Ardal Taf Elái

Taf Elái  –  Yr ardal “Rhwng Dwy Afon” ym Morgannwg

 

 

Ffurfiwyd Taf-Elái yn 1974 o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 drwy uno  Dosbarth Trefol Pontypridd gyda Dosbarth Gwledig Llantrisant a Llanilltud Faerdref, Ward Ffynnon Taf o Dosbarth Trefol Caerffili, Plwyfi Llanilltern a Phentyrch o Dosbarth Gweldig Caerdydd a phlwyfi Llanharan, Llanhari, Llanilid a Llanbedr ar Fynydd o Ddosbarth Gweldig y Bontfaen. Roedd Cyngor Bwrdeistref Taf Elái yn un o chwech Cyngor Dosbarth yn Sir Morgannwg Ganol.

Bu’r Cyngor dan reolaeth y Blaid Lafur hyd 1991 ond yna fe ddaeth chwa o awyr iach o dan arweiniad Plaid Cymru.

Diddymwyd y cyngor yn 1996, gyda’r rhan fwyaf o’r ardal yn mynd i sir newydd Rhondda Cynon Taf heblaw am gymuned Pentyrch aeth i Gaerdydd. Ond mae’r ardal dal i barhau.

Daeth adfywiad i’r iaith Gymraeg yn yr ardal wrth i nifer o ysgolion cynradd gael eu sefydlu. Cychwynnwyd ar y dasg yn 1951 wrth i Ysgol Gymraeg Pont Siôn Norton, Pontypridd agor gyda 15 o blant. Fe agorwyd Ysgol Gymraeg Tonyrefail yn 1955 a’r ysgol gyfun gyntaf yn Rhydfelen yn 1972. Erbyn hyn mae 10 ysgol gynradd a dwy ysgol gyfun yn yr ardal. Mae dros chwarter plant ysgolion cynradd yr ardal yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn 1986 cychwynnwyd y papur bro Tafod Elái. Yn 1991 cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Nhaf Elái. Yn sgîl yr Eisteddfod sefydlwyd Menter Taf Elái i ddatblygu’r iaith Gymraeg yn yr ardal.