Ennill C么r y Flwyddyn

Eilir Owen GriffithsLlongyfarchiadau i G么r CF1 a’u harweinydd, Eilir Owen Griffiths, Ffynnon Taf, ar ennill cystadleuaeth Cor y Flwyddyn y BBC. Dydd Sul roedd y c么r yn un o chwech oedd yn cystadlu am y wobr arbennig yma ym Manceinion gyda beirniaid rhyngwladol yn cloriannu’r perfformiadau.

Roedd dau g么r o Gymru sef C么r Iau Glanaethwy a Ch么r CF1 ymhlith y chwe c么r o bob rhan o Brydain. Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Neuadd Bridgewater, Manceinion.

Darlledir y gystadleuaeth nos Wener, 12 Rhagfyr, am 7.30yh ar BBC4.

C么r CF1