Gŵyl Ddrama Tafod Elái 1986 – 2002

Atgofion Colin Williams

O bryd i’w gilydd bydd ’na gyfaill yn codi sgwrs ac yn cyfeirio at hwn a hwn neu hon a hon mewn rhyw wisg anhebygol a cholur gormodol, mwstash afreolus, acen dodgy, wig neu staes cwbwl bisâr. A finne bron wedi anghofio am y perfformiad neu wedi ceisio’i wthio i neuadde pellaf y cof. Bu dwy flynedd ar bymtheg o’r Ŵyl Ddrama yn ei chartref blynyddol yn Neuadd Dowlais, Pentre’r Eglwys yn fodd i roi llwyfan i dalentau ifanc ac yn fodd i hen stejars y fro anghofio’u pryderon dyddiol.

Roedd Tafod Elái’n dathlu’i ben-blwydd cynta ac awgrymwyd yn y pwyllgor y dylen ni ddathlu’r achlysur. Taro ar y syniad o ŵyl ddrama. Ac  i’r beirniad cynta un, yr amryddawn Dyfan Roberts, roedd yn rhagweld dyfodol llewyrchus ”mi fyta i’n het Hen Ddyn Budur os na fydd Gŵyl Ddrama Tafod Elái yma ymhen can mlynedd”.

Bu adrannau drama ysgolion yr ardal yn driw iawn ond hyd yn oed brafiach oedd i’r disgyblion weld eu hathrawon yn perfformio ac yn barod i ymlacio a joio yn eu gŵydd. Mae cymaint o’n gweithgaredd Cymraeg ni’n ymwneud â phlant ac ynghlwm ag ysgolion. Braf oedd creu  noddfa glyd a diogel, pau iaith gwahanol – gaeafau o rowlio chwerthin ac ambell foment ysgytwol ddwys i’n sobri fel cynulleidfa. Yr hen stejars yn mynd am y gwirion a’r disgyblion ysgol yn mynnu mynd â ni i gorneli tywyll dwys. Cafwyd dramâu, nosweithiau llawen, pantomeimiau, hyd yn oed berfformiad dawns, virtuoso gitâr, heb anghofio anterliwt. Wrth i hanes yr ŵyl fynd ar led, denwyd sawl cwmni o bell – Cwmni Rhos y Gar o Lanaman, Cwmni  Carreg Galch, Rhydaman ac Ysgolion Penweddig, Ystalyfera a Gwynllyw yn eu plith.  Categori am bopeth a thlws i bawb oedd yr arwyddair.

A’r gynulleidfa! Dyna foddhad oedd llenwi’r neuadd am dair, weithiau bedair neu bum noson. Y rhesi blaen yn câl eu bachu gan y plant lleia – ambell un yn gegrwth ac ambell un yn cael trafferth cadw llygaid ar agor y noson honno, ac yn yr ysgol drannoeth yn ôl y sôn. I ddisychedu’r punters bu cylchoedd meithrin a Merched y Wawr yn darparu te a choffi – ac roedd ‘na gystadleuaeth answyddogol am y bara brith gorau. Roedd hi fel camu nôl i neuaddau pentref ein plentyndod – a’r alwy i weld yn plesio.

Diolch arbennig i Colin Williams am drefnu’r diddanwch a’r hwyl ac am roi cyfle i gymaint o bobl ifanc a hŷn i ddatblygu eu doniau ar y llwyfan.
 

Fel ymhob menter lwyddiannus, roedd ‘na griw dethol dibynadwy sefydlog.  Ffotofraffydd ‘swyddogol’, yr annwyl D J Davies, Tonyrefail. A chyn bod sôn am ffôn symudol a’r camra sydyn, byddai DJ wedi datblygu lluniau’r noson honno i’w harddangos yng nghyntedd y neuadd y noson ganlynol! Yno’n nosweithiol byddai Trysorydd yr ŵyl, Dafydd Knight, a ofalodd am y cyfrifon am oes yr ŵyl. Cyfeilydd ffyddlon yr ŵyl oedd Carey Williams. A byddai Penri yno wrth reswm – yn ffilmio pob eiliad ar ei declyn diweddaraf ac yna gosod yr hanes yn rhifyn Nadolig Tafod Elái o fewn 24 awr – ei wyrth fisol.

