Sialens Kilimanjaro – 20fed – 29ain o Fedi, 2013

Cynhaliwyd noson wych yng Ngwesty’r Village, Caerdydd yr ail ar bymtheg o Ebrill lle daeth tua 200 o bobol ynghyd i wrando ar Iolo Williams yn traddodi ar Fywyd Gwyllt Cymru. Rhan o ymgyrch codi arian Iolo, Shân Cothi a Cheryl Jones oedd y noson – codi arian ar gyfer ymchwil cancr. Ond nid trwy ddarlithio a gwerthu tocynnau raffl y bydd y glewion yma yn codi pres – o’u blaenau mae sialens aruthrol. Byddant yn rhan o grwp o ddringwyr glew fydd yn taclo Mynydd Kilimanjaro yn Nhanzania fis Medi eleni er mwyn codi ymwybyddiaeth o waith di-flino ysbyty Felindre, Caerdydd. Codi ymwybyddiaeth a chodi arian wrth gwrs. Os am gefnogi gellwch ymweld â gwefan ysbyty Felindre sef

www.velindrefundraising.com/trekofalifetime  neu i gefnogi tâm Shân sy’n casglu arian er mwyn hyrwyddo’r ymchwil i gancr y pancreas – yr elusen amserjustintime – trwy ymweld â www.justgiving.com/Kili-Angels

Diolch Iolo am noson arbennig o gofiadwy. Dewisodd rhyw ugain o sleidiau – lluniau o’i hoff blanhigion, hoff greaduriaid, hoff adar ac fe gawson berlau wrth iddo adrodd straeon am ei brofiadau a rhannu o’i wybodaeth faith. Pob lwc ar y daith – pob lwc gyda chodi arian! Dewch yn Ă´l yn saff i adrodd yr hanes!