Nofel y Mis
DIRGELWCH I DDITECTIFS ABERYSTWYTH
Yn nofel newydd Geraint Evans, y nofelydd ffuglen hynod lwyddiannus o Geredigion, gwelwn yr awdur beiddgar yn ail-ymuno a thîm y CID yn Aberystwyth sydd unwaith eto’n delio â llofruddiaeth yn y dref.
Mae Diawl y Wasg, trydedd nofel yr awdur o Dalybont, yn dilyn y Ditectif Gareth Prior a’i dîm o Heddlu Dyfed-Powys wrth iddynt geisio datrys y dirgelwch o lofruddiaeth perchennog un o brif weisg Cymru.
Y llenor Meurig Selwyn yw perchennog Gwasg Gwenddwr, sydd, yn ôl pob tebyg mewn trafferthion ariannol, ac mae Meurig yn awyddus i werthu’r cwmni.
At hynny, mae gan Meurig nifer o elynion, ac yn fuan ar ôl iddo draddodi beirniadaeth cystadleuaeth y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol caiff ei lofruddio yn ei gartref.
Yn y nofel mae llofruddiaeth Meurig yn profi’n dipyn o her i dîm CID Aberystwyth, Gareth Prior, Clive Akers (sydd eisoes yn gyfarwydd i ddarllenwyr drwy nofelau cyntaf Geraint Evans, Y Llwybr a Llafnau) a Teri Owen.
“Mae Meurig yn fflangellwr llenyddol ac nid yw’n poeni taten am hyn. Yn ben feirniad ar bawb a phopeth mae ganddo fyddin o elynion a rhaid i Inspector Prior a’i dîm ddyfalbarhau a chwynnu’r rhestr hir o syspects i ganfod y llofrudd,” meddai’r awdur, Geraint Evans.
Wrth i’r ymchwiliad i’r llofruddiaeth gael ei gynnal, mae nifer o gyfrinachau yn dod i’r wyneb, cyfrinachau ymysg cyd-weithwyr yn ogystal â rhai teuluol. Fe ddaw i’r amlwg bod gan nifer o bobl gymhellion i lofruddio Meurig, gan gynnwys ei chwaer Susan a gweddill staff y wasg – sydd yn eu tro yn dod o dan y chwyddwydr.
Mae ardal Aberystwyth yn cael sylw blaenllaw yn nofelau’r awdur oedd yn arfer bod yn warden ar y neuadd breswyl i fyfyrwyr Cymraeg, Pantycelyn, yn Aberystwyth rhwng 1997 a 2003.
“Darllenais am Rydychen Morse a Chaeredin Rebus a meddwl pam na gewn ni dditectif sy’n gweithio’n Aber? Mae’r dref a’r ardal yn gyfoethog o ran cymeriadau a golygfeydd ac rwy’n mwynhau arwain y darllenydd i wahanol fannau. Ond rhaid bod yn ofalus – gofynnodd rhywun i mi am gymeriad a greais i, a dweud bod dynes debyg yn byw drws nesa iddi!!” meddai.
Bellach wedi ymddeol o’i swydd fel darlithydd yn yr adran Astudiaethau Gwybodaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae gwaith Geraint yn gysylltiedig â’r genre dditectif. Dywed Geraint: “Rwyf wedi darllen cannoedd o nofelau ditectif ac yn parhau i wneud. Drychwch ar yr ystadegau benthyciadau o lyfrgelloedd cyhoeddus a ffigyrau gwerthiant a dyma’r genre sydd ar y brig – ond prin iawn yw’r awduron Cymraeg.”
Mae’r nofel hefyd yn ein harwain o fyd llenyddol Aberystwyth i fyd y Mafia yn strydoedd cefn Napoli, ac i fyd gamblo ar-lein. Dywed Geraint Evans: “Mae’n rhoi cyfle i’r cymeriadau ‘ddianc’ bob hyn a hyn – gan arwain wedyn at bosibliadau i ehangu’r stori. Mae Diawl y Wasg yn bwrpasol am dywys darllenwyr drwy siwrne ddyrys a thywyll ond gan arwain at y golau yn y diwedd!”
* Bydd Diawl y Wasg yn cael ei lansio nos Wener, 7 Mehefin am 7pm yn Llyfrgell y Dref, Aberystwyth mewn noson yng nghwmni Jeremy Turner.
Diawl y Wasg Geraint Evans
Y Lolfa £8.95
ISBN: 9781847716712