Cynnydd yn yr arfer o ddarllen Llyfrau Cymraeg

Mewn arolwg diweddar a gynhaliwyd gan gwmni Beaufort Research ar ran Cyngor Llyfrau Cymru, gwelwyd fod mwy o bobl yn darllen llyfrau Cymraeg heddiw o’u cymharu â chanlyniad arolwg tebyg a gynhaliwyd yn 2003. Allan o’r 1,008 o siaradwyr Cymraeg a holwyd, mae 43% yn darllen o leiaf un llyfr y flwyddyn, o’u cymharu â 31% yn 2003 a 26% yn 2006. Bu cynnydd hefyd yn y nifer sy’n darllen o leiaf un llyfr Cymraeg bob mis – o 13% yn 2003 i 19% yn 2012.

Fel y byddid yn disgwyl, mae’r ffigur ar gyfer y rhai sy’n rhugl eu Cymraeg yn uwch eto, gyda 61% yn darllen o leiaf un llyfr Cymraeg y flwyddyn. Yn yr ardaloedd Cymraeg mae’r rhai sy’n darllen y nifer mwyaf o lyfrau’n byw.

Mae’n arwyddocaol mai ymatebwyr rhwng 25 a 39 oed sy’n darllen y nifer mwyaf o lyfrau Cymraeg gan adlewyrchu, o bosib, y ffaith bod rhieni’n darllen llyfrau gyda’u plant. Fe welir hefyd fod dros hanner y rhai sy’n prynu llyfrau Cymraeg yn prynu llyfrau plant.

Comisiynwyd yr arolwg hwn i arferion darllen a phrynu llyfrau Cymraeg gan Gyngor Llyfrau Cymru, ac yn 2012 bu cwmni Beaufort Research yn holi 1,000 o siaradwyr Cymraeg dros y ffôn. Gofynnwyd i’r cwmni hefyd gymharu canlyniadau’r arolwg hwn â chanlyniadau’r arolygon a gynhaliwyd rhwng 2003 a 2006.

“Mae’r canlyniadau’n hynod o galonogol,” meddai Elwyn Jones, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau, “ac yn arwydd o lwyddiant y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru wrth iddo ymateb i gais darllenwyr o bob oed am ystod eang o lyfrau apelgar a phoblogaidd. Maen nhw hefyd yn arwydd clir fod y buddsoddiad a wnaed dros y blynyddoedd diweddar gan Lywodraeth Cymru bellach yn dwyn ffrwyth.”

Dywedodd John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, “Mae’n galonogol iawn fod yr ymchwil hwn yn dangos fod mwy o bobl yn darllen llyfrau Cymraeg a bod y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn cefnogi’r iaith drwy gynnig amrywiaeth eang o deitlau apelgar.”

“Fel y gwyddom, mae dyfodol yr iaith yn nwylo’r genhedlaeth nesaf, ac felly mae’n beth gwych fod cynifer o rieni yn darllen llyfrau Cymraeg gyda’u plant.”

Nofelau Cymraeg yw’r categori mwyaf poblogaidd ymysg darllenwyr, ac mae hynny eto’n adlewyrchu’r buddsoddiad a wnaed i alluogi’r Cyngor Llyfrau i gomisiynu amrywiaeth eang o deitlau sy’n apelio at wahanol gynulleidfaoedd. Yn sgil y buddsoddiad hwn, cyhoeddwyd toreth o weithiau apelgar o waith nifer o awduron newydd, yn ogystal â chan enwau cyfarwydd.

Mae cofiannau a hunangofiannau hefyd yn parhau’n boblogaidd gyda’r darllenwyr, a gwelwyd cynnydd sylweddol ym mhoblogrwydd llyfrau plant.

Yn ogystal, bu’r arolwg yn edrych ar batrymau prynu llyfrau, ac yn holi sut mae pobl yn dod o hyd i wybodaeth am lyfrau. Mae’r adroddiad yn pwysleisio pwysigrwydd y siopau llyfrau – nid yn unig fel mannau i brynu llyfrau, ond hefyd fel canolfannau  gwybodaeth am lyfrau Cymraeg. Fe welir hefyd fod ysgolion, llyfrgelloedd a’r cyfryngau amrywiol yn ffynonellau pwysig o wybodaeth am lyfrau Cymraeg.

Fel y byddid yn disgwyl, roedd y we yn cael ei defnyddio’n helaeth i ddod o hyd i wybodaeth am lyfrau Cymraeg, yn enwedig ymysg pobl ifanc, ac roedd 18% o’r siaradwyr Cymraeg a holwyd wedi prynu llyfr Cymraeg ar-lein.

Ychwanegodd Elwyn Jones: “Mae canlyniadau’r arolwg hwn yn newyddion ardderchog i’r fasnach lyfrau, yn enwedig felly mewn cyfnod mor heriol yn economaidd. Maent yn dangos hefyd bod cyfraniad y diwydiant cyhoeddi i’r gwaith o hybu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn un holl bwysig. Ein nod yn awr yw sicrhau ein bod yn gallu parhau i gynnig y detholiad gorau posib o lyfrau o safon uchel i’r darllenwyr.”