Ysgol Llanhari yn 40

Ysgol LlanhariMae Ysgol Gyfun Llanhari yn 40 mlwydd oed eleni, ac mae Ffrindiau Llanhari am nodi’r ffaith trwy gynnal parti.

Bydd y parti yn gyfle i gyn-ddisgyblion, cyn-athrawon neu unrhywun arall sydd wedi bod yn rhan o deulu mawr Llanhari dros y blynyddoedd, i ddod at ei gilydd i ddathlu.

Hoffwn trwy eich papur, gynnig gwahoddiad gwresog i bawb a fu ers ei dechrau ym 1974 gyda Merfyn Griffiths yn Brifathro, yn rhan o’i hanes. Yn y dechrau roedd plant yn dod o ardaloedd mor wasgaredig â Chaerdydd a Maesteg, felly mae cylch eang o bobl wedi bod trwy gatiau Llanhari dros y blynyddoedd.

Cynhelir y parti nos Sadwrn 18 Hydref yng Nghlwb Athletau Pontyclun. Bydd y noson yn gyfle i glywed ambell i hanesyn gan gyn-ddisgyblion ond yn bwysicach bydd yn gyfle i ddathlu hanes yr ysgol a mwynhau rhannu atgofion a chwrdd â hen gyfeillion. Pris y tocynnau yw £10 fydd yn cynnwys lluniaeth.

Mae gan Ffrindiau Llanhari dudalen ar Facebook a bydd y manylion ar gael yna. Bydd modd archebu tocynnau trwy danfon siec yn daladwy i Ffrindiau Llanhari i’r ysgol. Edrychaf ymlaen at glywed gennych.

facebook

Danny Grehan, Cadeirydd Ffrindiau Llanhari