Côr Godre’r Garth yn croesawu’r deugain . . . ac arweinydd newydd

Bydd Côr Godre’r Garth, côr cymysg o ardal Pontypridd, yn dathlu 40 Mlwyddiant gyda chyngerdd fawreddog ar nos Sadwrn 6ed Rhagfyr, a hynny dan faton eu harweinydd newydd, Steffan Huw Watkins ynghyd â chyn-arweinwyr y Côr.

Steffan Huw Watkins

 Cynhelir y gyngerdd yn Eglwys St Catherine’s yn y dref am 7.30pm a bydd y Côr yn perfformio gwaith Vivaldi, Gloria ynghyd â datganiad o waith newydd, Glan Rhondda a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer y gyngerdd gan Eilir Owen-Griffiths a fu’n arwain y Côr am dros ddegawd tan iddo drosglwyddo’r awenau i Steffan eleni. Bydd Gareth Williams, aelod presennol ac is-arweinydd y Côr hefyd yn  ymuno gydag Wil Morus Jones, sylfaenydd ac arweinydd cyntaf Côr Godre’r Garth yn 1974 i arwain rhaglen o gerddoriaeth gyfarwydd o Gymru.

 Yn ymuno â’r Côr ar y noson bydd yr unawdwyr Menna Cazel Davies, Olivia Gomez, Hannah Owen-Griffiths a Cherddorfa Sesiwn Cymru.

 Er mai ond ers cwta fisoedd y mae Steffan Huw Watkins yn arwain y Côr mae’n edrych ymlaen yn fawr at y noson.

 “Mae wedi bod yn braf cael ymuno yn ystod blwyddyn fawr i’r Côr a chael y cyfle i ddathlu pen-blwydd arbennig gyda nhw. Dwi wedi dysgu cymaint dros y misoedd diwethaf, ac yn mwynhau mynd i ymarferion a gweithio’n galed ar y darnau wrth baratoi at y cyngerdd,” meddai Steffan, sy’n wreiddiol o’r Fforest, Pontarddulais ond erbyn hyn yn byw yng Nghaerdydd.

“Mi fydd y gyngerdd yn un arbennig, nid yn unig fel fy nghyngerdd cyntaf i gyda’r Côr, ond gan y byddaf yn rhannu’r arweinyddiaeth gydag eraill sydd wedi chwarae rhannau mor bwysig yn ei hanes. Bydd Wil Morus Jones, sylfaenydd ac arweinydd cyntaf y Côr yn arwain gwaith a gafodd ei gomisiynu i’r côr o dan ei arweinyddiaeth ef; bydd Gareth Williams, sydd wedi arwain y Côr am gyfnodau dros y blynyddoedd diwethaf yn arwain cyfres o ddarnau gwerin; a bydd Eilir Owen-Griffiths yn arwain gwaith gwreiddiol y mae ef wedi ei gyfansoddi i’r Côr, sydd â chysylltiad â Phontypridd a’r ardal.

“Pa ffordd well o ddathlu deugain mlynedd o hanes corawl na chael cyfraniad wrth yr arweinyddion arbennig hyn? Os galla i gyfrannu hanner cymaint at lwyddiant y Côr ag y mae’r tri gŵr yma wedi ei wneud, mi fydda i’n hapus dros ben.”

Ychwanegodd Lyn West, Cadeirydd Côr Godre’r Garth: “Mae’r Côr yn edrych ymlaen yn fawr iawn at ddathlu’r garreg filltir bwysig yma yn ei hanes drwy ganu yn y gyngerdd a hynny dan arweiniad Steffan sydd nid yn unig wedi gweithio yn hynod o galed i’n paratoi ni ar ei chyfer, ond wedi llwyddo i gyfuno hynny gyda lot o sbort hefyd. Bydd yn fraint hefyd cael cyfle unwaith eto i ganu gyda’n cyn-arweinwyr ac mae’n argoeli’n noson arbennig i bawb, felly dewch yn llu.”

Cynhelir Cyngerdd Dathlu 40 Mlwyddiant Côr Godre’r Garth, Sadwrn 6 Rhagfyr, Eglwys St Catherine, Pontypridd, 7.30pm.  Pris y tocynnau yw £12 (£10 i blant a phensiynwyr) – cysylltwch â 07837 007 076 neu corgodrergarth@gmail.com< mailto:corgodrergarth@gmail.com>

Am fwy o wybodaeth am Gôr Godre’r Garth ewch i www.corgodrergarth.com.