Trwy’r Ddinas Hon
Tair drama am bwer, perthyn ac annibynniaeth barn, wedi eu hysbrydoli gan gorneli tywyll a mannau mawr agored y Brifddinas.
Llwch O’r Pileri
Gan Dyfed Edwards
Mae’r Swastica yn hedfan a’r jacbwt yn pwnio’r palmentydd. Croeso i Gymru 1958, Seren y Reich ac ennillwyr Cwpan y Byd. Ond mae’r FĂĽhrer ar ei ffordd i Gaerydd i ddathlu ac oriau’n unig sydd gan athrawes i arbed enaid ei disgyblion. Ond sut mae llwyddo mewn byd lle mae cyfaill yn elyn a phawb yn fradwr?
Myfanwy Yn Y Moorlands
Gan Sharon Morgan
Pan mae menyw yn canfod ei hun ar strydoedd simsanog Caerdydd, mae’n cwrdd â dieithryn ifanc sy’n mynd â hi ar wibdaith ffantasĂŻol. Ond beth sy’n wir a beth sy’n rhith?
Traed Bach Concrit
Gan Marged Parry
Mae Fflur a Lowri’n mwynhau’r seddi gorau yn arcĂŞd Dewi Sant i wylio dinistr y brifddinas. Ond a fydd gwarchod y gorffennol yn dynfa gryfach na dechrau eto, yn y pendraw?
25-29 Mehefin, 8.00yh
ÂŁ14 | Gosyngiadau: ÂŁ2 i ffwrdd
Rhagddangosiad: ÂŁ12
Dan 25: Hanner Pris
029 2064 6900