Arolwg i effaith Coronafeirws.

Hoffai Llywodraeth Cymru gael ein cymorth i geisio deall sut mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio ar grwpiau cymunedol. 

Rydym am ddarganfod sut mae’r cyfnod clo a’r cyfyngiadau a gyflwynwyd ers hynny wedi effeithio ar sut mae eich grŵp yn gweithredu, i ba raddau ydych chi wedi gallu addasu eich gweithgareddau, a beth yw eich bwriadau ar gyfer y grŵp yn y dyfodol.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech dreulio ychydig o amser yn cwblhau’r arolwg ar-lein hwn, a ddylai gymryd tua 10 -15 munud i’w gwblhau.   

Dolen i’r arolwg  

Bydd eich atebion yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i ddeall mwy am y sefyllfa bresennol o ran y cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymunedol, ac i nodi’r hyn sydd ei angen er mwyn diogelu’r cyfleoedd hyn wrth i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol.

O dan GDPR, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth a gasglwn gennych. Heb eich caniatâd penodol, ni fyddwch chi na’ch grŵp cymunedol yn cael eich adnabod mewn unrhyw gyhoeddiad sydd yn cyflwyno canfyddiadau’r arolwg.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am sut y caiff eich ymatebion eu prosesu, cliciwch yma

I gael rhagor o wybodaeth am yr arolwg hwn neu i gael cymorth i gwblhau’r arolwg, cysylltwch â Llywodraeth Cymru ar 03000 256682 neu anfonwch neges e-bost at: DataIaithGymraeg@llyw.cymru

Dyddiad cau yr arolwg yw dydd Gwener 2 Hydref 2020.

Diolch yn fawr i chi ymlaen llaw am eich cymorth.