Pentyrch – Don Llewellyn

PEN-TYRCH      Don Llewellyn

 

O ‘Rhwng Dwy Afon’ Llyfr Eisteddfod yr Urdd Taf-Elái 1991

 

Mae Mynydd y Garth yn edrych i lawr ar fro ddirgel. Rhyw ddydd caiff archeolegwr ei wobr os cymer sylw o’r arwyddion hynafol sy’n eu cynnig eu hunain. Mae pobl wedi byw yn ardal Pen-tyrch ers y cynoesoedd ond rhywsut ychydig o sylw a gafodd yr ardal gan haneswyr. Mae’n bosibl fod myfyrwyr wedi eu digalonni gan yr hen ddywediadau: ‘Rhwng gwĆ·r Pen-tyrch a’i gilydd’ a ‘Bit rhyddoch chwi wĆ·r Pen-tyrch!’

Yn bendant mae Pen-tyrch wedi ymladd yn gryf ac yn ddewr dros y canrifoedd i gadw ei gymeriad arbennig. Yn ĂŽl yr Athro Griffith John Williams, yr ysgolhaig adnabyddus, ‘bu Pen-tyrch erioed yn enwog am ei Gymreigrwydd, am ei sĂȘl dros bopeth Cymreig. . . pan oedd yr ardaloedd cylchynol yn cael eu boddi gan fĂŽr o Seisnigrwydd, parhaodd yr iaith yma yn hoyw ac yn dirf’. Tua phum mlynedd ar hugain yn ĂŽl buasai’n deg dweud mai Cymraeg oedd iaith gyntaf yr hen frodorion i gyd, gydag amryw  o’r canol oed hefyd yn dal eu gafael ar y famiaith. Yr hyn sy’n anhygoel – yn sioc i bawb, wrth ystyried agosrwydd daearyddol y pentref i Gaerdydd – yw’r ffaith fod cofnodion Cyngor Plwyf Pen-tyrch yn ddwyieithog hyd at yr un-naw-saithdegau cynnar (sef amser y newidiadau mawr yng nghyfundrefn llywodraeth leol). Ers hynny, wrth gwrs, maent i gyd yn uniaith Saesneg.

Yn gynnar yn y chwedegau roedd yr Athro ‘GJ.’ wedi’m hannog i fynd allan gyda recordydd sain i siarad Ăą hen frodorion Pen-tyrch rhag i’r dafodiaith ddiflannu am byth; y dafodiaith a fu’n canu yn fy nghlustiau  o’r crud ond a wrthododd rywsut eistedd yn gyffyrddus ar fy nhafod. BĂ»m yn ddigon ffodus i ddod yn rhugl yng Nghymraeg gwerinol bro fy mebyd trwy garedigrwydd fy nghyd-drigolion. Yn awr mae gennyf gasgliad  o ddeuddeg awr  o leisiau fy mro ar dĂąp; lleisiau sy’n dangos tinc yr hen Wenhwyseg (curiad calon yr hen Ben-tyrch) yn llawer gwell nag y gallwn i. Mae’n bwysig cofio hefyd mai hon oedd y dafodiaith a siaredid gan ddegau o filoedd o Gymry hyd at hanner can mlynedd yn ĂŽl – y Wenhwyseg sy’n perthyn i Ddwyrain Morgannwg a Gwent: iaith Merthyr Tudful, y Rhondda, AberdĂąr, Maes-teg, Pontypridd, Bargoed, a Rhymni. Y Wenhwyseg a fu’n famiaith i lawer o gewri’r De: Dr William Price, Dic Penderyn, Islwyn, Dr Joseph Parry, Mabon ac yn y blaen.

Mae i bob tafodiaith ei hynodion diddorol. Ym Mhen-tyrch ‘enllyn’ yw rhywbeth blasus i fwyta gyda bara; nid ‘glöwr’ sy’n gweithio dan ddaear  ond ‘gloiwr’. Ac nid hawdd nac esmwyth yw ystyr y gair ‘rhwydd’ – cyflym yw hwnnw. ‘Dera ’ma’n rhwydd bachan bech’ a ‘Duw, me fa’n gallu retag yn rhwydd!’ Nid Sioned yw Janet  ond ‘Shenad’. Mae’r Gogleddwr yn dweud ‘yndi, mae  o’; mae’r Gorllewinwr yn dweud ‘odi, ma fe’; ym Mhen-tyrch, ‘ODI, ME FA!’