Drama Clwb y Bont yn 1988

Ac yna’r beirniaid. Buom yn freintiedig fel cymuned i ddenu / berswadio / dwyllo gwir selebs y cyfnod i ddod i gloriannu’n gŵyl fach ni. Dyfan Roberts oedd y cyntaf. Roedd yn byw yn Llantrisant. Yna, Huw Ceredig yn cael ei gyfareddu gan gynhyrchiad y Dwrlyn o’r Dyn Codi Pwysau!! Ym 1988, y meistrolgar, y gwylaidd a’r annwyl, John Hefin a welai debygrwydd rhwng yr Ŵyl â thraddodiad drama amatur ei fagwraeth yn Sir Aberteifi. Ym 1989 daeth T James Jones atom a gwobrwyo Ysgol Cwm Rhymni am y trydydd tro’n olynol am eu perfformiad o Tisiw. A’r oedolion? Clwb y Bont eto, a’u Dal y Ddysgl yn Wastad – yn rhannol oherwydd cyfraniadau Hefin Griffiths a Gerallt Pennant. A ble maen nhw erbyn hyn?

Ym 1990, neb llai na Gwenlyn Parry ei hun ac yn ei ddilyn ym 1991, Emyr Edwards. Ym 1992, Elisabeth Miles oedd yn pwyso a mesur gan gynnwys cwmni ei brawd. Ym 1993, Iola Gregory. Ac yn y flwyddyn honno, rhyfeddod y rhyfeddodau, Y Dwrlyn yn fuddugol gyda’u Noson Lawen ac hefyd Drama i Oedolion, Hi o Bawb. Roedd gŵyl 1994 yn bedair noson unwaith eto a’r beirniad, Llion Williams, yn ganmoliaethus ond yn cael trafferth dyfarnu’r gwahanol wobrau a thlysau. Roedd 1995 hefyd yn ŵyl pedair noson, 13 cwmni gan gynnwys cwmni Noson Lawen y Dwrlyn yn ogystal â Chwmni Drama’r Dwrlyn A a Chwmni Drama’r Dwrlyn B – ar ba sail y’i graddiwyd, pwy â wyr! Dyna beth oedd bwrlwm y Dwrlyn a’r aelodau yn ifanc, heini ac annoeth. Honodd Heddyr Gregory ei bod wedi’i phlesio’n fawr.

Ym 1996, 13 cwmni umnwaith eto, y neuadd yn orlawn ac roedd Caryl, y beirniad y flwyddyn honno’n ddigon o sbort i ymuno ym mhantomeim buddugoliaethus Y Dwrlyn. Gŵyl 5 noson ac 19 cwmni wrthi ym 1997 – dawn denu Cliff Jones mae’n siwr.

Y gynulleidfa yn 1995

Gillian Elisa ym 1998 yn cael ei hatgoffa o asbri Theatr Felinfach. John Pierce Jones yntau ym 1999 yn rhyfeddu at y bwrlwm yn yr ardal. Yn 2000, derbyniodd yr hyfryd Sioned Mair y gwahoddiad gan gyflwyno Tlws Actor yr Wŷl i’r haeddiannol Elin Morse.

Motobeic y Morsiaid yn 1997

Yn 2001, daeth Ifan Huw Dafydd atom  a chwmni Merched y Wawr y Garth yn derbyn canmoliaeth ganddo am Mrs Carusoe er ei fod yn awgrymu fod tuedd i or-actio!!! Yn yr ŵyl olaf un, croesawyd Huw Garmon yn feirniad ac yntau’n dal i ddathlu llwyddiant Hedd Wyn. Fel y crybwyllais, mawrion y genedl yn barod i roi statws i’n gŵyl fach ni ac ymuno yn yr hwyl. Rwyf mor ddiolchgar iddynt un ac oll.

Os maddeuer  sylw personol, roedd y cyfan yn lot o hwyl. Roedd promptio Meima a’i chriw o gefn llwyfan yn heriol (gan nad oedd y teulu wedi llwyddo i gwrdd i ymarfer fel cwmni cyn perfformio!!)  Ac af i ddim i sôn am y moto beic! Roedd rhannu gwely gydag actores ddawnus yn Gwirion Hen yn brofiad ac Ifan Robaits wedi mynd OTT gyda’r colur – ‘tae ni’n ail berfformio hi heddiw, fyddai dim galw am yr holl golur ar Ann na finne!!

Roedd gweld fy lines ar gefn pelmet y llwyfan ddeuddeg mis yn ddiweddarach yn dwyn y cyfan nôl i gof. Fe’m boddhawyd gan ein talentau ifanc ond mae cameos un actor wedi’u serio arnaf, un flwyddyn yn hoeden fach ddiniwed (a ddim mor ddi-niwed) a’r flwyddyn ganlynol, yn hen wreigan fusgrell ac ambell twitch amrhisiadwy. Y digymar Sheila Dafis (a ’falle bod sgript y gŵr wedi helpu).

