Arbrawf disgyblion o Gymru’n cael ei yrru i’r gofod

O newyddion BBC Cymru

Bydd arbrawf gafodd ei lunio gan ddisgyblion ysgol yng Nghymru yn cael ei lansio i’r gofod ddydd Gwener. Y gofodwr Tim Peake fydd yn cynnal yr arbrawf.

Bydd chwain dŵr yn cael eu lansio i’r Orsaf Ofod Rhyngwladol o Cape Canaveral yn Florida ychydig cyn 22:00.

Wedi iddyn nhw gyrraedd, bydd Mr Peake yn astudio os gall y chwain fyw yn y gofod, a sut y maen nhw’n cenhedlu yno.

Chwe disgybl o Rhondda Cynon Taf wnaeth lunio’r syniad i ennill cystadleuaeth Mission Discovery 2013.

20160408gofod

Fe wnaeth y gofodwr Mike Foale weithio ar y cynllun gyda Liam Collins-Jones, Rhiannydd Thomas, Sion Phillips a Trystan Gruffydd o Ysgol Gyfun Garth Olwg, Georgia Bailey o Ysgol Tonyrefail ac Ieuan Williams o Ysgol Uwchradd Aberdâr.

Dywedodd gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Addysg yr Ysgol Ofod Rhyngwladol, Chris Barber: “Mae Mission Discovery yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc cyffredin wneud rhywbeth arbennig.

“Rydyn ni’n falch iawn o greu cyfleodd mor anhygoel i ddisgyblion ysgol yn ne Cymru.