Mae rhifyn Rhagfyr ar werth. Tanysgrifiwch nawr am £10 y flwyddyn.

Papur Bro – Pontypridd – Tonyrefail – Llantrisant – Pentyrch
Mae rhifyn Rhagfyr ar werth. Tanysgrifiwch nawr am £10 y flwyddyn.

Atgofion Colin Williams
O bryd i’w gilydd bydd ’na gyfaill yn codi sgwrs ac yn cyfeirio at hwn a hwn neu hon a hon mewn rhyw wisg anhebygol a cholur gormodol, mwstash afreolus, acen dodgy, wig neu staes cwbwl bisâr. A finne bron wedi anghofio am y perfformiad neu wedi ceisio’i wthio i neuadde pellaf y cof. Bu dwy flynedd ar bymtheg o’r Ŵyl Ddrama yn ei chartref blynyddol yn Neuadd Dowlais, Pentre’r Eglwys yn fodd i roi llwyfan i dalentau ifanc ac yn fodd i hen stejars y fro anghofio’u pryderon dyddiol.
Roedd Tafod Elái’n dathlu’i ben-blwydd cynta ac awgrymwyd yn y pwyllgor y dylen ni ddathlu’r achlysur. Taro ar y syniad o ŵyl ddrama. Ac i’r beirniad cynta un, yr amryddawn Dyfan Roberts, roedd yn rhagweld dyfodol llewyrchus ”mi fyta i’n het Hen Ddyn Budur os na fydd Gŵyl Ddrama Tafod Elái yma ymhen can mlynedd”.
Bu adrannau drama ysgolion yr ardal yn driw iawn ond hyd yn oed brafiach oedd i’r disgyblion weld eu hathrawon yn perfformio ac yn barod i ymlacio a joio yn eu gŵydd. Mae cymaint o’n gweithgaredd Cymraeg ni’n ymwneud â phlant ac ynghlwm ag ysgolion. Braf oedd creu noddfa glyd a diogel, pau iaith gwahanol – gaeafau o rowlio chwerthin ac ambell foment ysgytwol ddwys i’n sobri fel cynulleidfa. Yr hen stejars yn mynd am y gwirion a’r disgyblion ysgol yn mynnu mynd â ni i gorneli tywyll dwys. Cafwyd dramâu, nosweithiau llawen, pantomeimiau, hyd yn oed berfformiad dawns, virtuoso gitâr, heb anghofio anterliwt. Wrth i hanes yr ŵyl fynd ar led, denwyd sawl cwmni o bell – Cwmni Rhos y Gar o Lanaman, Cwmni Carreg Galch, Rhydaman ac Ysgolion Penweddig, Ystalyfera a Gwynllyw yn eu plith. Categori am bopeth a thlws i bawb oedd yr arwyddair.
A’r gynulleidfa! Dyna foddhad oedd llenwi’r neuadd am dair, weithiau bedair neu bum noson. Y rhesi blaen yn câl eu bachu gan y plant lleia – ambell un yn gegrwth ac ambell un yn cael trafferth cadw llygaid ar agor y noson honno, ac yn yr ysgol drannoeth yn ôl y sôn. I ddisychedu’r punters bu cylchoedd meithrin a Merched y Wawr yn darparu te a choffi – ac roedd ‘na gystadleuaeth answyddogol am y bara brith gorau. Roedd hi fel camu nôl i neuaddau pentref ein plentyndod – a’r alwy i weld yn plesio.

Fel ymhob menter lwyddiannus, roedd ‘na griw dethol dibynadwy sefydlog. Ffotofraffydd ‘swyddogol’, yr annwyl D J Davies, Tonyrefail. A chyn bod sôn am ffôn symudol a’r camra sydyn, byddai DJ wedi datblygu lluniau’r noson honno i’w harddangos yng nghyntedd y neuadd y noson ganlynol! Yno’n nosweithiol byddai Trysorydd yr ŵyl, Dafydd Knight, a ofalodd am y cyfrifon am oes yr ŵyl. Cyfeilydd ffyddlon yr ŵyl oedd Carey Williams. A byddai Penri yno wrth reswm – yn ffilmio pob eiliad ar ei declyn diweddaraf ac yna gosod yr hanes yn rhifyn Nadolig Tafod Elái o fewn 24 awr – ei wyrth fisol.

