John Elfed yn ddiflewyn-ar-dafod

Ac yntau’n un o bersonoliaethau mwyaf dadleuol a diflewyn-ar-dafod Cymru, mae John Elfed Jones wedi hen arfer â chreu penawdau cenedlaethol. Beth felly yw gwir gymhellion y gŵr adnabyddus hwn sydd wedi arwain rhai o gyrff a mudiadau mwyaf pwerus y wlad? 20130626JohnElfed2

Fe gawn ddarganfod mwy am gyn-gadeirydd Dŵr Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg wrth iddo gyhoeddi ei hunangofiant, Dyfroedd Dyfnion.

Mae CV John Elfed, sy’n enedigol o Faentwrog ond bellach yn byw yn y Coety ger Pen-y-bont ar Ogwr, yn rhyfeddol a dweud y lleiaf. Ymhlith ei restr faith o gyn-swyddi mae Dirprwy Gyfarwyddwr Rheoli Alwminiwm Môn, Is-Ysgrifennydd yn y Swyddfa Gymreig, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Cadeirydd HTV Cymru a Chadeirydd Dŵr Cymru.

Gyda dros ugain mlynedd o swyddi uchel eu proffil o dan ei felt, mae’n saff dweud nad yw’r gŵr hwn erioed wedi bod ofn dweud ei ddweud. Tra oedd yn Gadeirydd Bwrdd yr Iaith adeg y paratoi ar gyfer Deddf Iaith 1993, câi alwadau ffôn bygythiol i’w gartref gyda’r nos. Cafodd gryn sylw yn dilyn erthygl yng nghylchgrawn Barn unwaith, wedi iddo gymharu effaith y llif o fewnddyfodiaid di-Gymraeg ag effaith clwy’r traed a’r genau, oedd yn anrheithio’r Gymru wledig ar y pryd.

Dywed John: “Honnwyd fod fy sylwadau yn hiliol a’m bod yn galw’r Saeson yn glwy’r traed a’r genau ond yr hyn a ‘sgrifennais i, mewn gwirionedd, oedd bod dylanwad y mewnddyfodiaid yn newid natur cefn gwlad Cymru yn union fel roedd clwy’r traed a’r genau’n debygol o’i wneud.

“Rwy’n dal i sefyll wrth fy sylwadau ac rwyf yn credu bod yr un peth yn dal yn wir heddiw.”

Mae’r nodweddion yma’n parhau’n glir yn ei hunangofiant wrth iddo fynd ati i adrodd ei hanes yn ddidwyll.

Yn ystod ei gyfnod o 11 mlynedd fel Cadeirydd Dŵr Cymru bu’n goruchwylio’r broses o breifateiddio’r cwmni, gan ennill clod fel y dyn a drodd y busnes yn broffidiol ar ôl colledion mawr. Y llynedd creodd sylwadau’r cyn-bennaeth benawdau cenedlaethol unwaith eto pan ddywedodd y dylai Lloegr orfod talu am ddefnyddio dŵr o Gymru.

“Mae’n gywilyddus bod 30% o ddŵr Cymru yn mynd i Loegr. Mae’n adnodd pwysig a gwerthfawr i ni a dyle ni fod yn ei drin fel mae’r Albanwyr yn trin olew,” meddai John.

“Rydw i wastad wedi bod yn berson sydd ddim ofn dweud ei ddweud ac anaml fydda i’n difaru. Os ydw i wedi dweud rhywbeth sydd wedi brifo rhywun yn bersonol, yna rwy’n difaru, ond byth am fy sylwadau am gyrff neu fudiadau.”

Cawn glywed hefyd am ei falchder am ei gyfnod fel Cadeirydd cyntaf Bwrdd yr Iaith: “Rwy’n hynod falch o fy ngwaith gyda’r Bwrdd, roedd hi’n fraint ac anrhydedd i mi gael bod yn rhan o’r Ddeddf Iaith gyntaf. Er y balchder, roedd yn gyfnod anodd tu hwnt a derbyniais fygythiadau difrifol, gan gynnwys rhai i losgi fy nhŷ,” meddai John.

“Ar yr un llaw roedd y Bwrdd a’r Cymry Cymraeg yn cwffio am ddeddf sylfaenol a swmpus, ac ar y llaw arall roedd y Llywodraeth yn gyndyn o basio’r ddeddf ac yn ceisio ei chyfyngu hi o hyd. Ar y diwedd ro’n i’n teimlo fy mod wedi bod trwy 10 rownd gyda Cassius Clay!”

Ychwanega John: “Beth bynnag, mi gafwyd Deddf Iaith wedi llawer o drafod â swyddogion y Swyddfa Gymreig a thipyn o gyfaddawdu ar y ddwy ochr. Gwell tri chwarter torth na dim bara o gwbl i’r sawl sy’n newynu – roedd hi’n sylfaen hynod bwysig.”

Cynhelir lansiad Dyfroedd Dyfnion yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, nos Wener, 28 Mehefin am 7 o’r gloch.

Dyfroedd Dynion       John Elfed

Y Lolfa      £9.95

ISBN: 9781847716750