Dewin Llangollen
Yn Y Cymro mae erthygl am Eilir Owen Griffiths, Cyfarwydwr Cerdd Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen sy’n byw yn Ffynnon Taf. Mae’n sôn am ei fagwraeth yn rhan o deulu oedd yn cynnal nosweithiau llawen yng Nghlwyd. Nawr mae’n gyfansoddwr, arweinydd a darlithydd yng Ngholeg y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin. Ymhlith y llu o gerddorion mae wedi denu i Llangollen eleni mae Jools Holland, Evelyn Glennie a’r Buena Vista Social Club o Hafana. Bydd Côr Godre’r Garth yn ymuno â chôr yr ŵyl i ganu Verdi Requiem nos Wener.