Ac yna’r beirniaid. Buom yn freintiedig fel cymuned i ddenu / berswadio / dwyllo gwir selebs y cyfnod i ddod i gloriannu’n gŵyl fach ni. Dyfan Roberts oedd y cyntaf. Roedd yn byw yn Llantrisant. Yna, Huw Ceredig yn cael ei gyfareddu gan gynhyrchiad y Dwrlyn o’r Dyn Codi Pwysau!! Ym 1988, y meistrolgar, y gwylaidd a’r annwyl, John Hefin a welai debygrwydd rhwng yr Ŵyl â thraddodiad drama amatur ei fagwraeth yn Sir Aberteifi. Ym 1989 daeth T James Jones atom a gwobrwyo Ysgol Cwm Rhymni am y trydydd tro’n olynol am eu perfformiad o Tisiw. A’r oedolion? Clwb y Bont eto, a’u Dal y Ddysgl yn Wastad – yn rhannol oherwydd cyfraniadau Hefin Griffiths a Gerallt Pennant. A ble maen nhw erbyn hyn?
Ym 1990, neb llai na Gwenlyn Parry ei hun ac yn ei ddilyn ym 1991, Emyr Edwards. Ym 1992, Elisabeth Miles oedd yn pwyso a mesur gan gynnwys cwmni ei brawd. Ym 1993, Iola Gregory. Ac yn y flwyddyn honno, rhyfeddod y rhyfeddodau, Y Dwrlyn yn fuddugol gyda’u Noson Lawen ac hefyd Drama i Oedolion, Hi o Bawb. Roedd gŵyl 1994 yn bedair noson unwaith eto a’r beirniad, Llion Williams, yn ganmoliaethus ond yn cael trafferth dyfarnu’r gwahanol wobrau a thlysau. Roedd 1995 hefyd yn ŵyl pedair noson, 13 cwmni gan gynnwys cwmni Noson Lawen y Dwrlyn yn ogystal â Chwmni Drama’r Dwrlyn A a Chwmni Drama’r Dwrlyn B – ar ba sail y’i graddiwyd, pwy â wyr! Dyna beth oedd bwrlwm y Dwrlyn a’r aelodau yn ifanc, heini ac annoeth. Honodd Heddyr Gregory ei bod wedi’i phlesio’n fawr.
Ym 1996, 13 cwmni umnwaith eto, y neuadd yn orlawn ac roedd Caryl, y beirniad y flwyddyn honno’n ddigon o sbort i ymuno ym mhantomeim buddugoliaethus Y Dwrlyn. Gŵyl 5 noson ac 19 cwmni wrthi ym 1997 – dawn denu Cliff Jones mae’n siwr.

Gillian Elisa ym 1998 yn cael ei hatgoffa o asbri Theatr Felinfach. John Pierce Jones yntau ym 1999 yn rhyfeddu at y bwrlwm yn yr ardal. Yn 2000, derbyniodd yr hyfryd Sioned Mair y gwahoddiad gan gyflwyno Tlws Actor yr Wŷl i’r haeddiannol Elin Morse.

Yn 2001, daeth Ifan Huw Dafydd atom a chwmni Merched y Wawr y Garth yn derbyn canmoliaeth ganddo am Mrs Carusoe er ei fod yn awgrymu fod tuedd i or-actio!!! Yn yr ŵyl olaf un, croesawyd Huw Garmon yn feirniad ac yntau’n dal i ddathlu llwyddiant Hedd Wyn. Fel y crybwyllais, mawrion y genedl yn barod i roi statws i’n gŵyl fach ni ac ymuno yn yr hwyl. Rwyf mor ddiolchgar iddynt un ac oll.
