Safonau Cyntaf yn Weithredol
Llythyr gan Comisiynydd y Gymraeg.
Annwyl Olygydd,
Ar 30 Mawrth eleni fe ddaeth y set cyntaf o safonauâr Gymraeg yn weithredol. Y safonau hyn syân dweud beth ddylai sefydliadau ei wneud yn Gymraeg.
Maeâr safonauân creu hawliau newydd i bobl ddefnyddioâr Gymraeg.
Cynghorau sir, Llywodraeth Cymru aâr parciau cenedlaethol ywâr sefydliadau cyntaf i weithreduâr safonau. Dros amser fe fyddant yn cael eu cyflwyno i sefydliadau a sectorau eraill, mewn meysydd fel iechyd, addysg Ă´l-16, trafnidiaeth cyhoeddus, ynni, gwasanaethau post, tai cymdeithasol, telegyfathrebu a llawer mwy.
Mae safonauân seiliedig ar gyfraith gwlad; ac mae dyletswydd ar sefydliadau i gydymffurfio â nhw. Dylent roi ffydd i chi y gallwch ddefnyddioâr Gymraeg wrth ddelio â sefydliadau syân gweithredu safonau. Os nad ydych wedi gallu derbyn gwasanaeth Cymraeg boddhaol ganddynt, cysylltwch â mi i gwyno.
I ddysgu mwy am eich hawliau ewch iâr dudalen âHawliau i Ddefnyddioâr Gymraegâ ar wefan comisiynyddygymraeg.cymru a dilyn a defnyddio #hawliau ar y rhwydweithiau cymdeithasol. Mae croeso i chi hefyd gysylltu â ni ar y ffĂ´n neuân ysgrifenedig (manylion islaw).
Os ydych yn ysgrifennydd neuân drefnydd grĹľp neu fudiad cymunedol ac yn dymuno fy mod i neu un oâm swyddogion yn dod i siarad am eich hawliau iaith, yna mae croeso mawr i chi gysylltu ac fe drefnwn ymweliad.
Yn gywir,
Meri Huws
Comisiynydd y Gymraeg
Siambrauâr Farchnad
5-7 Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1AT
post@comisiynyddygymraeg.cymru / 0845 6033221