Gwybodaeth

  • Llwyddiant Gŵyl Morfydd Llwyn Owen

    Côr Ysgolion Cymraeg Pontypridd yng Nghapel y Bont

     

    Disgyblion yr ysgolion lleol yn y parêd drwy’r dref yn gwisgo eu cysgodion lampiau ar eu pennau. Steil Morfydd!

    Continue reading →


    29 Hydref 2025
  • Llwyddiant yn Eisteddfod Wrecsam

    Llongyfarchiadau i bawb gymerodd ran yn yr Eisteddfod yn Wrecsam.

    Medal y Dramodydd: Greta Siôn, Gwaelod y Garth.

    Côr Dysgwyr:

    1af  Côr Dysgwyr y Cymoedd.

    Tlws Coffa Lois Blake Dawnsio Gwerin:

    1af Dawnswyr Nantgarw

    Côr Cymysg Buddugol a Chôr yr Ŵyl – Côr CF1

    Gwobr Goffa Osborne Roberts, Y Rhuban Glas i Gantorion 19  – 25 oed: Caleb Nicholas, Meddyg yn Ysbyty Morgannwg, Llantrisant.

    Dawns Stepio unigol i fechgyn 3ydd Morus Caradog Jones

    Gwobr Richard Burton: 3ydd Iestyn Gwyn Jones.

    Côr Cerdd Dant:

    2il Côr Tôn-Teg

    Cystadleuaeth Golff yr Eisteddfod: 1af Huw Llywelyn Davies.

    Medal y Dramodydd: Greta Siôn, Gwaelod y Garth.

     

    Continue reading →


    20 Awst 2025
  • Gwefan Bro360 i RhCT

    Mae prosiect Cwmni Golwg, Ymbweru Bro, am glywed wrth gymunedau yn ardal Rhondda Cynon Taf – hoffech chi ymuno â’r rhwydwaith a chael gwefan ‘straeon lleol gan bobol leol’?

    Cymerwch olwg ar yr 15 gwefan fro sydd i’w cael ar hyn o bryd trwy fynd i http://www.bro360.cymru/ .

    Os oes gennych chi gwestiynau, gallwch gysylltu â Rhian Hopkins Swyddog Prosiect Ymbweru Bro ardal Rhondda Cynon Taf

    [rhianhopkins@golwg.cymru]

    Cynhaliwyd cyfafod i drafod y posibilrwydd o greu gwefan BRO360 ar gyfer Rhondda Cynon Taf ar 16 Orffennaf yng Nghanolfan Calon Taf .

    Bydd y wefan yn debyg i nifer o rai eraill a welir yma > Bro360

     

    Continue reading →


    3 Gorffennaf 2025
  • Rhaglen Digwyddiadau’r Eisteddfod

    Mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi rhaglen digwyddiadau Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ara lein.

    Ac mae’r rhaglen eleni’n cynnwys llu o ddigwyddiadau a gweithgareddau gyda’r nos, gyda rhywbeth i blesio pawb.  Meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, “Rydyn ni’n ymwybodol iawn o’r angen i gynnig amrywiaeth eang o weithgareddau ar hyd a lled y Maes gyda’r nos, a gallaf eich sicrhau bod rhywbeth i bawb yn ein rhaglen eleni.

    “Lansiwyd Y Sgwrs y llynedd, a oedd yn gyfle i ymwelwyr ddweud eu dweud am yr Eisteddfod, ac un peth ddaeth i’r amlwg oedd bod ein cynulleidfa am i ni ychwanegu at raglen yr hwyr, a hynny mewn lleoliadau amrywiol o amgylch y Maes.

    “Rydyn ni’n ymwybodol hefyd fod talu am docyn cyngerdd ar ben tocyn i’r Maes yn gallu bod yn anodd, ac felly mae llawer iawn mwy o ddewis o weithgareddau rhad ac am ddim gyda’r nos elen, ac yn cwmpasu pob genre diwylliannol a chelfyddydol.

    “Bydd Côr yr Eisteddfod yn perfformio fersiwn newydd sbon o hen glasur, Nia Ben Aur yn y Pafiliwn nos Sadwrn a nos Lun, gyda thocynnau ar gyfer y nosweithiau hyn ar werth o 12:00, dydd Gwener 14 Mehefin. Rydyn ni hefyd wedi codi statws y nosweithiau o gystadlu ymhellach eleni, yn dilyn arbrawf hynod lwyddiannus y llynedd gyda’r Noson Ddawns.  Rydyn ni’n edrych ymlaen am nosweithiau o gystadlu brwd ar draws pob disgyblaeth.

    “Gobeithio y bydd pawb yn cael blas o’r arlwy – ac mae popeth ar gael i’w ddarllen ar ein gwefan ni erbyn hyn, a’r rhaglen swyddogol gyda llond lle o erthyglau nodwedd difyr, yn cael ei gyhoeddi ac ar gael yn y siopau ac ar-lein ddechrau Gorffennaf.”

    Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf o 3-10 Awst. Mae’r mwyafrif o weithgareddau ar Barc Ynysangharad yng nghanol y dref, gyda rhagbrofion a rhai performiadau nos yng Nghanolfan y Muni, a pherfformiadau theatrig yng Nghanolfan YMA.  Ceir mynedaid am ddim i’r Muni ac Yma gyda band garddwrn y Maes. Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.

    Continue reading →


    7 Gorffennaf 2024
  • Rhestr Testunau Eisteddfod 2024

    Mae’r Rhestr Testunau ar gael nawr.

    Continue reading →


    28 Gorffennaf 2023
  • Hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg

    Fel siaradwr Cymraeg yng Nghymru, mae gennych chi hawliau i ddelio â sefydliadau cyhoeddus yn Gymraeg ac i dderbyn gwasanaethau Cymraeg ganddynt.
    Sail yr hawliau ydy safonau’r Gymraeg, sef rhestr o’r pethau mae’n rhaid i sefydliadau eu gwneud yn Gymraeg, er enghraifft:

    galwadau ffôn
    llythyrau
    dogfennau a chyhoeddiadau
    gwefannau a chyfryngau cymdeithasol
    cyfarfodydd
    gwasanaethau derbynfa

     Mae dros 100 o sefydliadau cyhoeddus yn gweithredu safonau’r Gymraeg ar hyn o bryd. Cliciwch yma i weld pwy ydyn nhw.
    Mae angen i’r sefydliadau hyn hefyd hybu defnydd o’r Gymraeg, rhoi cyfleoedd i’w staff ddefnyddio’r iaith, ystyried y Gymraeg wrth wneud penderfyniadau polisi a bod yn atebol i Gomisiynydd y Gymraeg ac i’r cyhoedd.
    Continue reading →


    7 Rhagfyr 2020