Os maddeuer sylw personol, roedd y cyfan yn lot o hwyl. Roedd promptio Meima a’i chriw o gefn llwyfan yn heriol (gan nad oedd y teulu wedi llwyddo i gwrdd i ymarfer fel cwmni cyn perfformio!!) Ac af i ddim i sôn am y moto beic! Roedd rhannu gwely gydag actores ddawnus yn Gwirion Hen yn brofiad ac Ifan Robaits wedi mynd OTT gyda’r colur – ‘tae ni’n ail berfformio hi heddiw, fyddai dim galw am yr holl golur ar Ann na finne!!
Roedd gweld fy lines ar gefn pelmet y llwyfan ddeuddeg mis yn ddiweddarach yn dwyn y cyfan nôl i gof. Fe’m boddhawyd gan ein talentau ifanc ond mae cameos un actor wedi’u serio arnaf, un flwyddyn yn hoeden fach ddiniwed (a ddim mor ddi-niwed) a’r flwyddyn ganlynol, yn hen wreigan fusgrell ac ambell twitch amrhisiadwy. Y digymar Sheila Dafis (a ’falle bod sgript y gŵr wedi helpu).
Mae ’na gyfnod i bob dim a melys iawn yw hel atgofion am gyfnod yr ŵyl. Diolch i’r holl gwmnîau am eu cefnogaeth a’u cydweithrediad. Diolch am y cyfle i fod yn rhan o bethe. Sut awn i ddathlu deugain mlwyddiant Tafod Elái? – o mam bach, na!!
Rwy’n mawr obeithio y bydd rhywrai yn dal i godi sgwrs: “ti’n cofio, pwy odd e dwêd ….. yn gwisgo’r sbectol pot jam ’na ac yn angofio’i leins ac yn adlibio ….”
Y PENTREFI GLOFAOL DEHEUOL (Rhan)
David A. Pretty
O ‘Rhwng Dwy Afon’ Llyfr Eisteddfod yr Urdd Taf-Elái 1991
Ardal amaethyddol anghysbell gyda phoblogaeth wasgaredig oedd Blaenau Morgannwg ers cyn cof; ffermydd a phentrefi bychan hunangynhaliol a nodweddai’r mynydd-dir a’r dyffrynnoedd. Magu anifeiliaid a thrin y tir fyddai’r gorchwylion pennaf gyda’r ffair yn gyfrwng i brynu a gwerthu nwyddau. I ddiwallu anghenion yr economi wledig y gweithiai’r crefftwyr lleol: y gwehydd, y gof, y cowper a’r crydd. Nid oedd bywyd yn hawdd i’r bobl gyffredin ac ni ddylid anghofio’r tlodi a’r amgylchiadau cymdeithasol truenus. Cymry uniaith oedd mwyafrif llethol y boblogaeth.
Enwau Cymraeg, bron yn ddieithriad, a roddwyd ar y ffermydd a’r caeau. Yn y Gymraeg y cynhelid y gwasanaethau cyhoeddus yn eglwysi’r plwyf. Cryfhau a dyrchafu statws yr iaith wnaeth Ysgolion Cylchynol Griffith Jones a lledaeniad Anghydffurfiaeth. O ganlyniad, arhosodd y mwyafrif o gymunedau Taf-Elái yn gadarn eu Cymreictod tan o leiaf y 1840au. Yna daeth cyfnod o chwyldro. Gorweddai cyfoeth dan y pridd a glo fu’n bennaf cyfrifol am droi Taf-Elái amaethyddol yn Daf-Elái weithfaol. Yn sgil mewnlifiad estron a Seisnigeiddio cynyddol gwelwyd yr hen gymunedau yn chwalu wrth i ddiwydiant weddnewid cymeriad y fro. Yn eu lle tyfodd cadwyn o bentrefi glofaol.
