ENLLI YN CIPIO YSGOLORIAETH YR URDD BRYN TERFEL 2014

ENLLI YN CIPIO YSGOLORIAETH YR URDD BRYN TERFEL 2014

 Nos Sul, Hydref 12, 2014 fe gipiodd y ddawnswraig Enlli Parri o Gaerdydd Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2014 mewn noson wefreiddiol a gynhaliwyd yn Neuadd Fawr, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth. Cyflwynwyd yr Ysgoloriaeth, gwerth £4,000 i Enlli yn y noson oedd yn fyw ar S4C ac yn benllanw ar weithgareddau’r Eisteddfod eleni.2014 Enlli Parri

 

Daeth Enlli, sydd yn wreiddiol o Gaerdydd ac yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Plasmawr i’r brig wedi ei pherfformiad gwefreiddiol o flaen y pump beirniad – Cefin Roberts, Eirlys Britton, Eirian Owen, Dafydd Huw a Gwyn L. Jones. Roedd rhaglen Enlli yn cynnwys dawns draddodiadol Gymreig a dawns gyfoes wreiddiol.   Fel rhan o weithgareddau paratoi ar gyfer yr Ysgoloriaeth cafodd ddosbarth meistr gan Cerian Phillips, sydd ei hun wedi cystadlu am yr Ysgoloriaeth yn y gorffennol.

 

Mae Enlli bellach yn byw yn Llundain a newydd gychwyn cwrs BMus yn y Guildhall yn Llundain.

 

Meddai Enlli, “Ges i gymaint o sioc pan wnaethon nhw gyhoeddi fy enw i – o’n i ffili credu’r peth!   Dwi wedi bod yn paratoi ar gyfer yr Ysgoloriaeth ers peth amser, a hoffwn ddiolch i Gapel Minnie Street am gael defnyddio eu festri er mwyn cael digon o ofod i ymarfer!

“Rydw i am ddefnyddio yr arian i ddatblygu fy sgiliau fel cerddor gan fy mod newydd gychwyn cwrs yn Llundain yn astudio’r ffliwt. Byddaf yn parhau i ddawnsio, ond mae hynny yn bennaf fel pleser!”

Yn ôl Cefin Roberts, un o’r beirniaid, “Mi oeddem ni fel panel yn hapus iawn gyda’r chwech berfformiodd heno, ac roedd y safon yn uchel iawn. Mi fu cryn drafod, ac roedd yn agos iawn, ond roedd pawb yn gytûn yn y diwedd mai Enlli oedd yn haeddu ennill.

“Rhoddodd perfformiad arbennig iawn gan gyfathrebu yn wych gyda’r gynulleidfa o ystyried ei bod mor ifanc. Roedd i weld wedi ymlacio wrth berfformio ac yn mwynhau ei hun. Ei chryfder mwyaf oedd fod ganddi amryw o sgiliau ond yn gallu cyrraedd a chyffwrdd pawb yn y gynulleidfa i’r sedd gefn un.”