Hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg

Fel siaradwr Cymraeg yng Nghymru, mae gennych chi hawliau i ddelio â sefydliadau cyhoeddus yn Gymraeg ac i dderbyn gwasanaethau Cymraeg ganddynt.
Sail yr hawliau ydy safonau’r Gymraeg, sef rhestr o’r pethau mae’n rhaid i sefydliadau eu gwneud yn Gymraeg, er enghraifft:

galwadau ffôn
llythyrau
dogfennau a chyhoeddiadau
gwefannau a chyfryngau cymdeithasol
cyfarfodydd
gwasanaethau derbynfa

 Mae dros 100 o sefydliadau cyhoeddus yn gweithredu safonau’r Gymraeg ar hyn o bryd. Cliciwch yma i weld pwy ydyn nhw.
Mae angen i’r sefydliadau hyn hefyd hybu defnydd o’r Gymraeg, rhoi cyfleoedd i’w staff ddefnyddio’r iaith, ystyried y Gymraeg wrth wneud penderfyniadau polisi a bod yn atebol i Gomisiynydd y Gymraeg ac i’r cyhoedd.