Hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg
Fel siaradwr Cymraeg yng Nghymru, mae gennych chi hawliau i ddelio â sefydliadau cyhoeddus yn Gymraeg ac i dderbyn gwasanaethau Cymraeg ganddynt.Sail yr hawliau ydy safonau’r Gymraeg, sef rhestr o’r pethau mae’n rhaid i sefydliadau eu gwneud yn Gymraeg, er enghraifft:galwadau ffôn
llythyrau
dogfennau a chyhoeddiadau
gwefannau a chyfryngau cymdeithasol
cyfarfodydd
gwasanaethau derbynfaMae dros 100 o sefydliadau cyhoeddus yn gweithredu safonau’r Gymraeg ar hyn o bryd. Cliciwch yma i weld pwy ydyn nhw.Mae angen i’r sefydliadau hyn hefyd hybu defnydd o’r Gymraeg, rhoi cyfleoedd i’w staff ddefnyddio’r iaith, ystyried y Gymraeg wrth wneud penderfyniadau polisi a bod yn atebol i Gomisiynydd y Gymraeg ac i’r cyhoedd.Continue reading →Ymgynghori ar ddyfodol y Miwni
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn cychwyn ar gamau nesaf yr ymgynghoriad ar gyfer y buddsoddiad arfaethedig o £4.5 miliwn yng Nghanolfan Gelf y Miwni, Pontypridd — a fydd yn cynnwys ymgysylltu (yn rhithwir) â’r cyhoedd a rhanddeiliaid gan ddechrau ym mis Rhagfyr.
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn rhedeg rhwng 7 Rhagfyr, 2020, a 11 Ionawr, 2021. Bydd yr ymgynghoriad sydd yn cael eu cynnal yn rhithwir oherwydd y cyfyngiadau presennol a bydd yr adborth sy’n cael ei roi yn cael ei adolygu a’i ddefnyddio yn y pendraw i lywio’r opsiwn sy’n cael ei ffafrio ar gyfer buddsoddiad yn y Miwni – mewn perthynas â gwaith i’r adeilad a’r rhaglen o weithgareddau a fydd yn cael eu cynnal yno.
Cynhelir yr ymgynghoriad cyhoeddus pum wythnos ar wefan y Cyngor a bydd yn cynnwys cyflwyniad wedi’i recordio ymlaen llaw. Bydd modd i drigolion gymryd rhan ar dudalen ymgynghori bresennol y Miwni a fydd yn cael ei ddiweddaru ar 7 Rhagfyr.
Senedd yr Ifanc am waredu Gwastraff Plastig
Bu Evan Fairclough, Pontypridd, yn anerch Senedd yr Ifanc
Rydym yn galw am weithredu’n gyflym i fynd i’r afael â’r broblem sbwriel a gwastraff plastig yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys:
Gwahardd plastigion untro
Gwella addysg
Cyfleusterau ailgylchu gwell
Darllenwch ein hymgynghoriad orlo.uk/wKXq3
Diwrnod Shwmae Su’mae 15 Hydref Ar Draws y Tonnau
Bydd Diwrnod Shwmae Su’mae eleni’n ddiwrnod tra gwahanol i’r arfer.
Thema’r diwrnod eleni yw Ar draws y Tonnau , lle anogwn bobl i ganfod lleoliadau a ffyrdd newydd o ddefnyddio’r Gymraeg yn ystod y cyfnod hwn a’u rhannu gyda Chymru a’r byd!
Eleni, fel pob blwyddyn arall, hybu’r syniad o ddechrau pob sgwrs gyda shwmae, su’mae neu shwdi yw’r pwrpas!
Continue reading →
Nod y diwrnod yw dangos bod y Gymraeg yn perthyn i bawb – yn siaradwyr rhugl, yn ddysgwyr neu os ydych yn swil am eich Cymraeg. Ac felly os bydd gyda chi gyfle i wneud hyn yn ddiogel ar ddydd Iau Hydref y 15fed yna tagiwch ni i ddangos i ni ac i’r byd sut fyddwch chi’n dathlu’r diwrnod! Os oes digwyddiad wedi ei drefnu ar y dydd yna tagiwch ni a chofiwch annog pawb i ddweud Shwmae neu Su’mae!
Bydd llysgenhadon gyda ni eleni eto’n rhannu eu profiadau ac yn ysbrydoli gyda’r ffocws eleni ar y Gymraeg yn byw ochr yn ochr ag ieithoedd eraill ein cymunedau gan ddangos bod y Gymraeg yn wirioneddol perthyn i bawb o bob cefndir a chenedl.
Mae Shwmae Su’mae am hyrwyddo llwyfan digidol AM eleni er mwyn annog artistiaid, mudiadau, gwyliau a lleoliadau newydd i rannu ac annog creu cynnwys digidol ar gyfer y sianelau ac i rannu eu digwyddiadau ar hyd y flwyddyn. Rydym am i’r cyhoedd ddarganfod a mwynhau’r arlwy sydd ar gael yn barod ar y llwyfan arbennig hwn, yn ogystal â denu cynnwys a chynulleidfa newydd i ddigwyddiadau Cymraeg a Chymreig y llwyfan felly gallwn fwynhau clywed a defnyddio’r iaith ar draws y tonnau ble bynnag yr ydym!
