

Yn ddiweddarach aeth William Henry Pardoe a’i deulu ati, yn llai uchelgeisiol, i gynhyrchu llestri pridd a phibau smocio o glai ar gyfer y farchnad leol. Caewyd y busnes ym 1921 ac erbyn heddiw mae’r crochendy enwog yn adfail llwyr. Prin bod yr ychydig deuluoedd a symudodd o swydd Stafford i weithio yn y crochendy ar ddechrau’r ganrif wedi gadael argraff ar Gymreigrwydd naturiol yr ardal. Ceir cyfeiriadau at ffyniant y bywyd cymdeithasol traddodiadol, y noson lawen, y dawnsio gwerin, y Fari Lwyd a’r eisteddfodau, hyd at y 1880au. Oherwydd lleoliad Eglwysilan, eglwys y plwyf, mewn llecyn mor ddiarffordd ar ochr Mynydd Meio, i gapel Annibynnol Nantgarw yr â’r mwyafrif o’r trigolion. Ceisiodd Eglwys Loegr adennill tir trwy agor ysgoldai eglwysig yn Nantgarw (1846) a Ffynnon Taf (1869). Yn ogystal ag addysgu plant y dosbarth gweithiol tlawd, trwyddedwyd y ddau adeilad ar gyfer gwasanaethau ar y Sul. Daeth eu cyfnod fel ysgolion i ben unwaith yr agorwyd Ysgol y Bwrdd yn Ffynnon Taf ym 1879. Dylanwad addysg Seisnig yr ysgolion hyn, ynghyd â’r llif cynyddol o weithwyr estron yn ystod y degawdau nesaf, a lwyr ddinistriodd yr iaith a’r ffordd Gymreig o fyw.

 

Cafodd Ffynnon Taf ei henwi ar ôl y ffynnon dwym iachusol a ddaeth i fri yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Denwyd cannoedd i’w dŵr llesol i geisio iachâd meddygol i anhwylderau’r cyhyrau a’r cymalau. Yng ngeiriau’r bardd Dewi Wyn o Essyllt:

Duw Iôr pur fu’n darparu
Ei dwfr llwys, er adfer llu.

Ni wireddwyd y syniad o droi’r pentref yn spa poblogaidd, serch hynny, a gadawyd i’r llecyn fynd â’i ben iddo wedi’r 1950au.

Mor wahanol oedd hanes Castell Coch, dafliad carreg y tu hwnt i ffin ddeheuol y fwrdeistref. Ar sylfaen hen gastell sy’n dyddio’n ôl i’r drydedd ganrif ar ddeg y codwyd y castell presennol rhwng 1872 a 1875 i fodloni chwaeth y trydydd Ardalydd Bute. Ar un adeg, roedd cymaint â phedair lein rheilffordd, dwy heol ac un gamlas i’w gweld trwy’r ceunant (cul gerllaw’r castell yn cydblethu o’r cymoedd diwydiannol i gyfeiriad y porthladdoedd. Un o’r heolydd oedd y ffordd dyrpeg i Gaerdydd a adeiladwyd gan haearnfeistri Merthyr yn y 1770au, gyda thollbyrth yn Nantgarw a Ffynnon Taf. I gysylltu’r Iein o Gaerfiili i’r Barri codwyd pont reilffordd 100 troedfedd uwch y ddaear ym 1901 (dwy o’r pileri sydd yn weddill ar ôl ei dymchwel ym 1969). O’r 1860au ymlaen tyfodd Ffynnon Taf‘ yn gylym fel yr agorwyd pyllau glo yn y gymdogaeth. At hyn, rhaid ychwanegu’r rhesi tai a adeiladwyd ar gyfer llafurlu gweithfeydd haearn Pen-tyrch yr ochr arall i’r afon. Arweiniodd, hefyd, at dwf Gwaelod-y-garth, lle bu’r Parchedig R. G. Berry (1869-1945), un o arloeswyr y ddrama Gymraeg, yn weinidog. Ar adeg pan oedd addoldai eraill yn tueddu i droi i’r Saesneg, llwyddodd i gadw capel Bethlehem yn Gymraeg ei iaith.

 

Rhagor o wybodaeth:

Grŵp Hanes Ffynnon Taf a Nantgarw > Taffs Well & Nantgarw History Group