Mae ’na gyfnod i bob dim a melys iawn yw hel atgofion am gyfnod yr ŵyl.  Diolch i’r holl gwmnîau am eu cefnogaeth a’u cydweithrediad. Diolch am y cyfle i fod yn rhan o bethe. Sut awn i ddathlu deugain mlwyddiant Tafod Elái? – o mam bach, na!!

Rwy’n mawr obeithio y bydd rhywrai yn dal i godi sgwrs:  “ti’n cofio, pwy odd e dwêd  ….. yn gwisgo’r sbectol pot jam ’na ac yn angofio’i leins ac yn adlibio ….”

Crochendy Nantgarw

Lle tawel oedd Nantgarw yn niwedd y ddeunawfed ganrif, ond yn 1794 agorwyd Camlas Morgannwg o Ferthyr Tudful i Gaerdydd a datblygodd y pentref i raddau helaeth oherwydd y gamlas. Mae olion y gamlas i’w weld ger safle crochendy enwog Nantgarw yng nghysgod ffordd yr A470.

Cysylltir enw Thomas Billingsley yn bennaf â gwaith porslen Nantgarw ond cafodd gymorth gan ei fab-yng-nghyfraith, Samuel Walker, a gŵr busnes o’r enw William Weston Young. Ganwyd Billingsley yn Derby yn 1758 a chafodd ei hyfforddi i baentio porslen yng ngwaith Derby, lle bu’n gweithio rhwng 1788 a 1796. Ond uchelgais Billingsley oedd cynhyrchu porslen o’r un ansawdd a, os nad gwell na phorslen Se’vres wrth arbrofi. Teithiodd yn eang a chredir iddo ymweld â Nantgarw ar daith yn 1807.

Yn 1813, penderfynodd ymsefydlu yn Nantgarw gyda’i deulu, ac adeiladwyd yr odynnau yn ystod gaeaf 1813-14 ynghyd ag adeiladau angenrheidiol i’r broses o gynhyrchu porslen. Roedd rhaid arbrofi cyn y gellid dechrau cynhyrchu’r porslen.

Roedd Nantgarw yn le delfrydol i sefydlu crochendy oherwydd ei lleoliad ar lannau Camlas Morgannwg. Roedd clai yn gallu cael ei gludo yn hawdd i’r gweithfeydd, tra gellid cludo’r porslen drudfawr i Gaerdydd yn fwy diogel ar y gamlas nag ar gefn ceffyl. Gellid malu’r clai mewn melin gyfagos ac roedd cyflenwad digonol o lo ar gael i danio’r ffwrneisi.

Crochendy Nantgarw

Ond er gwaetha’r amodau ffafriol hyn, methiant fu’r fenter oherwydd prinder arian, a rhaid oedd cael cymorth Thomas Pardoe, arlunydd porslen o fri. Cafodd e ei eni yn Derby hefyd, ac roedd wedi cael profiad yn paentio porslen yng ngwaith Caerwrangon ac yng Nghrochendy Cambrian yn Abertawe, cyn mentro ar ei ben ei hun fel peintiwr porslen ym Mryste yn 1809. Roedd Pardoe and Billingsley yn gyfeillion o’u dyddiau gyda’i gilydd yn Derby. Yn y cyfamser symudodd Billingsley i Abertawe lle sefydlodd Gwaith Tsiena Abertawe. Ond yn sgil trafferthion daeth yn ôl i Nantgarw ac yn 1817 fel ail agorwyd crochendy Nantgarw.

Y tro hwn llwyddodd William Weston Young i gael arian oddi wrth rhai o feistri haearn Merthyr, megis William Crawshay a J.J.Guest, a hefyd oddi wrth wŷr bonheddig, yn eu plith yr Ardalydd Bute. Yn ôl William Weston Young roedd porslen Nantgarw cystal â os nad gwell na unrhyw borslen arall yn y byd. Ond yn 1820 symudodd Billingsley a Walker i Coalport i weithio i Rose. Ond siom oedd yn eu disgwyl eto oherwydd nid oedd porslen Billingsley yn hawdd i’w gynhyrchu’n economaidd. Bu farw Billingsley yn Coalport yn 1828, ac ymfudodd Walker i’r Unol Daleithiau.

