Arfbais Taf Elái

 


Arfbais Cynor Bwrdeistref Taf Elái

Mabwysiadwyd yr Arfbais ar Chwefror 10, 1976. Mae’r ddwy don wen yn cynrychioli’r Afon Taf ac Elái, y ddwy afon sy’n rhoi eu henwau i’r Fwrdeistref. Dros y don uchaf saif Hen Bont Pontypridd sy’n croesi’r Taf, o sêl Cyngor Dosbarth Trefol Pontypridd. Mae’r don arall, sy’n rhedeg yn gyfochrog, yn cynrychioli’r Elái, sy’n llifo trwy ardal Llantrisant a Llanilltud Faerdref. Mae’r tair coron nefol euraidd yn sumbol o Lantrisant (Eglwys y Tri Sant) – Sant Illtyd, Gwynno a Dyfodwg.

Mae’r tair seren euraidd yn dynodi St. Illtyd, y seryddwr enwog yr enwir Llanilltud ar ei ôl. Mae’r saith pwynt i’r sêr yn cynrychioli’r saith rhan ychwanegol o ardaloedd Gwledig Caerffili, Caerdydd a’r Bontfaen, sy’n cwblhau ardal y Fwrdeistref.

Mae’r cyfan wedi’i osod ar gefndir o las, sy’n briodol i sumbolaeth y coronau a’r sêr. Mae’r crib yn seiliedig ar Cyngor Gwledig Llantrisant a Llanilltud Faerdref, mae’r ddraig goch yn dal polyn gyda baner fforchog o ddu, gwyn a gwyrdd sy’n dynodi pyllau glo, chwarela calchfaen ac amaethyddiaeth, ac mae’r olwyn cog aur yn cynrychioli’r diwydiannau – yn Ystâd Treforest a’r Ystâd Forwrol. Mae’r gadwyn aur o amgylch ei wddf yn ein hatgoffa o’r diwydiannau trwm mawr fu ym Mhontypridd, ac mae bathodyn crwn yn hongian o’r gadwyn. Mae’r bathodyn yn ‘bezant’ (darn arian o aur o Byzantium yn wreiddiol), ac mae’n cyfeirio at leoliad y Bathdy Brenhinol yn yr ardal. Ar y bathodyn mae Rhosyn Tuduraidd o arfbais Morgannwg, sydd hefyd yn arwyddlun yn arfbais y Bathdy.

Mae’r arwyddair, arwyddair Cyngor Llantrisant a Llanilltud Faerdref, yn deillio o ddyfyniad gan Virgil ac yn ei ffurf Gymraeg mae’n arwyddair teulu Rhys-Williams o Feisgyn.