DISNEY YN FÔR O GOCH, GWYN A GWYRDD

Bydd pump o enillwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir y Fflint yn perfformio mewn cyngerdd arbennig yn Disneyland Paris yn ystod penwythnos Cymreig i ddathlu Gŵyl Ddewi rhwng 3 – 5 Mawrth.

Y pump fydd yn teithio i Baris eleni fydd Beca Hogg o’r Wyddgrug (7 oed), Rhys Lloyd Thomas o Lanrwst (8 oed), Alaw Evans o Bontyberem (16 oed), Siwan Mason o Lanfairpwll (16 oed) a Daniel Jones o Gaerdydd (16 oed). Yn ymuno gyda hwy allan yno bydd Côr Aelwyd Waun Ddyfal, Caerdydd

Eleni am y tro cyntaf, bydd Disney yn cynnig gweithdy sioeau cerdd arbennig gydag arbenigwyr yn y maes fore Gwener, 3ydd o Fawrth.  Mae’r gweithdai yn rhan o gynllun Performing Arts OnStage Disney sy’n rhoi cyfle i blant a phobl ifanc berfformio, cystadlu a mynychu gweithdai o’r safon uchaf.

Dyma fydd yr 8fed blwyddyn i gystadleuwyr yr Urdd gael teithio i Baris i berfformio yn y penwythnos Cymreig.  Dywedodd Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Sion, “Rydym yn hynod o falch o’r bartneriaeth yr ydym wedi ei sefydlu gyda Disneyland Paris.  Mae hwn yn gyfle gwych i’r criw ifanc gyflwyno ein diwylliant unigryw Gymreig i gynulleidfa o bob cwr o’r byd, ac i gael gweithdy sioeau cerdd gydag arbenigwyr o’r Maes – profiad na wnânt fyth ei anghofio.”

Ychwanegodd Peter Welch Is-Lywydd Masnachol Disney Destinations International, “Rydym eleni yn falch o gynnig profiadau newydd i enillwyr yr Urdd yn ystod ein dathliadau Gŵyl Ddewi trwy ein rhaglen Perfoming Arts OnStage Disney.

“Fel Cymro fy hunan, mae’r Ŵyl Gymreig yn ddigwyddiad yr ydym yn falch iawn ohono gan ei fod yn arddangos diwylliant Cymreig i’n gwesteion rhyngwladol.  Rydyn hefyd yn ffodus iawn o’n perthynas gyda’r Urdd sy’n gallu cynnig perfformwyr o’r safon uchaf i ni. A gan fod y tân gwyllt uwchben Palas y Dywysoges Drwm ei Chwsg hefyd ar thema gŵyl Ddewi, mae wir yn benwythnos gwych i ymweld â Disneyland Paris.”