Wrth recordio llais Edmund Llewellyn (Emwnt Siedi, neu ‘Shedi’, oblegid Shadrach oedd enw ei dad-cu) gofynnais iddo a oedd î’n cofio Twmws William. ‘Odw,’ medde fe, ‘wy’n cofio fa’n net. Roedd yn dĆ”ad ’ma acha ceffyl acha Dy Sul  o Bontclown (hynny yw, Pont-y-clun). Roedd yn dicyn bech yn drwm  o glwad. Fe briotws a Shenad, merch Ianto Nant yr Arian, cefnithar Shoni bachan Aron ac yn wĂȘr i William “tred clwm”.’

Weithiau y dyddiau hyn mae’r dafodiaith yn destun gwatwar. Mae rhai yn chwerthin am ei phen wrth glywed y llafariaid yn culhau a’r cytseiniaid yn caledu. Ond, wrth gwrs, mae tebygrwydd (camarweiniol) rhwng ffurfiau’r Wenhwyseg a llefaru sir Drefaldwyn gyda ‘cĂȘl’, ‘bĂȘch’, a ‘glĂȘn’. . . a chyffelybrwydd Ăą Gwynedd gyda ‘pocad’, ‘petha’, ‘ceffyla’, ‘bora’, ‘hanas’ ac yn y blaen.

Mae’r lleisiau ar y tapiau yn gyrru’r gwrandĂ€wr yn syth i’r gorffennol, at gyfnod lle roedd llai  o ffwdan a ffysg. Mae llawer o sĂŽn am gymeriadau lliwgar, yn eu plith feirdd gwlad, cantorion, ymladdwyr, helwyr ac arwyr y cae rygbi. Doedd dim testun gwell na gorchestion tĂźm rygbi Pen-tyrch i droi sgwrs yn sgarmes, ond wrth gwrs, yn yr ardal hon, ‘y dĂȘm’ oedd hi ac nid ‘y tĂźm’. ‘TĂȘm  o geffyla’ yw’r tarddiad. Pan oedd y bechgyn yn chwarae rywle yng Nghaerdydd roeddynt yn cael eu hystyried yn estroniaid oherwydd eu hiaith a’u hymarweddiad drygionus. ‘The Welshies are down from the hills’ oedd y gri. Dim ond chwe milltir i ffwrdd  ond roedd yn fyd gwahanol!

Wrth baratoi hanes Clwb Rygbi Pen-tyrch fe ddes ar draws penillion proffwydol iawn, a gyfansoddwyd gan fy hen dad-cu ac a gyhoeddwyd yn Y Gwladgarwr ym 1852:

Ac yn eu canlyn gwelaf
Rhyw dorf o’r ieuenctid harddaf.
Tri phump  o feibion glewion glwys
A’r stori’n ddwys ystyriaf.

Tybed pa iaith oedd yn cael ei siarad yn yr ardal pan godwyd y gromlech ar ben Mynydd y Garth ym more’r oes dros dair mil o flynyddoedd yn îl? Yn wir roedd y diriogaeth ym meddiant dynion rywfaint cyn hynny. Mewn ogofau lleol mae pennau bwyeill callestr wedi eu darganfod ynghyd ag olion dynol eraill. Honnir bod gwersyll Rhufeinig ym Mhen-tyrch yng nghyfnod Awgwstws Cesar. Mae digon  o dystiolaeth bod gwythiennau cyfoethog  o fwynau amrywiol yn cael eu ceibio yno yr adeg honno.

Ar ddiwedd y bumed ganrif roedd Pen-tyrch fel pob cwr a chornel arall  o Forgannwg yng nghanol deffroad crefyddol. Daeth Catwg, un  o ffigurau mwyaf pwysig yr Eglwys Geltaidd gynnar i’r ardal a sefydlodd ‘gaethbentref’ ger ffynnon yno. Fe’i gelwir yn Ffynnon Catwg hyd heddiw a Nant Gwladus (wedi ei henwi ar îl mam Catwg) yw’r ffrwd sy’n dal i redeg ohoni.

