Trafod dyfodol yr iaith

Ysgol Gyfun Garth Olwg yn ymuno â’r drafodaeth am ddyfodol yr iaith Gymraeg

20130624iaithgolwg2Heddiw  ymunodd disgyblion Ysgol Gyfun Garth Olwg â’r drafodaeth genedlaethol am ddyfodol y Gymraeg yn ystod ymweliad â’r ysgol gan Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru.

 

Mae Iaith fyw: cyfle i ddweud eich dweud yn gwahodd pobl o bob rhan o’r wlad, waeth beth yw eu cefndir a’u gallu yn y Gymraeg, i fynegi eu barn a rhannu eu syniadau ar gyfer yr iaith.

Siaradodd y disgyblion â’r Prif Weinidog am eu profiad o siarad Cymraeg a’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r dosbarth.

Mae grwpiau cymunedol tebyg ar draws Cymru, gan gynnwys canghennau Merched y Wawr, yr Urdd a’r Mentrau Iaith, hefyd yn bwydo eu sylwadau i’r drafodaeth bwysig hon.

Gall pobl gymryd rhan mewn sawl ffordd, gan gynnwys drwy ddefnyddio fforwm ar-lein, drwy lenwi arolwg ar-lein, drwy rwydweithio cymdeithasol ar Facebook a Twitter gan ddefnyddio’r hashtag #iaithfyw, drwy e-bostio iaithfyw@iaith.eu neu drwy ffonio 01239 711 668.

Bydd y sylwadau, y profiadau a’r enghreifftiau o arfer da y mae pobl yn eu rhannu yn cael eu trafod mewn cynhadledd undydd genedlaethol, y Gynhadledd Fawr, a gynhelir yn Aberystwyth ar 4 Gorffennaf.

Bydd modd gwylio’r gynhadledd yn fyw ar y diwrnod a chymryd rhan ar-lein. Caiff yr wybodaeth a ddaw i law ei defnyddio i lywio polisi a gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol yr iaith.

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Roedd yn braf cael siarad â’r disgyblion brwdfrydig yn Ysgol Gyfun Garth Olwg heddiw a chlywed eu syniadau ar sut orau i sicrhau bod yr iaith yn ffynnu.

“Pobl ifanc yw dyfodol yr iaith ac rydym eisiau clywed am y materion amrywiol sy’n effeithio arnynt. Er enghraifft, rydym eisiau gwybod pam fod cymaint o bobl ifanc sy’n gallu siarad Cymraeg ddim yn siarad yr iaith yn gymdeithasol, a sut i’w hannog i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r ysgol.

“Dyma gyfle gwych i bobl ar draws Cymru, o bob oed a chefndir, i ddweud eu dweud a gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae’r iaith yn rhan sylweddol o’n hunaniaeth ddiwylliannol, ac mae gan bawb rôl bwysig i’w chwarae o ran sicrhau ei bod yn ffynnu.”