Yr Hen Lyfrgell – mis cyntaf prysur wedi’r agoriad mawreddog
Mae’n anodd credu bod dros fis ers penwythnos agoriadol canolfan Gymraeg newydd ein prifddinas. Wedi cynnal llu o weithgareddau a digwyddiadau, gwerthu degau o gardiau, gweini cannoedd o giniawau a thynnu miloedd o beintiau mae Yr Hen Lyfrgell yn parhau i groesawu pobl o bob oed i brofi’n iaith a’n diwylliant yng nghanol y ddinas.
Gyda phencampwriaeth y Chwe Gwlad nawr ar ben mae’n braf gallu edrych yn ôl ar y naws cyffrous a gafodd ei greu yn y Caffi Bar Yr Hen Lyfrgell gyda llawer o’r diolch yn mynd i Gôr Meibion Bro Taf, Bechgyn Bro Taf a Chôr Canna am ein diddanu. Bydd yr un cyffro’n siŵr o ddychwelyd pan ddilynwn ymdrechion ein tîm pêl-droed cenedlaethol yn Ffrainc ym Mehefin.
Hyfryd hefydd oedd croesawu nifer o gymdeithasau a chwmnïau i’r ystafelloedd cynhadledd gan gynnwys Cwlwm Busnes Caerdydd, Cyfreithwyr Cymru, Llywodraeth Cymru, Mentrau Iaith Cymru a llawer mwy. Mae’n galonogol gweld cymaint o fusnesau yn heidio i’r ganolfan i drafod a datblygu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn llenwi’r hen adeilad eiconig hanesyddol yma.
Ond nid adeilad i gynadledda yw hi’n unig. Mae bwyd ein prif gogydd, Padrig Jones o Les Gallois gynt, wedi derbyn canmoliaeth fawr gyda lluniau llond plat o ginio dydd Sul yn dod yn boblogaidd tu hwnt ar y cyfryngau cymdeithasol.
Fel menter hunan cynhaliol mae’r ganolfan yn dibynnu ar gefnogaeth hael ein cymdeithas Gymreig yng Nghaerdydd a thu hwnt ac mae diolch mawr iawn i’r rheiny sydd wedi cyfamodi’n Ffrindiau Yr Hen Lyfrgell dros y misoedd diwethaf. Mae wedi bod yn bleser gallu agor ein drysau a rhannu’n gweledigaeth gyda phobl o bob oed. Edrychwn ymlaen at eich croesawu.
Gallwch ddarganfod ein horiau agor, gwybodaeth am sut i ddod yn Ffrind a llawer mwy ar ein gwefan,