Crochendy Nantgarw
Crochendy Nantgarw
Lle tawel oedd Nantgarw yn niwedd y ddeunawfed ganrif, ond yn 1794 agorwyd Camlas Morgannwg o Ferthyr Tudful i Gaerdydd a datblygodd y pentref i raddau helaeth oherwydd y gamlas. Mae olion y gamlas iâw weld ger safle crochendy enwog Nantgarw yng nghysgod ffordd yr A470.
Cysylltir enw Thomas Billingsley yn bennaf â gwaith porslen Nantgarw ond cafodd gymorth gan ei fab-yng-nghyfraith, Samuel Walker, a gĹľr busnes oâr enw William Weston Young. Ganwyd Billingsley yn Derby yn 1758 a chafodd ei hyfforddi i baentio porslen yng ngwaith Derby, lle buân gweithio rhwng 1788 a 1796. Ond uchelgais Billingsley oedd cynhyrchu porslen oâr un ansawdd a, os nad gwell na phorslen Seâvres wrth arbrofi. Teithiodd yn eang a chredir iddo ymweld â Nantgarw ar daith yn 1807.
Yn 1813, penderfynodd ymsefydlu yn Nantgarw gydaâi deulu, ac adeiladwyd yr odynnau yn ystod gaeaf 1813-14 ynghyd ag adeiladau angenrheidiol iâr broses o gynhyrchu porslen. Roedd rhaid arbrofi cyn y gellid dechrau cynhyrchuâr porslen.
Roedd Nantgarw yn le delfrydol i sefydlu crochendy oherwydd ei lleoliad ar lannau Camlas Morgannwg. Roedd clai yn gallu cael ei gludo yn hawdd iâr gweithfeydd, tra gellid cludoâr porslen drudfawr i Gaerdydd yn fwy diogel ar y gamlas nag ar gefn ceffyl. Gellid maluâr clai mewn melin gyfagos ac roedd cyflenwad digonol o lo ar gael i danioâr ffwrneisi.
Ond er gwaethaâr amodau ffafriol hyn, methiant fuâr fenter oherwydd prinder arian, a rhaid oedd cael cymorth Thomas Pardoe, arlunydd porslen o fri. Cafodd e ei eni yn Derby hefyd, ac roedd wedi cael profiad yn paentio porslen yng ngwaith Caerwrangon ac yng Nghrochendy Cambrian yn Abertawe, cyn mentro ar ei ben ei hun fel peintiwr porslen ym Mryste yn 1809. Roedd Pardoe and Billingsley yn gyfeillion oâu dyddiau gydaâi gilydd yn Derby. Yn y cyfamser symudodd Billingsley i Abertawe lle sefydlodd Gwaith Tsiena Abertawe. Ond yn sgil trafferthion daeth yn Ă´l i Nantgarw ac yn 1817 fel ail agorwyd crochendy Nantgarw.
Y tro hwn llwyddodd William Weston Young i gael arian oddi wrth rhai o feistri haearn Merthyr, megis William Crawshay a J.J.Guest, a hefyd oddi wrth wšr bonheddig, yn eu plith yr Ardalydd Bute. Yn Ă´l William Weston Young roedd porslen Nantgarw cystal â os nad gwell na unrhyw borslen arall yn y byd. Ond yn 1820 symudodd Billingsley a Walker i Coalport i weithio i Rose. Ond siom oedd yn eu disgwyl eto oherwydd nid oedd porslen Billingsley yn hawdd iâw gynhyrchuân economaidd. Bu farw Billingsley yn Coalport yn 1828, ac ymfudodd Walker iâr Unol Daleithiau.
Gadawodd Billingsley llawer oâi gynnyrch yn Nantgarw, ac mewn ymgais i adennill cyfran oâr arian a fuddsoddwyd yng ngwaith Nantgarw, trefnodd William Weston Young arwerthiant ar 8fed Tachwedd 1820. Ymhlith yr eitemau ar werth roedd nifer o ddarnau porslen Nantgarw wedi eu haddurno yn goeth ag aur. Nid oes sicrwydd mai gwaith arlunio Billingsley oedd ar y darnau hyn. Prynodd Young ei hun gyflenwad o borslen gwyn ac yn 1821 gwahoddodd Thomas Pardoe i Nantgarw i addurnoâr porslen gwyn er mwyn ei werthuân lleol.
Roedd Billingsley wedi mynd â chyfrinach y sglein gwydredd terfynol gydag ef i Coalport – sglein terfynol oedd yn bennaf gyfrifol am arbenigrwydd porslen Nantgarw. Felly roedd rhaid i Young ddyfesio reset ei hun, ond nid oedd mor llwyddiannus ââr un gwreiddiol. Ni chynhyrchodd Young gyflenwad newydd o borslen yn Nantgarw. Ei fwriad oedd cwblhau addurnoâr stoc o lestri gwyn, aâu gwerthuân lleol. Ar Fai 9fed 1821 cynhaliwyd arwerthiant yn y Bontfaen, ac yno fe werthwyd cannoedd o ddarnau o borslen cain. Ond unwaith eto methodd Young â chadwâr crochendy yn Nantgarw i fynd, ac ar Hydref 28, 1822 gwerthwyd gweddill y porslen wedi ei baentio, y porslen gwyn, ac yn Ă´l rhai, y mowldiau. Credir i Pardoe aros yn Nantgarw ac maeân debyg mai ef baentiodd y stoc a werthwyd. Bu farw yn 1823, ac feâi claddwyd yn Eglwysilan.
Agorwyd Crochendy Nantgarw unwaith eto gan fab Thomas Pardoe, William Henry, i gynhyrchu crochenwaith yn hytrach na phorslen. Gwnaeth ef grochenwaith âRockinghamâ – crochenwaith o liw brown cyfoethog – a chynhyrchodd nwyddau megis tebotau, poteli llestri a theils ar gyfer y llawr a llefydd tân. Cynhyrchodd hefyd bibau clai ar gyfer ysmygu tybaco.
Bu farw William Henry yn 1867, a throsglwyddwyd y busnes iâw feibion, a buont yn masnachu o dan yr enw âY Brodyr Pardoeâ. Ond nid oeddent yn medru cystadlu ââr diwydiant sigarennau, ac felly, caeodd y crochendy ei ddrysau am y tro olaf yn 1921.
Hanes trist braidd sydd i grochendy Nantgarw felly. Er i borslen oâr radd flaenaf gael ei gynhyrchu yno, nid oedd gan y crefftwyr y gallu i wneud y fenter yn un llwyddiannus yn ariannol.

Cyfrifir gwaith Billingsley o ran prydferthwch ffurf a cheinder crefft yn uchel iawn ymhlith casglwr porslen, ac erbyn heddiw, oherwydd eu prinder, mae llestri Nantgarw yn gwerthu am bris uchel iawn mewn arwerthiannau.
Dros y blynyddoedd aeth y gwaith lle cynhyrchwyd porslen hardd Nantgarw yn adfeilion ond oherwydd brwdfrydedd pobl leol prynwyd y safle gan Gyngor Bwrdeistref Taf ElĂĄi yn 1989. Ers hynny buddsoddwyd yn helaeth i adfer y gwaith ac erbyn hyn mae arddangosfeydd, artistiaid gwadd a gwersi celf yn cael eu cynnal yno ac maeân atyniad i dwristiaid iâr ardal.
C.W.
Gwefan Crochendy Nantgarw > https://nantgarwchinaworksmuseum.co.uk/