CÂN BRO TAF-ELAI
Cytgan:
Dwy afon yn sibrwd yr alaw, hen alaw ar dannau’r co’,
Dwy afon yn llifo, dwy afon yn uno, dwy afon yn galon y fro.
Bro annwyl y beirdd a’r cantorion, bro’r gwrol enwogion o fri,
Bro’r dewrion wladgarwyr, bro gweithwyr y glo, clodforwn ei hanes hi.
-
Fe gofiwn am Ifor a’i filwyr yn herio’r Normaniaid a’u criw,
Ac yntau’r hen ddoctor, yr hen William Price i’r gweithwyr yn gyfaill triw,
Ie, cofiwn am feddyg gwir fedrus, gwr eofn yn datgan ei farn,
Dros Gymru a’i phobl y safodd drwy’i oes fel Siartydd a Chymro i’r carn. -
I lannau’r ddwy afon daeth alaw, atseiniai drwy’r bur hoff bau,
A gobaith i Gymru oedd byrdwn y gan, `O bydded i’r heniaith barhau’.
Ond colli Cymreictod fu’r hanes, a cholli yr heniaith o’r tir,
Yr anthem yn angof, y geiriau ar goll, a’r bwystfil yn bygwth y mur. -
Ond heddiw mae’r gân yn ein calon, heddiw mae’r fflamau ynghyn,
A’r plant a’r ieuenctid yn chwarae’n Gymraeg ar lannau’r afonydd hyn.
A thra saif hen bont William Edwards, tra pery bro Taf-Elái,
Bydd `Hen Wlad fy Nhadau’n’ atseinio drwy’r fro a’r heniaith o hyd yn parhau.
Sian Rhiannon