Geiriadur Cymraeg Newydd
Fyddwch chi byth yn brin o eiriau etoâŚ!
Faint ohonon ni syân cael trafferth dod o hyd iâr union air iawnâŚ? Wel, na phoener o hyn ymlaen, oherwydd y mae
Geiriadur Cymraeg Gomer gan y tad aâr mab, D. Geraint Lewis a Nudd Lewis, yn dod iân hachub ni! Maeâr gyfrol yn cynnwys amrywiaeth o eiriau o rai newydd sbon fel âhunlunâ (selfie), âblogiwrâ (blogger), âliposugneddâ (liposuction) a âcwsmereiddioâ (customize) i hen eiriau fel âtrontolâ (am ddolen cwpan) a âcunnogâ (hen air am fwced pren i gario llaeth). Ein hoff air ni yma yn Gomer yw âteisen ffenestrâ am deisen Battenberg ac oeddech chiân gwybod mai âsiop ymdopiâ yw DIY shop? Y geiriadur hwn ywâr union beth sydd ei angen arnoch ar gyfer byw yng Nghymruâr 21ain ganrif.
  Dymaâr gyfrol fwyaf erioed i Wasg Gomer ei gwneud yn ei hanes hir (124 o flynyddoedd hyd yma), tipyn o gamp. Meddai Jonathan Lewis, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasg Gomer: âRydym yn hynod falch o gyhoeddiâr geiriadur newydd cyfoes hwn sydd dros 1,300 o dudalennau. Cyflawnodd Geraint Lewis, aâi fab, Nudd, waith arwrol⌠Bydd hon yn gyfrol werthfawr i bawb syân defnyddio neuân dysguâr Gymraeg am flynyddoedd lawer ac yn garreg filltir anhepgor iâr iaithâ.
  Buâr geiriadur arbennig hwn yn y broses o gael ei greu am yn agos i 20 mlynedd pan y gofynnodd Mr John Lewis i Geraint Lewis weithio ar greu geriadur Cymraeg newydd. Ers hynny, maeâr broses o gasglu geiriau ynghyd wedi bod yn un hir a hynod ddiddorol. Y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a CBAC wedi helpu i ariannuâr cynllun ac wedi bod yn rhan oâr broses gasglu a mireinio geiriau ac ystyron. Defnyddiwyd nifer helaeth o arbenigwyr pwnc a thimau o ddarllenwyr allanol a phrawfddarllewnyr i gael y geiriadur i fwcwl. A dyma ni!
  Y mae Geiriadur Cymraeg Gomer yn cynnwys dros 43,000 o ddiffiniadau a miloedd ar filoedd o eiriau. Fyddwch chi byth yn brin o eiriau eto!
  Bydd y gyfrol ar werth yn eich siop lyfrau leol am £35 neu oddi wrth wefan Gomer www.gomer.co.uk