10 mlynedd ers agor drysau Gwersyll Caerdydd

Dydd Llun, 24 Tachwedd bydd dros 3,000 o blant ardal Caerdydd a’r cymoedd yn heidio i Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan y Mileniwm i ddathlu pen-blwydd Gwersyll yr Urdd yng Nghaerdydd yn 10 mlwydd oed.  Mae hyn yn cydredeg a dathliadau y Ganolfan ei hun yn 10 oed.

 

Roedd y weledigaeth o roi cartref i’r Urdd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn allweddol i gefnogaeth Comisiwn y Mileniwm i fuddsoddi £31 miliwn o arian Y Loteri tuag at ddatblygiad canolfan genedlaethol i’r celfyddydau yng Nghymru. 

 

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr y Ganolfan, Mathew Milsom, “Heb yr Urdd, dan arweiniad eu Llywydd Anrhydeddus Prys Edwards yn ôl yn 2002, dwi’n amau a fyddai’r prosiect wedi mynd rhagddo. Mae ein dyled i’r Urdd yn fawr, ac i Prys Edwards yn benodol. Roedd ef yn un o’r gweledyddion gwreiddiol wnaeth gyfrannu at enedigaeth y Ganolfan fel rydyn ni yn ei nabod hi heddiw, sy’n ffwrnais awen ac yn gartref i wyth cwmni creadigol, gan gynnwys yr Urdd. O’r cychwyn, mae’r Urdd wedi bod yn bartner ar sawl prosiect ar y cyd gyda’r Ganolfan, a bwriedir cyhoeddi prosiect artistig cenedlaethol ar gyfer 2015’.

 

Bydd cinio arbennig i gyd-fynd gyda’r Jambori i’r 3,000 o blant ar y dydd Llun, i ddathlu cyfraniad yr Urdd i lwyddiant y Ganolfan yng nghwmni Cadeirydd y Ganolfan, Sir Emyr Jones Parry a Prys Edwards.

 

Cafodd Gwersyll yr Urdd Caerdydd ei agor yn swyddogol gan Bryn Terfel ar y 27 o Dachwedd, 2004, diwrnod cyn agoriad swyddogol y Ganolfan gan y Frenhines.  Ers hynny mae bron i 100,000 o blant a phobl ifanc wedi aros yno.  Yn ogystal â chynnig llety i aelodau’r Urdd o bob ran o Gymru, mae’r Gwersyll hefyd yn cynnig gwely a brecwast i’r cyhoedd ac yn cael ei ddefnyddio gan sefydliadau allanol ar gyfer cynadleddau a chyrsiau preswyl.  Yn y flwyddyn ddiwethaf, maent wedi gwario yn sylweddol ar wella adnoddau, megis carpedi a dodrefn newydd a’r offer technegol diweddaraf.

 

Tim Edwards yw Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd yng Nghaerdydd.  Dywedodd, “Mae hon yn garreg filltir bwysig iawn i ni – rydw i wedi bod yn aelod o’r staff yma ers ei agor 10 mlynedd yn ôl ac yn Gyfarwyddwr ers dwy flynedd.  Bydd yn wych gweld miloedd o blant yr ardal yn dod yma i ddathlu ein pen-blwydd.  Rydym ni hefyd, mewn cydweithrediad gyda Tŷ Cerdd, wedi comisiynu Caryl Parry Jones i ysgrifennu cân newydd sbon i ddathlu’r pen-blwydd, sydd yn cael ei pherfformio gan ei merch Miriam Issac, a bydd hon yn cael ei chwarae am y tro cyntaf yn y Jambori.”

 

Bryn Terfel yn agor y Gwersyll 2004

Yn ystod mis Tachwedd, mae’r Urdd wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau i nodi’r pen-blwydd.  Bydd criw o Ysgol Sant Curig yn mynd i addurno’r Gwersyll ar ddiwrnod y pen-blwydd, sef y 27 o Dachwedd a chlwb Castachan, sef clwb perfformio’r Gwersyll, yn cyflwyno rhaglen o ganeuon o sioeau cerdd yn Stiwdio Weston, Canolfan y Mileniwm dan arweiniad Elan Issac ac Elain Llwyd nos Sul, 30 Tachwedd.

 

Ychwanegodd Tim Edwards, “Mae gennym gyfres o ddigwyddiadau wedi eu trefnu yn ystod mis Tachwedd, ond rydym hefyd yn gweithio yn agos gyda Canolfan Mileniwm Cymru ar syniadau ar gyfer mwy o ddigwyddiadau dros y flwyddyn nesaf.   Mae’n anodd credu fod 10 mlynedd wedi hedfan ers i ni agor ein drysau yma.

 

“Wrth edrych ymlaen i’r 10 mlynedd nesaf, fe hoffwn i barhau i gydweithio’n agos gyda Chanolfan Mileniwm Cymru fel bod pob plentyn sydd yn aros yma yn cael profiad celfyddydol – boed hynny yn weld sioe, cael taith tu ôl i’r llenni yn y Ganolfan, perfformio ar Lwyfan y Lanfa neu gael gweithdy celfyddydol. Rydym mewn sefyllfa hollol unigryw fel yr unig rai sydd yn cynnig llety o dan do trawiadol Canolfan y Mileniwm a hoffwn ein bod yn gwneud y mwyaf o hynny.”