Gadawodd Billingsley llawer o’i gynnyrch yn Nantgarw, ac mewn ymgais i adennill cyfran o’r arian a fuddsoddwyd yng ngwaith Nantgarw, trefnodd William Weston Young arwerthiant ar 8fed Tachwedd 1820. Ymhlith yr eitemau ar werth roedd nifer o ddarnau porslen Nantgarw wedi eu haddurno yn goeth ag aur. Nid oes sicrwydd mai gwaith arlunio Billingsley oedd ar y darnau hyn. Prynodd Young ei hun gyflenwad o borslen gwyn ac yn 1821 gwahoddodd Thomas Pardoe i Nantgarw i addurno’r porslen gwyn er mwyn ei werthu’n lleol.

Cwpan cynhyrchwyd yn 1820

Roedd Billingsley wedi mynd â chyfrinach y sglein gwydredd terfynol gydag ef i Coalport – sglein terfynol oedd yn bennaf gyfrifol am arbenigrwydd porslen Nantgarw. Felly roedd rhaid i Young ddyfesio reset ei hun, ond nid oedd mor llwyddiannus â’r un gwreiddiol. Ni chynhyrchodd Young gyflenwad newydd o borslen yn Nantgarw. Ei fwriad oedd cwblhau addurno’r stoc o lestri gwyn, a’u gwerthu’n lleol. Ar Fai 9fed 1821 cynhaliwyd arwerthiant yn y Bontfaen, ac yno fe werthwyd cannoedd o ddarnau o borslen cain. Ond unwaith eto methodd Young â chadw’r crochendy yn Nantgarw i fynd, ac ar Hydref 28, 1822 gwerthwyd gweddill y porslen wedi ei baentio, y porslen gwyn, ac yn ôl rhai, y mowldiau. Credir i Pardoe aros yn Nantgarw ac mae’n debyg mai ef baentiodd y stoc a werthwyd. Bu farw yn 1823, ac fe’i claddwyd yn Eglwysilan.

Agorwyd Crochendy Nantgarw unwaith eto gan fab Thomas Pardoe, William Henry, i gynhyrchu crochenwaith yn hytrach na phorslen. Gwnaeth ef grochenwaith “Rockingham” – crochenwaith o liw brown cyfoethog – a chynhyrchodd nwyddau megis tebotau, poteli llestri a theils ar gyfer y llawr a llefydd tân. Cynhyrchodd hefyd bibau clai ar gyfer ysmygu tybaco.

Bu farw William Henry yn 1867, a throsglwyddwyd y busnes i’w feibion, a buont yn masnachu o dan yr enw “Y Brodyr Pardoe”. Ond nid oeddent yn medru cystadlu  â’r diwydiant sigarennau, ac felly, caeodd y crochendy ei ddrysau am y tro olaf yn 1921.

Hanes trist braidd sydd i grochendy Nantgarw felly. Er i borslen o’r radd flaenaf gael ei gynhyrchu yno, nid oedd gan y crefftwyr y gallu i wneud y fenter yn un llwyddiannus yn ariannol.

Pentref Nantgarw tua 1900

Cyfrifir gwaith Billingsley o ran prydferthwch ffurf a cheinder crefft yn uchel iawn ymhlith casglwr porslen, ac erbyn heddiw, oherwydd eu prinder, mae llestri Nantgarw yn gwerthu am bris uchel iawn mewn arwerthiannau.

Dros y blynyddoedd aeth y gwaith lle cynhyrchwyd porslen hardd Nantgarw yn adfeilion ond oherwydd brwdfrydedd pobl leol prynwyd y safle gan Gyngor Bwrdeistref Taf Elái yn 1989. Ers hynny buddsoddwyd yn helaeth i adfer y gwaith ac erbyn hyn mae arddangosfeydd, artistiaid gwadd a gwersi celf yn cael eu cynnal yno ac mae’n atyniad i dwristiaid i’r ardal.

C.W.

Nantgarw a Ffynnon Taf

Y PENTREFI GLOFAOL DEHEUOL (Rhan)

David A. Pretty

‘Rhwng Dwy Afon’ Llyfr Eisteddfod yr Urdd Taf-Elái 1991

Ardal amaethyddol anghysbell gyda phoblogaeth wasgaredig oedd Blaenau Morgannwg ers cyn cof; ffermydd a phentrefi bychan hunangynhaliol a nodweddai’r mynydd-dir a’r dyffrynnoedd. Magu anifeiliaid a thrin y tir fyddai’r gorchwylion pennaf gyda’r ffair yn gyfrwng i brynu a gwerthu nwyddau. I ddiwallu anghenion yr economi wledig y gweithiai’r crefftwyr lleol: y gwehydd, y gof, y cowper a’r crydd. Nid oedd bywyd yn hawdd i’r bobl gyffredin ac ni ddylid anghofio’r tlodi a’r amgylchiadau cymdeithasol truenus. Cymry uniaith oedd mwyafrif llethol y boblogaeth.