Beth allwn ni wneud yn 2020?
Er y cyfyngiadau ar ein gallu i symud o gwmpas a chwrdd yn y cnawd, does dim yn ein rhwystro rhag defnyddio’r Gymraeg wrth siopa, wrth dderbyn a chynnig gwasanaeth, yn y cnawd neu ar-lein, wrth ddysgu ac wrth ymlacio!
Felly dyma rhai o syniadau ar beth allwch chi wneud eleni! Rydyn ni’n gwybod bod gennych chi’r syniadau gorau hefyd felly cofiwch eu rhannu nhw i gyd yr wythnos nesaf! Efallai y byddwch chi’n ysbrydoli eraill!Arolwg i effaith Coronafeirws
Hoffai Llywodraeth Cymru gael ein cymorth i geisio deall sut mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio ar grwpiau cymunedol.
Rydym am ddarganfod sut mae’r cyfnod clo a’r cyfyngiadau a gyflwynwyd ers hynny wedi effeithio ar sut mae eich grŵp yn gweithredu, i ba raddau ydych chi wedi gallu addasu eich gweithgareddau, a beth yw eich bwriadau ar gyfer y grŵp yn y dyfodol.
Byddem yn ddiolchgar pe gallech dreulio ychydig o amser yn cwblhau’r arolwg ar-lein hwn, a ddylai gymryd tua 10 -15 munud i’w gwblhau.
Bydd eich atebion yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i ddeall mwy am y sefyllfa bresennol o ran y cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymunedol, ac i nodi’r hyn sydd ei angen er mwyn diogelu’r cyfleoedd hyn wrth i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol.
O dan GDPR, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth a gasglwn gennych. Heb eich caniatâd penodol, ni fyddwch chi na’ch grŵp cymunedol yn cael eich adnabod mewn unrhyw gyhoeddiad sydd yn cyflwyno canfyddiadau’r arolwg.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am sut y caiff eich ymatebion eu prosesu, cliciwch yma
I gael rhagor o wybodaeth am yr arolwg hwn neu i gael cymorth i gwblhau’r arolwg, cysylltwch â Llywodraeth Cymru ar 03000 256682 neu anfonwch neges e-bost at: DataIaithGymraeg@llyw.cymru
Dyddiad cau yr arolwg yw dydd Gwener 2 Hydref 2020.
Diolch yn fawr i chi ymlaen llaw am eich cymorth.
Canlyniadau Eisteddfod y Rhondda 2020
Llongyfarchiadau i Aelwyd y Rhondda am greu Eisteddfod Rhithiol arbennig. Daeth dros 80 o gynigion i’r 11 cystadleuaeth a ddyfarnwyd ar youtube 24 – 28 Awst 2020.
Cystadleuaeth Unawd/ Deuawd/Ensemble Sioe Gerdd.
Beirniad: Steffan Rhys Hughes
1af Rachel Lee Stephens.
2il Taylah James.
3ydd Seren Hâf
Llefaru Unigol 15oed neu iau. Beirniad: Gavin Ashcroft
1af Geraint Llywelyn Barnes.
2il Mari Fflur Thomas.
3ydd Hannah Edwards
Her ‘Keepy-Uppies’. Beirniad: Macauley Cook.
1af Llion Gwyn Jones.
2il Gethin Duggan.
3ydd Morus Jones
Cystadleuaeth Y Gadair.
Beirniad Osian Owen. Thema: Protest
1af Prydydd Coch – Martin Huws.
2il Dyryn – Morgan Owen
3ydd Dyn yn y Mwgwd – Eryl Samuel
Dawns Teulu. Beirniad: Jên Angharad
1af Seren Hâf a Bryan Bowen
2il Cerys a Griff.
3ydd Jasmine a Daisy
Lip-Sync i Gân Gymraeg.
Beirniaid: Shelley Rees-Owen a Rhydian Bowen Phillips
1af Ellis Lloyd Jones.
2il Kelly Hanney
3ydd Seren Thomas
Llefaru Unigol (16oed neu’n hŷn)
Beirniad: Tudur Dylan Jones
1af Seren Hâf.
2il Kelly Hanney.
3ydd Rachel Lee Stephens
Llefaru i ddysgwyr.
Beirniad: Julie MacMillan
1af Ann Howells.
2il Tommy Church
3ydd Millie Barrett
Unawd lleisiol (15oed neu’n iau)
Beirniad: Wil Morus Jones
1af Elen Morlais Williams.
2il Efan Arthur Williams.
3ydd Megan Wyn Morris
Unawd / Deuawd Offerynnol
Beirniad: Rhiannon pritchard a Richard Vaughan
1af Lleucu ac Enlli Parri
2il Bethan Ford
=3ydd Lleucu Haf Thomas
=3ydd Soffia Nicholas
Celf. Beirniad: Siôn Tomos Owen
1af Carrie Francis
2il Kelly Hanney
3ydd Peter Spriggs