Ar y naill ochr i’r Afon Taf, y bwysicaf o’r ddwy afon, mae pentrefi Nantgarw, Ffynnon Taf a Gwaeled-y-garth. Agor Camlas Morgannwg o Ferthyr i Gaerdydd ym 1794 roddodd fywyd i bentref gwledig Nantgarw, oherwydd yma yr adeiladwyd y bythynnod i’r badwyr, tra ceid stablau i’r ceffylau yn Nyffryn Ffrwd. Un o ryfeddodau’r gamlas oedd y tair llifddor enfawr uwchben capel Glan-y-llyn. (Adeiladwyd priffordd yr A470 ar safle’r hen gamlas yn y 1960au gan ddistrywio y rhan fwyaf o’r pentref.)

I ddiwallu anghenion gweithfeydd haearn Pen-tyrch yr agorwyd y pyllau glo cynharaf, megis glofeydd Craig yr Allt a Bryn-coch. Pan suddwyd siafft newydd yn Nantgarw ym 1911 hon oedd y siafft ddyfnaf (580llath) yn ne Cymru. Ond mae’n debyg taw llestri Nantgarw a ddenodd y sylw pennaf; yn wir daeth enw Nantgarw yn gyfystyr â phorslen addurnedig gorau Prydain. Sefydlwyd y crochendy gan William Billingsley ym 1814 ac er taw am chwe blynedd yn unig y bu’n cynhyrchu llestri llwyddodd ansawdd uchel ei grefftwaith i swyno teuluoedd aristocrataidd Llundain.

Yn ddiweddarach aeth William Henry Pardoe a’i deulu ati, yn llai uchelgeisiol, i gynhyrchu llestri pridd a phibau smocio o glai ar gyfer y farchnad leol. Caewyd y busnes ym 1921 ac erbyn heddiw mae’r crochendy enwog yn adfail llwyr. Prin bod yr ychydig deuluoedd a symudodd o swydd Stafford i weithio yn y crochendy ar ddechrau’r ganrif wedi gadael argraff ar Gymreigrwydd naturiol yr ardal. Ceir cyfeiriadau at ffyniant y bywyd cymdeithasol traddodiadol, y noson lawen, y dawnsio gwerin, y Fari Lwyd a’r eisteddfodau, hyd at y 1880au. Oherwydd lleoliad Eglwysilan, eglwys y plwyf, mewn llecyn mor ddiarffordd ar ochr Mynydd Meio, i gapel Annibynnol Nantgarw yr â’r mwyafrif o’r trigolion. Ceisiodd Eglwys Loegr adennill tir trwy agor ysgoldai eglwysig yn Nantgarw (1846) a Ffynnon Taf (1869). Yn ogystal ag addysgu plant y dosbarth gweithiol tlawd, trwyddedwyd y ddau adeilad ar gyfer gwasanaethau ar y Sul. Daeth eu cyfnod fel ysgolion i ben unwaith yr agorwyd Ysgol y Bwrdd yn Ffynnon Taf ym 1879. Dylanwad addysg Seisnig yr ysgolion hyn, ynghyd â’r llif cynyddol o weithwyr estron yn ystod y degawdau nesaf, a lwyr ddinistriodd yr iaith a’r ffordd Gymreig o fyw.
Cafodd Ffynnon Taf ei henwi ar ôl y ffynnon dwym iachusol a ddaeth i fri yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Denwyd cannoedd i’w dŵr llesol i geisio iachâd meddygol i anhwylderau’r cyhyrau a’r cymalau. Yng ngeiriau’r bardd Dewi Wyn o Essyllt:
Duw Iôr pur fu’n darparu
Ei dwfr llwys, er adfer llu.
Ni wireddwyd y syniad o droi’r pentref yn spa poblogaidd, serch hynny, a gadawyd i’r llecyn fynd â’i ben iddo wedi’r 1950au.