Enwau Cymraeg, bron yn ddieithriad, a roddwyd ar y ffermydd a’r caeau. Yn y Gymraeg y cynhelid y gwasanaethau cyhoeddus yn eglwysi’r plwyf. Cryfhau a dyrchafu statws yr iaith wnaeth Ysgolion Cylchynol Griffith Jones a lledaeniad Anghydffurfiaeth. O ganlyniad, arhosodd y mwyafrif o gymunedau Taf-Elái yn gadarn eu Cymreictod tan o leiaf y 1840au. Yna daeth cyfnod o chwyldro. Gorweddai cyfoeth dan y pridd a glo fu’n bennaf cyfrifol am droi Taf-Elái amaethyddol yn Daf-Elái weithfaol. Yn sgil mewnlifiad estron a Seisnigeiddio cynyddol gwelwyd yr hen gymunedau yn chwalu wrth i ddiwydiant weddnewid cymeriad y fro. Yn eu lle tyfodd cadwyn o bentrefi glofaol.

Ar y naill ochr i’r Afon Taf, y bwysicaf o’r ddwy afon, mae pentrefi Nantgarw, Ffynnon Taf a Gwaeled-y-garth. Agor Camlas Morgannwg o Ferthyr i Gaerdydd ym 1794 roddodd fywyd i bentref gwledig Nantgarw, oherwydd yma yr adeiladwyd y bythynnod i’r badwyr, tra ceid stablau i’r ceffylau yn Nyffryn Ffrwd. Un o ryfeddodau’r  gamlas oedd y tair llifddor enfawr uwchben capel Glan-y-llyn. (Adeiladwyd priffordd yr A470 ar safle’r hen gamlas yn y 1960au gan ddistrywio y rhan fwyaf o’r pentref.)

Treble Locks, Ffynnon Taf

I ddiwallu anghenion gweithfeydd haearn Pen-tyrch yr agorwyd y pyllau glo cynharaf, megis glofeydd Craig yr Allt a Bryn-coch. Pan suddwyd siafft newydd yn Nantgarw ym 1911 hon oedd y siafft ddyfnaf (580llath) yn ne Cymru. Ond mae’n debyg taw llestri Nantgarw a ddenodd y sylw pennaf; yn wir daeth enw Nantgarw yn gyfystyr â phorslen addurnedig gorau Prydain. Sefydlwyd y crochendy gan William Billingsley ym 1814 ac er taw am chwe blynedd yn unig y bu’n cynhyrchu llestri llwyddodd ansawdd uchel ei grefftwaith i swyno teuluoedd aristocrataidd Llundain.

Crochendy Nantgarw ger y Gamlas

Yn ddiweddarach aeth William Henry Pardoe a’i deulu ati, yn llai uchelgeisiol, i gynhyrchu llestri pridd a phibau smocio o glai ar gyfer y farchnad leol. Caewyd y busnes ym 1921 ac erbyn heddiw mae’r crochendy enwog yn adfail llwyr. Prin bod yr ychydig deuluoedd a symudodd o swydd Stafford i weithio yn y crochendy ar ddechrau’r ganrif wedi gadael argraff ar Gymreigrwydd naturiol yr ardal. Ceir cyfeiriadau at ffyniant y bywyd cymdeithasol traddodiadol, y noson lawen, y dawnsio gwerin, y Fari Lwyd a’r eisteddfodau, hyd at y 1880au. Oherwydd lleoliad Eglwysilan, eglwys y plwyf, mewn llecyn mor ddiarffordd ar ochr Mynydd Meio, i gapel Annibynnol Nantgarw yr â’r mwyafrif o’r trigolion. Ceisiodd Eglwys Loegr adennill tir trwy agor ysgoldai eglwysig yn Nantgarw (1846) a Ffynnon Taf (1869). Yn ogystal ag addysgu plant y dosbarth gweithiol tlawd, trwyddedwyd y ddau adeilad ar gyfer gwasanaethau ar y Sul. Daeth eu cyfnod fel ysgolion i ben unwaith yr agorwyd Ysgol y Bwrdd yn Ffynnon Taf ym 1879. Dylanwad addysg Seisnig yr ysgolion hyn, ynghyd â’r llif cynyddol o weithwyr estron yn ystod y degawdau nesaf, a lwyr ddinistriodd yr iaith a’r ffordd Gymreig o fyw.

