Torri gwasanaeth Cerddoriaeth i blant
UCAC yn gwrthwynebu torri Gwasanaeth Cerddoriaeth Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf
Â
Mae Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi ddoe eu hymgynghoriad i dorri gwasanaeth Cerddoriaeth i blant ysgolion y sir yn gyfan gwbl. Fe ddaw’r penderfyniad hwn yn sgil cyhoeddiad y cyngor fod angen arbed oddeutu ÂŁ31.2miliwn yng nghyllideb y cyngor y flwyddyn nesaf (2015/16).
 Mae’r gwasanaeth hwn yn gyfrifol am ddarparu gwersi cerddoriaeth peripatetig (offerynnol a lleisiol) ynghyd a darparu gwersi ar gyfer cwricwlwm yr ysgol i oddeutu 5300 o blant ardraws y sir. Hefyd mae’r gwasanaeth yn darparu dros 20 o grwpiau allgyrsiol wythnosol sy’n sicrhau fod cerddorion ifanc yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn cerddorfeydd, bandiau, ensembles a chorau a hynny i gyd am ddim. Mae’r rhain yn cynnwys Cerddorfa Ieuenctid y Pedair Sir, Band Pres, Cerddorfa Linynnol a Band Chwyth.
Â
Dywedodd Cynrychiolydd ar ran UCAC:
Â
Â
Â
               “Mae’r penderfyniad hwn gan Gyngor Sir Rhondda Cynon Taf i dorri gwasanaeth gerddoriaeth y sir yn gyfan gwbl yn codi pryder sylweddol am ddyfodol cerddorion ifanc y sir a’i sgil effeithiau i Gymru gyfan. Nid yn unig bydd plant y sir yn colli’r cyfle i dderbyn gwersi o’r fath yma ond hefyd mae’r gwasanaeth cyson y mae’r Gwasanaeth Cerddoriaeth wedi ei gynnig dros y blynyddoedd wedi bod o’r safon uchaf.”
Â
Â
Â
Yn ogystal mi fydd y gwasanaethau canlynol yn cael eu torri:
 • Arholiadau Associated Board of the Royal Schools of Music a Trinity London sy’n cael eu cynnal 3 gwaith y flwyddyn gyda chyfeilyddion di-dâl
 • Gwyliau Cerddorol Blynyddol: Gŵyl Gerddoriaeth Nadolig i ysgolion cynradd yng Nghadeirlan Llandaf (gydag oddeutu 750 o blant yn cymryd rhan) Gŵyl Gerddoriaeth yr Ysgolion mewn theatrau lleol (gydag oddeutu 1000 o blant yn cymryd rhan)
 • Cyfleoedd i gerddorion ifanc i berfformio ar lwyfannau ar draws y sir ac ymhellach yn cynnwys Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, Canolfan Mileniwm Cymru, Coleg Cerdd a Drama Cymru Caerdydd, Cadeirlan Llandaf, Gŵyl Bres Bury Port, yr Ĺ´yl Genedlaethol Gerddoriaeth a’r Ŵyl Genedlaethol i Gerddoriaeth yr Ifanc (National Festival of Music for Youth) yng Nghwmbrân a Chaerdydd
 • Prosiectau a gweithdai mewn ysgolion ar draws y sir mewn cydweithrediad gydag adrannau eraill o fewn y cyngor, ee. SONIG a Gwasanaethau Diwylliannol, ynghyd â sefydliadau eraill fel BBCNOW, Tŷ Cerdd ac Opera Cenedlaethol Cymru