Mor wahanol oedd hanes Castell Coch, dafliad carreg y tu hwnt i ffin ddeheuol y fwrdeistref. Ar sylfaen hen gastell sy’n dyddio’n ôl i’r drydedd ganrif ar ddeg y codwyd y castell presennol rhwng 1872 a 1875 i fodloni chwaeth y trydydd Ardalydd Bute. Ar un adeg, roedd cymaint â phedair lein rheilffordd, dwy heol ac un gamlas i’w gweld trwy’r ceunant (cul gerllaw’r castell yn cydblethu o’r cymoedd diwydiannol i gyfeiriad y porthladdoedd. Un o’r heolydd oedd y ffordd dyrpeg i Gaerdydd a adeiladwyd gan haearnfeistri Merthyr yn y 1770au, gyda thollbyrth yn Nantgarw a Ffynnon Taf. I gysylltu’r Iein o Gaerfiili i’r Barri codwyd pont reilffordd 100 troedfedd uwch y ddaear ym 1901 (dwy o’r pileri sydd yn weddill ar ôl ei dymchwel ym 1969). O’r 1860au ymlaen tyfodd Ffynnon Taf‘ yn gylym fel yr agorwyd pyllau glo yn y gymdogaeth. At hyn, rhaid ychwanegu’r rhesi tai a adeiladwyd ar gyfer llafurlu gweithfeydd haearn Pen-tyrch yr ochr arall i’r afon. Arweiniodd, hefyd, at dwf Gwaelod-y-garth, lle bu’r Parchedig R. G. Berry (1869-1945), un o arloeswyr y ddrama Gymraeg, yn weinidog. Ar adeg pan oedd addoldai eraill yn tueddu i droi i’r Saesneg, llwyddodd i gadw capel Bethlehem yn Gymraeg ei iaith.
Rhagor o wybodaeth:
Grŵp Hanes Ffynnon Taf a Nantgarw > Taffs Well & Nantgarw History Group
/
/
Cipolwg ar Hanes Tonyrefail > Hanes Tonyrefail
Cipolwg ar hanes Efail Isaf – Hanes Efail Isaf
Gallwch ddarllen hanes Capel y Tabernacl, Efail Isaf yma > Tabernacl
/
Cytgan:
Dwy afon yn sibrwd yr alaw, hen alaw ar dannau’r co’,
Dwy afon yn llifo, dwy afon yn uno, dwy afon yn galon y fro.
Bro annwyl y beirdd a’r cantorion, bro’r gwrol enwogion o fri,
Bro’r dewrion wladgarwyr, bro gweithwyr y glo, clodforwn ei hanes hi.
Sian Rhiannon
Geraint Evans, Stuart Burrows, Tom Jones, Evan James a James James, Dr William Price a Neil Jenkins – dim ond rhai o enwogion Taf Elái sydd wedi gwneud eu marc ar fywyd y genedl.
Ardal i’r gogledd o Gaerdydd yw Taf Elái yn ymestyn o Bontypridd i Lanharan ac o Donyrefail i Bentyrch.
Daw enw’r ardal o’r ddwy afon, y Taf a’r Elái sy’n tarddu yng nghymoedd Morgannwg ac yn ymuno wrth gyrraedd y môr ym Mae Caerdydd. Mae’r rhan fwyaf o’r ardal nawr yn Sir Rhondda Cynon Taf ac ardal Pentyrch yn Sir Caerdydd.
Mae’r olion cynharaf o fywyd diwylliedig yn yr ardal yn ymestyn yn ôl i’r oesoedd cyn Crist. Ger pentref Creigiau mae Cromlech sy’n dyddio o Oes y Cerrig a gerllaw yn Rhiwsaeson ger Llantrisant mae Caerau enfawr ar ben y bryn sy’n dyst i’r ymladd a fu’n yn yr ardal.
Mae dolmenni o’r Oes Efydd, 2000 Cyn Crist, ar ben Mynydd y Garth – mynydd a ddaeth yn fwy enwog yn ddiweddar yn un o ffilmiau Hugh Grant am Sais a aeth i fyny’r bryn a dod i lawr y mynydd. Ceir golygfeydd godidog o ben Mynydd y Garth yn ymestyn o Fôr Hafren i Fannau Brycheiniog.