Cafodd Ffynnon Taf ei henwi ar ôl y ffynnon dwym iachusol a ddaeth i fri yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Denwyd cannoedd i’w dŵr llesol i geisio iachâd meddygol i anhwylderau’r cyhyrau a’r cymalau. Yng ngeiriau’r bardd Dewi Wyn o Essyllt:

Duw Iôr pur fu’n darparu
Ei dwfr llwys, er adfer llu.

Ni wireddwyd y syniad o droi’r pentref yn spa poblogaidd, serch hynny, a gadawyd i’r llecyn fynd â’i ben iddo wedi’r 1950au.

Yr hen ffynnon yn Ffynnon Taf

Mor wahanol oedd hanes Castell Coch, dafliad carreg y tu hwnt i ffin ddeheuol y fwrdeistref. Ar sylfaen hen gastell sy’n dyddio’n ôl i’r drydedd ganrif ar ddeg y codwyd y castell presennol rhwng 1872 a 1875 i fodloni chwaeth y trydydd Ardalydd Bute. Ar un adeg, roedd cymaint â phedair lein rheilffordd, dwy heol ac un gamlas i’w gweld trwy’r ceunant (cul gerllaw’r castell yn cydblethu o’r cymoedd diwydiannol i gyfeiriad y porthladdoedd. Un o’r heolydd oedd y ffordd dyrpeg i Gaerdydd a adeiladwyd gan haearnfeistri Merthyr yn y 1770au, gyda thollbyrth yn Nantgarw a Ffynnon Taf. I gysylltu’r Iein o Gaerfiili i’r Barri codwyd pont reilffordd 100 troedfedd uwch y ddaear ym 1901 (dwy o’r pileri sydd yn weddill ar ôl ei dymchwel ym 1969). O’r 1860au ymlaen tyfodd Ffynnon Taf‘ yn gylym fel yr agorwyd pyllau glo yn y gymdogaeth. At hyn, rhaid ychwanegu’r rhesi tai a adeiladwyd ar gyfer llafurlu gweithfeydd haearn Pen-tyrch yr ochr arall i’r afon. Arweiniodd, hefyd, at dwf Gwaelod-y-garth, lle bu’r Parchedig R. G. Berry (1869-1945), un o arloeswyr y ddrama Gymraeg, yn weinidog. Ar adeg pan oedd addoldai eraill yn tueddu i droi i’r Saesneg, llwyddodd i gadw capel Bethlehem yn Gymraeg ei iaith.

Rhagor o wybodaeth:

Grŵp Hanes Ffynnon Taf a Nantgarw > Taffs Well & Nantgarw History Group

Cân Bro Taf-Elái

/

Cytgan:

Dwy afon yn sibrwd yr alaw, hen alaw ar dannau’r co’,
Dwy afon yn llifo, dwy afon yn uno, dwy afon yn galon y fro.
Bro annwyl y beirdd a’r cantorion, bro’r gwrol enwogion o fri,
Bro’r dewrion wladgarwyr, bro gweithwyr y glo, clodforwn ei hanes hi.

  1. Fe gofiwn am Ifor a’i filwyr yn herio’r Normaniaid a’u criw,
    Ac yntau’r hen ddoctor, yr hen William Price i’r gweithwyr yn gyfaill triw,
    Ie, cofiwn am feddyg gwir fedrus, gwr eofn yn datgan ei farn,
    Dros Gymru a’i phobl y safodd drwy’i oes fel Siartydd a Chymro i’r carn.
  2. I lannau’r ddwy afon daeth alaw, atseiniai drwy’r bur hoff bau,
    A gobaith i Gymru oedd byrdwn y gan, `O bydded i’r heniaith barhau’.
    Ond colli Cymreictod fu’r hanes, a cholli yr heniaith o’r tir,
    Yr anthem yn angof, y geiriau ar goll, a’r bwystfil yn bygwth y mur.
  3. Ond heddiw mae’r gân yn ein calon, heddiw mae’r fflamau ynghyn,
    A’r plant a’r ieuenctid yn chwarae’n Gymraeg ar lannau’r afonydd hyn.
    A thra saif hen bont William Edwards, tra pery bro Taf-Elái,
    Bydd `Hen Wlad fy Nhadau’n’ atseinio drwy’r fro a’r heniaith o hyd yn parhau.

Sian Rhiannon

Bro Taf Elái

Bro Taf Elái

Geraint Evans, Stuart Burrows, Tom Jones, Evan James a James James, Dr William Price a Neil Jenkins – dim ond rhai o enwogion Taf Elái sydd wedi gwneud eu marc ar fywyd y genedl.

Ardal i’r gogledd o Gaerdydd yw Taf Elái yn ymestyn o Bontypridd i Lanharan ac o Donyrefail i Bentyrch.