Nid oedd pawb  o olynwyr Catwg Sant yn y pentref yn haeddu cymaint  o ganmol ñ’r dyn da hwnnw. Bechgyn drwg oedd rhai ohonynt i ddweud y lleiaf! Er enghraifft, oni bai am frad Iestyn ap Gwrgant (a oedd yn byw mewn palas yn Hendrescythan) ni fyddai’r Normaniaid wedi goresgyn Morgannwg mor ddidrafferth! Cytundeb rhwng Robert FitzHamon ac yntau oedd y prif reswm am lwyddiant y goresgynwyr – os gellir ei alw’n llwyddiant. Yn ĂŽl traddodiad lleol doedd dim ildio ar y tir uchel.

Ffaith ddiddorol yw bod grisiau hynafol wedi eu darganfod y tu ĂŽl i wal yn ffermdy Pantygorad – dringfa sy’n perthyn i’r ddeuddegfed ganrif. Mae’r nenfwd uwchben y grisiau yn werth ei weld: meini bach wedi eu plethu’n gywrain – campwaith pensaernĂŻol o’r Oesoedd Canol.

Yn ystod teyrnasiad Elisabeth I cafodd trosedd fradwrus ei chyflawni gan berchennog Gwaith Haearn Pen-tyrch. Bu Edmund Mathew yn gwerthu drylliau a phelau cyflegr i’r Sbaenwyr am ugain mlynedd hyd iddo gael ei rwystro gan orchymyn y Cyfrin Gyngor yn y flwyddyn 1602. Ni wn a oedd gan Edmund gydymdeimlad ag achos Sbaen; mae’n debygol mai menter fasnachol lwyr ydoedd.

Un  o’n cyn-drigolion gwir ganmoladwy oedd John Jones (Siîn Matthew). Cafodd ei eni yn Llwynda-ddu, Pen-tyrch yn y flwyddyn 1645. Dangosodd addewid cynnar fel ysgolhaig a chafodd ei dderbyn gan Goleg Iesu, Rhydychen pan oedd yn ddwy ar bymtheg oed. Yn fuan fe ddaeth yn Gymrawd  o’r coleg hwnnw. Wedi graddio’n gyntaf yn y Celfyddydau daeth wedyn yn Ddoethor yn y Gyfraith. Gweithiodd fel meddyg yn Windsor ac ym 1691 penodwyd ef yn Ganghellor Llandaf. Yn sicr, fe gafodd gydnabyddiaeth fel athrylith yn ei oes. Ym 1683 cyhoeddodd draethawd yn Lladin ar glefydau, a thua 1700, yn îl llyfr Plot, The Natural History of Oxfordshire, dyfeisiodd gloc a gñi ei weithio gan awyr yn pasio trwy feginau lledr. Trist yw’r ffaith bod John Jones wedi’i lwyr esgeuluso gan haneswyr gwyddoniaeth yng Nghymru.

Ym Mhen-tyrch fel ym mron pob cymuned arall ym Morgannwg rhoddwyd blaenoriaeth i faterion addysgol. Diddorol yw nodi mai ym Mhen-tyrch yr oedd un o Ysgolion Cylchynol cyntaf GrifïŹth Jones a hynny ym 1738. Ym mhedwardegau’r ganrif ddiwethaf cafodd yr ysgol leol ymweliad gan gomisiynwyr y ‘Llyfrau Gleision’.

Atgofion niwlog sydd gennyf i o’r addysg a gefais yn ysgol bentre Pen-tyrch. Teml i addoli arwyr hanes Lloegr oedd hi yr adeg honno, beth bynnag, lle dysgais am Robin Hood a Hereward The Wake, Drake a Nelson, Wellington a William Pitt. Fawr  o ddim am hanes Cymru. Felly, hoffwn gael fy ystyried yn un  o fethiannau mwyaf llwyddiannus yr ysgol honno! Ond mae’n rhaid i mi gyfaddef fod gennyf atgofion melys hefyd.

