Ydych chi’n credu y gallwch Guro’r Bwci?

Curo'r BwciMae gan Gymru broblem gamblo ddifrifol. Er mai Cymru yw’r unig un o’r gwledydd cartref sydd heb gasglu ystadegau am gamblo problemus ac Anhwylder Gamblo (cyflwr oedd yn arfer cael ei alw’n Gamblo Patholegol), ar gyfartaledd mae’r boblogaeth yn gamblo cyfanswm sydd gyfwerth â 3.4% (£1.6 biliwn) o Gynnyrch Domestig Gros (GDP) y wlad bob blwyddyn ar Beiriannau Betio Ods Sefydlog (Fixed Odd Betting Terminals) – sydd gyfwerth â £675 i bob oedolyn yn y wlad.

Mewn ymdrech i fynd i’r afael â’r broblem, mae CAIS a Stafell Fyw Caerdydd yn cydweithio ag Alcohol Concern a Chanolfan Astudiaethau Trin Caethiwed Action on Addiction i lansio gwasanaeth newydd – Curo’r Bwci – i helpu pobl yng Nghymru i fynd i’r afael â’u problemau gamblo.

Fodd bynnag, er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau posibl, mae angen i’r tîm siarad â phobl sy’n brwydro yn erbyn problemau gamblo er mwyn llunio’r gwasanaethau a sicrhau eu bod nhw wedi’u seilio ar y dystiolaeth ryngwladol orau. Y nod cychwynnol yw sefydlu grwpiau ffocws a sianeli’r mewnbwn hwn i helpu llywio rhoi gwasanaeth cenedlaethol ar waith i gynorthwyo gamblwyr sydd â phroblem.

Y rhanbarthau sy’n gwario’r cyfansymiau mwyaf yng Nghymru yw De Ddwyrain Cymru (£345 miliwn), Caerdydd (£274 miliwn) a Chymoedd De Cymru (£212 miliwn). Mae Gogledd Cymru yn gamblo cyfanswm o £184 miliwn bob blwyddyn, tra bod Bro Morgannwg a Phowys yn gwario llai na £31 miliwn ar gamblo bob blwyddyn.

Dywedodd Wynford Ellis Owen, sy’n arwain ymgyrch Curo’r Bwci ar ran Stafell Fyw Caerdydd: “Nid yw gamblo’n ffenomen newydd, ond mae gamblo problemus ar gynnydd yng Nghymru. Mae’r ffigyrau ar gyfer Cymru a Lloegr yn dangos bod modd ystyried bod bron 2% o ddynion yn Gamblwyr Patholegol. Gall problemau gamblo arwain at faterion emosiynol, ariannol a seicolegol difrifol iawn y mae’n anodd sylwi arnynt hyd nes bod y sefyllfa’n ddwys iawn i’r unigolion sy’n cael eu heffeithio.

“Mae hi’n haws nag erioed gamblo heddiw – un ai ar y stryd fawr neu ar gyfrifiadur neu’r teledu. Gydag oddeutu 1,500 o Beiriannau Betio Ods Sefydlog yng Nghymru, mae’r cyfanswm ar gyfartaledd sy’n cael ei wario ar bob peiriant ychydig dros £1,000,000 y flwyddyn, neu oddeutu £3,000 bob dydd, sy’n arwain at elw cyn treth o £34,000 y peiriant.

“Nod Curo’r Bwci yw cynnig gwasanaeth newydd na welwyd mo’i fath yng Nghymru o’r blaen. Rydym ni eisiau mynd i’r afael â’r stigma sy’n gysylltiedig â gamblo problemus ac annog unrhyw un sy’n teimlo’i bod yn colli rheolaeth dros ei bywyd yn sgil gamblo i gysylltu â ni er mwyn helpu creu pecyn teilwredig i’w gyflwyno ledled Cymru.”

Mae mwy o wybodaeth am y gwasanaeth ar gael trwy glicio ar y ddolen isod:http://www.livingroom-cardiff.com/beattheodds/beattheodds.html