Daw enw’r ardal o’r ddwy afon, y Taf a’r Elái sy’n tarddu yng nghymoedd Morgannwg ac yn ymuno wrth gyrraedd y môr ym Mae Caerdydd. Mae’r rhan fwyaf o’r ardal nawr yn Sir Rhondda Cynon Taf ac ardal Pentyrch yn Sir Caerdydd.

Mae’r olion cynharaf o fywyd diwylliedig yn yr ardal yn ymestyn yn ôl i’r oesoedd cyn Crist. Ger pentref Creigiau mae Cromlech sy’n dyddio o Oes y Cerrig a gerllaw yn Rhiwsaeson ger Llantrisant mae Caerau enfawr ar ben y bryn sy’n dyst i’r ymladd a fu’n yn yr ardal.

Mae dolmenni o’r Oes Efydd, 2000 Cyn Crist, ar ben Mynydd y Garth – mynydd a ddaeth yn fwy enwog yn ddiweddar yn un o ffilmiau Hugh Grant am Sais a aeth i fyny’r bryn a dod i lawr y mynydd. Ceir golygfeydd godidog o ben Mynydd y Garth yn ymestyn o Fôr Hafren i Fannau Brycheiniog.

Daeth y Rhufeiniaid yma i gloddio am haearn ger Pentyrch ac mae’n sicr eu bod wedi adeiladu treflan ar y mynydd gerllaw. Saif yr unig gastell o bwys ar fryn Llantrisant. Cafodd ei adeiladu yn y 13eg ganrif a bu’n dyst i hanes y ‘Tywysog Du’ a gorthrwm y Normaniaid ar fywyd yr ardal. Mae’n adfeilion erbyn hyn.

Un o’r rhai fu’n brwydro i gadw’n traddodiadau a’n hiaith yng nghyfnod y 13 – 14 ganrif oedd Cadwgan Fawr a ddefnyddiodd fwyell enfawr fel ei brif arf yn erbyn y gelyn.

Cysegrwyd Eglwys Llantrisant i’r tri sant sef Illtyd, Gwynno a Dyfodwg ac mae’n dyddio yn ôl i’r 11eg ganrif.

Roedd yr ardal yn parhau yn un amaethyddol pan adeiladodd William Edwards ei bont enwog ar draws yr afon Taf ym Mhontypridd ym 1756. Cafodd y bont ei chwblhau ar y drydedd ymgais gan adeiladu’r bont fwa hiraf o’i math yn Ewrop yr adeg honno.

Ond daeth newid byd yn y 18ed ganrif gydag agor y gweithfeydd haearn ym Merthyr ac adeiladu’r gamlas i lawr y cwm i’r porthladd yng Nghaerdydd ym 1794. Yn ei sgil daeth gweithfeydd newydd yn cynnwys gwaith cadwyni haearn ym Mhontypridd a’r Crochendy yn Nantgarw a fu’n enwog am gynhyrchu llestri hardd.

Mae glo yn dod i’r brig ar ffin ddeheuol Taf Elái a bu’n cael ei gloddio am ganrifoedd ar raddfa fechan. Ond yn y 19ed ganrif suddwyd pyllau glo ym mhob cwr o’r ardal i ddiwallu anghenion diwydiant.

Adeiladwyd rheilffyrdd i lawr y cymoedd i gario’r glo i’r porthladdoedd yng Nghaerdydd a’r Barri. Denwyd miloedd o bobol i weithio yn y diwydiannau newydd a datblygodd trefi Pontypridd a Thonyrefail. Daeth Gilfach Goch yn enwog yn y llyfr a’r ffilm How Green was my Valley.

Yn y cyfnod ar ddiwedd yr ail ryfel byd ym 1947 roedd dros 6000 yn gweithio yn y pyllau glo ond erbyn 1989 roedd y pyllau i gyd wedi cau. Mae cyfle i fynd yn ôl i’r oes pan fu glo yn teyrnasu ym Mharc Treftadaeth y Rhondda yn Nhrehafod.

Agorwyd yr ystâd ddiwydiannol gyntaf yng Nghymru yn Nhrefforest yn y 1950au a daeth diwydiannau newydd i gymryd lle’r diwydiant glo.

Mae agosrwydd yr M4 yn gwneud yr ardal yn atyniadol i ddiwydiannau o bob cwr o’r byd a does dim diwedd ar ddatblygiadau tai newydd a mewnfudo i’r ardal.

Daw hanes Pontypridd a’r ardal yn fyw i ni heddiw yn Amgueddfa Pontypridd ger yr hen bont.

