Galw ar bobl ifanc i rannu’r #PethauBychain
Llywodraeth Cymru yn galw ar bobl ifanc i rannu’r #PethauBychain maen nhw yn ei wneud yn Gymraeg
Ym mis Awst lansiwyd ymgyrch newydd gan Llywodraeth Cymru o’r enw #PethauBychain neu #LittleThingsinWelsh, er mwyn annog pobl o bob oed ar draws Cymru i ddefnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol, neu i gymryd camau i ddysgu Cymraeg. I gyd-fynd â digwyddiadau Sgiliau Cymru sy’n cael eu cynnal ym mis Hydref, mae’r ymgyrch yn targedu pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed, ac yn eu hannog i rannu fideo neu luniau o’r pethau bychain maen nhw yn eu gwneud yn Gymraeg.
P’un ai ei fod yn rywbeth syml fel anfon neges destun, dewis gwasanaeth Cymraeg yn y banc, neu wrando ar gerddoriaeth Cymraeg, nod yr ymgyrch yw i annog pobl ifanc i roi cynnig arni, yna rhannu’r pethau bychain maen nhw’n gwneud yn Gymraeg, ar Facebook neu Trydar drwy ddefnyddio hashtag #PethauBychain neu #LittleThingsinWelsh a thrwy wneud hyn cael cyfle i ennill iphone6.
Mae’r ymgyrch wedi ei deilwra i ddangos pa mor hawdd ydy defnyddio’r Gymraeg wrth eu bywyd bob dydd . Drwy ei ddefnyddio’n gyson, ymhen tipyn fe ddaw yn rhan naturiol o’u bywyd.
Dywedodd Carwyn Jones, Y Prif Weinidog: “Syniad yr ymgyrch yw i annog pawb yng Nghymru i ystyried defnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau, byw, dysgu a mwynhau. Mae cymaint o gyfleoedd o ddydd i ddydd i ddefnyddio’r Gymraeg fel bod angen i ni annog pobl i’w defnyddio. Gall fod yn rhywbeth mor syml â gwylio rhaglen deledu Gymraeg gyda isdeitlau, mynychu digwyddiadau cyfrwng Cymraeg trwy eu Menter Iaith lleol, neu annog eraill i ddysgu Cymraeg.
“Mae’r cysyniad yn hollol syml a rydym wir yn gobeithio y bydd pobl ifanc ar hyd a lled Cymru yn ystyried bod yn rhan o’r ymgyrch.”
Caiff y gystadleuaeth ei lansio ar ddydd Iau y 9fed o Hydref, gan redeg hyd y 30ain o Dachwedd. Rydym eisiau i bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed i gymryd llun neu greu ffilm fer o’r #pethaubychain maent yn eu gwneud yn y Gymraeg a’i rannu ar Facebook neu Trydar gan ddefnyddio’r ‘hashtag’. Bydd yr ymgeisydd gorau yn cael ei ddethol i ennill iphone 6 newydd sbon. Fel rhan o’r ymgyrch hir dymor hwn, mae Llywodraeth Cymru yn datblygu dulliau newydd i hyrwyddo gwell defnydd o’r Gymraeg, yn seiliedig ar dechnegau newid ymddygiad.
Am ragor o wybodaeth hoffwch y dudalen Cymraeg ar Facebook a dilynwch @iaithfyw ar Trydar.
POB LWC