Ni all dim fod yn fwy torcalonnus na gweld bro wedi colli ei thraddodiadau a phob cof am y pethau a fu. Mae’n dda gennyf weld y ffordd y mae’r ysgolion lleol heddiw yn ennyn diddordeb y plant ym mywyd ac yn hanes eu hardal. Trueni fod cymaint a oedd yn ddiddorol wedi diflannu yn ystod y gorffennol agos. Mae’r atgoïŹon sydd gennyf am y pethau cwbl-Gymreig a oedd yn rhoi blas fy nghenedl ar fy nghof yn amhrisiadwy. Er fy mod yn perthyn i’r genhedlaeth honno a welodd ddirywiad yr iaith, pleser mawr ydyw cofio’r dylanwadau cynnar. Atgof sy’n dod yn ĂŽl yn gryf yw fy ngolwg cyntaf o’r ddau frawd Twm a Shoni a’u ‘cyfeillion diniwad’ yn cyrraedd gyda’r Fari Lwyd; llais tenor Twm yn canu’r hen dĂŽn – mae’n dal i rewi fy esgyrn hyd heddiw:

Mae gen i hen Fari – y lana yn Gymru. . .
y lana yn Gymru nos heno. . .

A llais y baswr Dai Jones yn ateb:

Does gen ti ddim Mari . . .hen fwlsyn
sy gennyt ti. . . a stwffa’r hen recsyn. . .

Rwy’n falch o ddweud mai’r pen ceffyl a ddefnyddiwyd gan Twm a Shoni sydd yn awr yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.

Y King’s Arms oedd pencadlys lleol cymdeithas ‘Yr Odyddion’. Ar nenfwd yr ystafell fawr roedd symbol mewn cylch o bren: llygad mawr a syllodd i lawr ar genedlaethau o yfwyr am dros gant a hanner o flynyddoedd. O amgylch y llygad, y geiriau:

Llygad i weled,
Llaw i gyfrannu,
Calon i deimlo.

Yr oedd Cymraeg yn ei phurdeb o’n cwmpas ym mhob man; enwau bendigedig ar y ffermydd, y nentydd a’r caeau, enwau fu’n canu ar hyd y canrifoedd ac sydd heddiw mor swynol ag erioed: Nant Cwmllwydrew, Pebyll y Brain, Dwyerw Llwynyreos, Coed Rhiwceiliog, Craig Ffynnon Gog ac ati.

CoïŹaf Twmws Crydd yn esbonio tarddiad enw fferm Llwyn-y-brain. Stori oedd ganddo am fachgen bach oedd yn gwarchod y llafur (yr Ć·d) rhag yr adar. Roedd y crwt yn defnyddio dryll wedi ei lenwi Ăą hoelion yn lle ‘shots’. Pan welodd y brain yn y coed, saethodd atynt. Fel roedd yr hoelion yn mynd trwy goesau’r brain roedd yr adar yn cael eu glynu’n sownd ar y canghennau. Wrth i’r adar hedfan i ffwrdd tynnwyd y coed o’u gwreiddiau. Glaniodd y llu gyda’u llwythi enfawr mewn cae yn Swydd Henffordd lle roedd da (gwartheg) brown yn pori. Cafodd y da gymaint o sioc aeth eu hwynebau’n wyn. Felly fe grewyd brid newydd!

Mae bod yn olaf o linell hir o Wenhwyswyr – ar ddiwedd cyfnod fel petai – yn gyfrifoldeb arswydus. Ond rwyf yn hyderus fod y dylifiant o waed newydd sydd wedi cyrraedd y gymuned yn creu gobaith newydd. Yr wyf yn falch o fod yn ddolen gyswllt rhwng y gorffennol a’r dyfodol. Heb amheuaeth mae adlais yr hen amser yn aros; ar bob awel mae hen ysbrydion yn sibrwd ac ar bob pelydr haul cewch gip ar anturiaethau’r cyn-bentrefwyr. Credaf eiriau Mrs Morfudd Thomas a ddywedodd wrthyf: ‘Er diffodd y golau, erys gwres y fflam’.