Daeth y Rhufeiniaid yma i gloddio am haearn ger Pentyrch ac mae’n sicr eu bod wedi adeiladu treflan ar y mynydd gerllaw. Saif yr unig gastell o bwys ar fryn Llantrisant. Cafodd ei adeiladu yn y 13eg ganrif a bu’n dyst i hanes y ‘Tywysog Du’ a gorthrwm y Normaniaid ar fywyd yr ardal. Mae’n adfeilion erbyn hyn.
Un o’r rhai fu’n brwydro i gadw’n traddodiadau a’n hiaith yng nghyfnod y 13 – 14 ganrif oedd Cadwgan Fawr a ddefnyddiodd fwyell enfawr fel ei brif arf yn erbyn y gelyn.
Cysegrwyd Eglwys Llantrisant i’r tri sant sef Illtyd, Gwynno a Dyfodwg ac mae’n dyddio yn ôl i’r 11eg ganrif.
Roedd yr ardal yn parhau yn un amaethyddol pan adeiladodd William Edwards ei bont enwog ar draws yr afon Taf ym Mhontypridd ym 1756. Cafodd y bont ei chwblhau ar y drydedd ymgais gan adeiladu’r bont fwa hiraf o’i math yn Ewrop yr adeg honno.
Ond daeth newid byd yn y 18ed ganrif gydag agor y gweithfeydd haearn ym Merthyr ac adeiladu’r gamlas i lawr y cwm i’r porthladd yng Nghaerdydd ym 1794. Yn ei sgil daeth gweithfeydd newydd yn cynnwys gwaith cadwyni haearn ym Mhontypridd a’r Crochendy yn Nantgarw a fu’n enwog am gynhyrchu llestri hardd.
Mae glo yn dod i’r brig ar ffin ddeheuol Taf Elái a bu’n cael ei gloddio am ganrifoedd ar raddfa fechan. Ond yn y 19ed ganrif suddwyd pyllau glo ym mhob cwr o’r ardal i ddiwallu anghenion diwydiant.
Adeiladwyd rheilffyrdd i lawr y cymoedd i gario’r glo i’r porthladdoedd yng Nghaerdydd a’r Barri. Denwyd miloedd o bobol i weithio yn y diwydiannau newydd a datblygodd trefi Pontypridd a Thonyrefail. Daeth Gilfach Goch yn enwog yn y llyfr a’r ffilm How Green was my Valley.
Yn y cyfnod ar ddiwedd yr ail ryfel byd ym 1947 roedd dros 6000 yn gweithio yn y pyllau glo ond erbyn 1989 roedd y pyllau i gyd wedi cau. Mae cyfle i fynd yn ôl i’r oes pan fu glo yn teyrnasu ym Mharc Treftadaeth y Rhondda yn Nhrehafod.
Agorwyd yr ystâd ddiwydiannol gyntaf yng Nghymru yn Nhrefforest yn y 1950au a daeth diwydiannau newydd i gymryd lle’r diwydiant glo.
Mae agosrwydd yr M4 yn gwneud yr ardal yn atyniadol i ddiwydiannau o bob cwr o’r byd a does dim diwedd ar ddatblygiadau tai newydd a mewnfudo i’r ardal.
Daw hanes Pontypridd a’r ardal yn fyw i ni heddiw yn Amgueddfa Pontypridd ger yr hen bont.
Cafodd y newidiadau diwydiannol effaith sylweddol ar fywyd diwylliannol yr ardal. Yn sgil y mewnlifiad o gefn gwlad Cymru daeth ffyniant diwylliannol ac erbyn canol y 19ed ganrif roedd Pontypridd a ‘Chlic y Bont’ yn ganolfan beirdd a llenorion o gylch eang.
Roedden nhw’n cwrdd yn y Malsters Arms ac yn cynnal defodau’r orsedd o dan ddylanwad Iolo Morgannwg o gwmpas y Garreg Siglo ar y Comin.
