Morfydd Llwyn-Owen o Drefforest

Morfydd fel yr Haul…felyrhaulimage002

Y gyfansoddwraig a’r gantores ddawnus Morfydd Llwyn-Owen yw’r ysbrydoliaeth am nofel hanesyddol newydd Eigra Lewis Roberts.

Mae’r nofel yn portreadu chwe blynedd olaf bywyd y gyfansoddwraig ddisglair Morfydd Llwyn-Owen. Ganed Morfydd yn Nhrefforest yn yr hen sir Forgannwg yn 1891, ac yn un ar hugain oed aeth i astudio cerddoriaeth yn yr Academi Frenhinol yn Llundain. Roedd hefyd yn gantores arbennig, a pherfformiodd ei chaneuon ei hun ar lwyfan yn broffesiynol am y tro cyntaf yn 1917.

Yn y gyfrol fywiog, ddisglair hon, cawn weld dehongliad celfydd Eigra Lewis Roberts o fywyd, gwaith a pherthynas Morfydd â’i theulu a’i chyfeillion.

Daw bywyd ganrif yn ôl yn fyw i ni, a chysgod y Rhyfel Mawr yn gefnlen dywyll i holl ddigwyddiadau’r nofel.

Bu farw Morfydd yn drasig o ifanc, ond darlun ohoni’n fenyw ifanc benderfynol a’i phersonoliaeth gref a welwn ni yma. Fe garodd lawer ac fe ddigiodd lawer, ond roedd hi’n llawn bywyd ac egni ar hyd ei hoes, a hawdd gweld sut y swynodd hi gynifer o bobl yn ystod ei hoes fer.

Meddai Eigra “Mae dros dair blynedd bellach er pan benderfynais i nad oedd troi’n Ă´l i fod nes i mi ddod i wybod rhagor am Morfydd Owen. Canlyniad hynny oedd darllen popeth oedd ar gael amdani hi a’r rhai oedd yn rhan o’i byd, yn arbennig yn y cyfnod rhwng 1912 ac 1918.

“Fe wyddwn o’r dechrau mai nofel oedd hon i fod, nid bywgraffiad na chofiant. Roedd yn bwysig ceisio cael y ffeithiau’n gywir, wrth gwrs, ond unwaith y byddai rheiny gen i ro’n i’n rhydd i ddefnyddio’r dychymyg.”

“Fel hyn y gwelais i Morfydd, yn dlws, yn llawn bywyd, a’r tu hwnt o alluog;

merch ifanc yn ceisio cyfuno dau fyd – y byw teuluol, capelog, cul yn Nhrefforest a’r profiadau a ddaeth i’w rhan yn ystod ei chyfnod tyngedfennol yn Llundain, profiadau yr oedd hi’n barod iawn i’w croesawu ond a oedd, hefyd, yn achosi poen a phryder iddi ar adegau.  Fy ngobaith mwyaf ydy fy mod i wedi bod yn driw iddi a’i bod, fel yr haul, eto’n ennyn yr un mor danbaid o nen byd,” yn Ă´l Eigra.

Bydd Fel yr Haul gan Eigra Lewis Roberts ar gael yn eich siop lyfrau leol neu’n uniongyrchol oddi wrth y cyhoeddwr, Gwasg Gomer www.gomer.co.uk

 

Manylion llyfryddol

Fel yr Haul

Eigra Lewis Roberts

Cyhoeddir gan wasg Gomer

ISBN 9781848515529

ÂŁ8.99, clawr meddal, 376 tudalen