Ymgyrch Atal Rhwystrau

Dwr Cymru40% yn llai o RWYSTRAU

Dŵr Cymru’n diolch i bawb am lwyddiant eu hymgyrch atal rhwystrau  

  • Gostyngiad o 40% yn nifer y rhwystrau yng ngharthffosydd Rhondda Cynon Taf a Chaerffili
  • Ymgyrch i godi ymwybyddiaeth yn helpu i leihau’r risg o lygredd, llifogydd mewn cartrefi a gofid mawr  
  • Dŵr Cymru yn diolch i bawb am gymryd rhan yn yr ymgyrch
  • ·         Cynlluniau i ddwysau’r ymgyrch dros y 12 mis nesaf er mwyn gwireddu newid tymor hir

Mae Dŵr  Cymru’n estyn ei ddiolch i drigolion Rhondda Cynon Taf a Chaerffili am chwarae eu rhan wrth sicrhau gostyngiad o 40% yn nifer y rhwystrau yng ngharthffosydd yr ardal.

Ym mis Ebrill, lansiodd y cwmni ymgyrch Stop cyn Creu Bloc flwyddyn o hyd yn y bwriad o ddangos i’w gwsmeriaid sut y gallant helpu i atal tagfeydd mewn carthffosydd rhag achosi llifogydd yn eu cartrefi ac yn eu cymunedau.

Mae’r ymgyrch gychwynnol, a oedd yn canolbwyntio ar ardaloedd RhCT a Chaerffili, wedi arwain at ostyngiad mawr yn nifer y rhwystrau y mae Dŵr Cymru wedi gorfod eu clirio dros y ddau fis diwethaf. Mae rhwystrau mewn carthffosydd yn costio dros £7miliwn y flwyddyn i’w clirio, ac maen nhw’n achosi gofid mawr, difrod i gartrefi a busnesau, ac maent yn gallu achosi llygredd ofnadwy yn ein hafonydd prydferth ac ar ein traethau, a difrodi’r amgylchedd ehangach yng Nghymru.

Roedd yr ymgyrch i godi ymwybyddiaeth yn cynnwys gweithdai addysgiadol mewn ysgolion ar draws y Cymoedd, pod harddwch teithiol, a thimau cynghori’n ymweld â gwerthwyr bwydydd parod a chartrefi. Cafodd y cyfan ei ategu gan ymgyrch amlgyfrwng a oedd yn cynnwys fideo, hysbysebion ar y radio, y teledu a’r cyfryngau cymdeithasol, a gwefan rhyngweithiol www.letsstoptheblock.com sy’n rhoi cyfle i blant ddysgu rhagor ac ennill gwerth £1500 o offer gwyddoniaeth ar gyfer ysgol o’u dewis.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Gwastraff Dŵr Cymru, Steve Wilson; “Rydyn ni wedi gweld canlyniadau gwych yn ystod dau fis cyntaf yr ymgyrch. Mae hi wedi bod yn ymdrech aruthrol o waith tîm gan bawb a fu wrthi, a hoffem ddiolch yn arbennig i bobl RhCT a Chaerffili am ein cynorthwyo ni yn hyn o beth. Mae atal rhwystrau yn y carthffosydd wedi golygu llai o achosion o lygredd, llai o lifogydd mewn cartrefi a llai o ofid i’r trigolion.

 

“Eitemau pob dydd fel clytiau bach, cadachau misglwyf, ffyn gwlân cotwm bychain ac edau dannedd sy’n achosi’r rhan fwyaf o’r rhwystrau rydyn ni’n dod ar eu traws, yn ogystal â braster, olew a saim y mae pobl wedi ei arllwys i lawr eu draeniau. Nid yw llawer o bobl yn gwybod bod y pethau hyn yn gallu peri i’r carthffosydd orlifo ac achosi llygredd yn eu cartrefi a’u cymunedau. Yn wir, mae hi’n anghyfreithlon taflu neu wagio unrhyw beth sy’n debygol o niweidio carthffos neu draen i’n rhwydwaith, neu darfu ar lif y carthffosydd.

“Mae llwyddiant yr ymgyrch hyd yn hyn yn dangos beth sy’n bosibl pan fo pawb yn chwarae eu rhan. Y sialens nawr yw adeiladu ar y dechrau da yma a sbarduno newid tymor hir yn ymddygiad ein cwsmeriaid o ran taflu pethau i lawr y tŷ bach a chael gwared ar fraster, olew a saim. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddwysáu ein hymgyrch codi ymwybyddiaeth a’i hehangu i ardaloedd eraill dros y 10 mis nesaf.”

Dywedodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Alun Davies AC; “Hoffwn longyfarch Dŵr Cymru ar y dechrau bendigedig i’w hymgyrch a diolch i bobl Rhondda Cynon Taf a Chaerffili am helpu i gyflawni hyn. Mae llifogydd o garthffosydd sydd wedi tagu yn gallu cael effaith ddifrodus iawn ar ein cartrefi, ein strydoedd a’r amgylchedd ehangach. Mae Cymru’n ffodus fod ganddi rai o afonydd, traethau ac ardaloedd glan môr gorau’r byd, ac mae hyn yn dangos ein bod ni’n gallu helpu i leihau’r perygl o lygredd a llifogydd yn ein cymunedau pan fyddwn ni i gyd yn gwneud ein rhan i stopio’r bloc.”

 

Ychwanegodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadw Cymru’n Daclus ”Mae Cadw Cymru’n Daclus yn cefnogi’n llwyr ymgyrch Dŵr Cymru ac rydyn ni wrth ein bodd i glywed am lwyddiant cynnar yr ymgyrch Stop cyn Creu Bloc. Mae llawer o bethau bychain fel ffyn gwlân cotwm yn troi’n sbwriel ar ein traethau hardd ac mae braster neu olew sy’n cael ei arllwys i lawr y sinc yn gallu peri i garthffosiaeth gael ei ryddhau i’n moroedd. Mae hyn yn gallu difetha ymweliad braf â’n harfordir hyfryd. Rhowch nhw yn y bin, neu ailgylchwch nhw – peidiwch byth â’u fflysio!”