Cadw’n Cŵl yn yr Ardd
Yn y Western Mail mae Siôn Dafydd yn sôn am ei dŷ ym Mhentre’r Eglwys. Bu’n ail-osod yr ardd i’w wneud yn ystafell arall gyda goleuadau yn y nos sy’n ddelfrydol i ymlacio a bod yn greadigol. Mae ganddo ef a’i bartner un merch, Lili Mae, sy’n hoff iawn o’r ardd ac yn dilyn ei thad fel arlunydd. Mae Siôn yn gyd-berchennog ar gwmni dylunio Kutchibok.