Y tad a’r mab Evan James a James James roddodd i ni ein Hanthem Genedlaethol. Yn Eglwysilan y ganwyd Evan James ond roedd yn byw ym Mhontypridd ac yn berchen melin wlân yn Mill Street pan gyfansoddodd ef a’i fab yr anthem ym mis Ionawr 1856.
Un o’r rhai fu’n rhan o ddefodau’r derwyddon ar y Comin oedd Dr William Price. Adeiladodd Dai Crwn ger y Comin a bu’n adnabyddus yn yr ardal gyda’i wisgoedd lliwgar, gwallt hir a het o groen llwynog.
Daeth i enwogrwydd am fod y cyntaf i amlosgi wedi iddo losgi corff ei fab pum mis oed yn Llantrisant ym 1884. Wedi hyn cyfreithlonwyd corfflosgi. Saif cerflun pres ohono ar sgwâr Llantrisant.
Mae cerddoriaeth wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd yr ardal. Mae canu gyda’r Fari Lwyd o gwmpas y flwyddyn newydd ymhlith traddodiadau hynaf yr ardal ac mae’r ddefod yn parhau i gael ei chynnal yng nghylch Llantrisant a Phentyrch.
Datblygodd canu corawl yn sgil twf Anghydffurfiaeth yn y 19ed ganrif ac roedd cymdeithasau corawl yng Nghilfynydd, Llantrisant, Pontypridd, Trefforest a Thonyrefail ac mae’r traddodiad yn parhau hyd heddiw a’r ardal wedi esgor ar sawl côr adnabyddus megis Côr Godre’r Garth, Côr Merched y Garth, Cantorion Creigiau a Chantorion Richard Williams.
Daeth llu o unawdwyr o’r ardal, yn eu plith mae Geraint Evans a Stuart Burrows o Gilfynydd, ac ym maes canu poblogaidd mae’r enwog Tom Jones o Drefforest.
Roedd Morfydd Llwyn Owen o Drefforest yn un o gyfansoddwyr disgleiriaf Cymru a Gweddi Pechadur ymhlith ei chaneuon enwocaf. Bu farw yn 27 mlwydd oed ym 1918.
Yr emyn-dôn enwocaf i gael ei chyfansoddi yn yr ardal yw Cwm Rhondda o waith John Hughes ym 1907, arweinydd y gân yng Nghapel Salem, Tonteg.
Yn y 19ed ganrif roedd yr ardal yn fwrlwm o ddawnsio, a’r hen grefft o stepio yn fyw yn y pentrefi o gwmpas Nantgarw. Ond o dan ddylanwad Diwygiad 1859 daeth diwedd ar ddawnsio a chanu’r delyn nes i Ddawnswyr Nantgarw yn y 1980au atgyfodi’r traddodiad o stepio yn yr ardal.
Ond mae hanes diweddar Taf Elái o bwys mawr i ddyfodol yr ardal. Yn y 1950au y cychwynnodd yr ymgyrch i agor ysgolion cynradd Cymraeg ac agorwyd y gyntaf yn yr ardal ym Mhont Siôn Norton, Pontypridd ym 1951.
Agorwyd yr Ysgol Gyfun Gymraeg gyntaf yn yr ardal yn Rhydfelen ym 1962. Erbyn diwedd yr 20ed ganrif roedd dros 25% o blant yr ardal yn cael eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bu Eisteddfod yr Urdd yn yr ardal ym 1973 ac 1991 a sefydlwyd Menter Taf Elái yn 1992 i ehangu’r defnydd o’r Gymraeg. Mae Parti Ponty yn ddigwyddiad blynyddol sy’n denu miloedd i Bontypridd i ddathlu twf yr iaith Gymraeg. Agorwyd Clwb y Bont yn ganolfan i Gymry’r ardal ym 1985. Mae Prifysgol Morgannwg yn Nhrefforest yn rhoi cyfle newydd i bobol o bob oed i ddysgu’r Gymraeg.