Cafodd y newidiadau diwydiannol effaith sylweddol ar fywyd diwylliannol yr ardal. Yn sgil y mewnlifiad o gefn gwlad Cymru daeth ffyniant diwylliannol ac erbyn canol y 19ed ganrif roedd Pontypridd a ‘Chlic y Bont’ yn ganolfan beirdd a llenorion o gylch eang.

Roedden nhw’n cwrdd yn y Malsters Arms ac yn cynnal defodau’r orsedd o dan ddylanwad Iolo Morgannwg o gwmpas y Garreg Siglo ar y Comin.

Y tad a’r mab Evan James a James James roddodd i ni ein Hanthem Genedlaethol. Yn Eglwysilan y ganwyd Evan James ond roedd yn byw ym Mhontypridd ac yn berchen melin wlân yn Mill Street pan gyfansoddodd ef a’i fab yr anthem ym mis Ionawr 1856.

Un o’r rhai fu’n rhan o ddefodau’r derwyddon ar y Comin oedd Dr William Price. Adeiladodd Dai Crwn ger y Comin a bu’n adnabyddus yn yr ardal gyda’i wisgoedd lliwgar, gwallt hir a het o groen llwynog.

Daeth i enwogrwydd am fod y cyntaf i amlosgi wedi iddo losgi corff ei fab pum mis oed yn Llantrisant ym 1884. Wedi hyn cyfreithlonwyd corfflosgi. Saif cerflun pres ohono ar sgwâr Llantrisant.

Mae cerddoriaeth wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd yr ardal. Mae canu gyda’r Fari Lwyd o gwmpas y flwyddyn newydd ymhlith traddodiadau hynaf yr ardal ac mae’r ddefod yn parhau i gael ei chynnal yng nghylch Llantrisant a Phentyrch.

Datblygodd canu corawl yn sgil twf Anghydffurfiaeth yn y 19ed ganrif ac roedd cymdeithasau corawl yng Nghilfynydd, Llantrisant, Pontypridd, Trefforest a Thonyrefail ac mae’r traddodiad yn parhau hyd heddiw a’r ardal wedi esgor ar sawl côr adnabyddus megis Côr Godre’r Garth, Côr Merched y Garth, Cantorion Creigiau a Chantorion Richard Williams.

Daeth llu o unawdwyr o’r ardal, yn eu plith mae Geraint Evans a Stuart Burrows o Gilfynydd, ac ym maes canu poblogaidd mae’r enwog Tom Jones o Drefforest.

Roedd Morfydd Llwyn Owen o Drefforest yn un o gyfansoddwyr disgleiriaf Cymru a Gweddi Pechadur ymhlith ei chaneuon enwocaf. Bu farw yn 27 mlwydd oed ym 1918.

Yr emyn-dôn enwocaf i gael ei chyfansoddi yn yr ardal yw Cwm Rhondda o waith John Hughes ym 1907, arweinydd y gân yng Nghapel Salem, Tonteg.

Yn y 19ed ganrif roedd yr ardal yn fwrlwm o ddawnsio, a’r hen grefft o stepio yn fyw yn y pentrefi o gwmpas Nantgarw. Ond o dan ddylanwad Diwygiad 1859 daeth diwedd ar ddawnsio a chanu’r delyn nes i Ddawnswyr Nantgarw yn y 1980au atgyfodi’r traddodiad o stepio yn yr ardal.

Ond mae hanes diweddar Taf Elái o bwys mawr i ddyfodol yr ardal. Yn y 1950au y cychwynnodd yr ymgyrch i agor ysgolion cynradd Cymraeg ac agorwyd y gyntaf yn yr ardal ym Mhont Siôn Norton, Pontypridd ym 1951.

Agorwyd yr Ysgol Gyfun Gymraeg gyntaf yn yr ardal yn Rhydfelen ym 1962. Erbyn diwedd yr 20ed ganrif roedd dros 25% o blant yr ardal yn cael eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bu Eisteddfod yr Urdd yn yr ardal ym 1973 ac 1991 a sefydlwyd Menter Taf Elái yn 1992 i ehangu’r defnydd o’r Gymraeg. Mae Parti Ponty yn ddigwyddiad blynyddol sy’n denu miloedd i Bontypridd i ddathlu twf yr iaith Gymraeg. Agorwyd Clwb y Bont yn ganolfan i Gymry’r ardal ym 1985. Mae Prifysgol Morgannwg yn Nhrefforest yn rhoi cyfle newydd i bobol o bob oed i ddysgu’r Gymraeg.